Arwain eich tîm
URN: CFAM&LBA3
Sectorau Busnes (Suites): Rheolaeth & Arweiniad,Marchnata (2013,Technoleg Anifeiliaid,Gweithrediadau Lleoliad Treftadaeth a Diwylliannol,Rheoli Lleoliad Treftadaeth a Diwylliannol,Goruchwylio Weldio
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
2012
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rhoi cyfarwyddyd i aelodau eich tîm a’u hysgogi a’u cefnogi i gyflawni amcanion y tîm a’u hamcanion gwaith unigol.
Mae’n berthnasol i arweinwyr timau, rheolwyr prosiectau a rheolwyr eraill sy’n gyfrifol am arwain timau. Mae CFAM&LBA1 Arwain eich sefydliad a CFAM&LBA2 Darparu arweiniad yn eich maes cyfrifoldeb yn safonau ategol i reolwyr sydd â chyfrifoldebau ehangach.
Mae'r safon hon yn cysylltu â nifer o safonau eraill yn y maes allweddol DB Rheoli timau a hefyd CFAM&LFA5 Rheoli prosiectau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cyfleu pwrpas ac amcanion y tîm yn glir i'r holl aelodau.
2. Cynnwys aelodau yn y gwaith o gynllunio sut bydd y tîm yn cyflawni ei amcanion.
3. Sicrhau bod gan bob aelod o'r tîm amcanion gwaith unigol a bod pob aelod yn deall sut mae'r rhain yn cyfrannu at gyflawni amcanion y tîm a’r sefydliad cyfan.
4. Annog a chefnogi aelodau'r tîm i gyflawni eu hamcanion gwaith unigol ac amcanion y tîm a rhoi cydnabyddiaeth pan fydd amcanion wedi’u cyflawni.
5. Llywio'r tîm yn llwyddiannus drwy anawsterau a heriau.
6. Annog a chydnabod creadigrwydd ac arloesedd yn y tîm.
7. Grymuso aelodau'r tîm i ddatblygu eu ffyrdd eu hunain o weithio ac i wneud eu penderfyniadau eu hunain o fewn ffiniau a gytunir.
8. Annog aelodau’r tîm i gymryd cyfrifoldeb dros eu hanghenion datblygu eu hunain.
9. Rhoi cefnogaeth a chyngor i aelodau’r tîm pan fydd angen hynny arnynt, yn enwedig yn ystod cyfnodau anodd neu gyfnodau o newid.
10. Ysgogi aelodau’r tîm i gyflwyno eu syniadau eu hunain a gwrando ar yr hyn sydd ganddyn nhw i'w ddweud.
11. Annog aelodau’r tîm i gymryd yr awenau pan fydd yr wybodaeth a’r arbenigedd ganddynt a dangos parodrwydd i ddilyn yr arweiniad hwn.
12. Ennill, drwy eich perfformiad a’ch ymddygiad eich hun, ymddiriedaeth a chefnogaeth aelodau’r tîm.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth
Mae angen i chi wybod a deall:
Dealltwriaeth a gwybodaeth gyffredinol
1. Gwahanol ffyrdd o gyfathrebu’n effeithiol gydag aelodau’r tîm.
2. Sut mae gosod amcanion CAMPUS (Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol a Synhwyrol)
3. Sut mae cynllunio’r gwaith o gyflawni amcanion y tîm a pham ei bod yn bwysig cynnwys aelodau’r tîm yn y broses hon.
4. Pwysigrwydd amcanion gwaith personol a gallu dangos i aelodau'r tîm sut mae'r rhain yn cyfrannu at gyflawni amcanion y tîm.
5. Sut mae cael a defnyddio adborth gan bobl am eich perfformiad fel arweinydd.
6. Sut mae dewis dulliau o ysgogi, cefnogi ac annog aelodau’r tîm a chydnabod eu cyflawniadau, a rhoi'r dulliau hynny ar waith yn llwyddiannus.
7. Mathau o anawsterau a heriau sy'n gallu codi a ffyrdd o’u hadnabod a mynd i’r afael â nhw.
8. Pam ei bod yn bwysig annog eraill i gymryd yr awenau a dulliau o gyflawni hyn.
9. Sut mae annog a chydnabod creadigrwydd ac arloesedd yn y tîm.
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r diwydiant/sector
10. Gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol yn y diwydiant/sector.
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n benodol i'r cyd-destun
11. Unigolion yn eich tîm, eu rolau, eu cyfrifoldebau, eu cymwysterau a’u potensial.
12. Cynlluniau, amcanion a phwrpas eich tîm.
13. Amcanion gwaith personol aelodau eich tîm.
14. Y mathau o gefnogaeth a chyngor y mae’n debygol y bydd eu hangen ar aelodau’r tîm, a sut mae ymateb i’r rhain.
15. Safonau perfformiad ar gyfer gwaith eich tîm.
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
1. Gwrando’n astud, gofyn cwestiynau, esbonio safbwyntiau ac ail-adrodd neu ail-eirio datganiadau er mwyn sicrhau cyd-ddealltwriaeth
2. Sicrhau bod amser ar gael gennych i gefnogi pobl eraill
3. Cefnogi pobl eraill i ddefnyddio eu gallu yn effeithiol
4. Annog pobl eraill i wneud penderfyniadau’n annibynnol, pan fo’n briodol
5. Cydnabod cyflawniadau a llwyddiant pobl eraill
6. Annog a chroesawu adborth gan bobl eraill a defnyddio'r adborth hwnnw mewn ffordd adeiladol
7. Gweithredu o fewn terfynau eich awdurdod
8. Cyfeirio materion sydd y tu hwnt i derfynau eich awdurdod at sylw'r bobl briodol
9. Dangos uniondeb, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau
10. Ysgwyddo'r cyfrifoldeb yn bersonol dros wneud i bethau ddigwydd
11. Diogelu eich gwaith eich hun a gwaith pobl eraill rhag effeithiau negyddol
12. Ceisio deall anghenion pobl eraill a beth sy'n eu hysgogi
13. Creu ymdeimlad o nod cyffredin
14. Modelu ymddygiad sy'n dangos, ac sy’n ysbrydoli pobl eraill i ddangos, parch, cymwynasgarwch a chydweithrediad
Sgiliau
Wrth berfformio i'r safon hon, rydych chi'n debygol o ddangos y sgiliau canlynol:
• Cyfathrebu
• Ymgynghori
• Gwneud penderfyniadau
• Dilyn arweiniad
• Cynnwys pobl eraill
• Arweinyddiaeth
• Arwain drwy esiampl
• Rheoli gwrthdaro
• Monitro
• Ysgogi
• Cael adborth
• Cynllunio
• Datrys problemau
• Rhoi adborth
• Pennu amcanion
• Meithrin tîm
• Gwerthfawrogi a chefnogi pobl eraill
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2015
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
CFA Business Skills @ Work
URN gwreiddiol
CFAM&LBA3
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, Galwedigaethau Artistig a Llenyddol, Galwedigaethau marchnata, Arweinydd Tîm, Rheolwr Cyfleuster Anifeiliaid, Y Celfyddydau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Llyfrgelloedd a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig, Rheolwyr Gofal Cwsmeriaid ac Ansawdd, Goruchwyliwr Weldio
Cod SOC
8126;5330
Geiriau Allweddol
Rheolaeth ac arweinyddiaeth; arwain; tîm; arweinwyr tîm; rheolwyr prosiect; Marchnata; lleoliad; Goruchwylio Weldio;