Datblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch cymhwysedd
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chymryd cyfrifoldeb dros ddatblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch cymhwysedd eich hun er mwyn bodloni gofynion presennol eich gwaith a'r gofynion yn y dyfodol ac i gynorthwyo eich datblygiad personol a gyrfaol.
Mae'r safon hon yn berthnasol i bob rheolwr ac arweinydd.
Mae'r safon hon yn cysylltu'n agos â CFAM&LAA1 Rheoli eich hun. Mae hefyd yn cysylltu'n agos â'r safonau ym maes allweddol DC Datblygu a chefnogi unigolion sydd yn ymwneud â helpu eraill i ddatblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u cymhwysedd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Monitro tueddiadau a datblygiadau yn eich sector a'ch maes arbenigedd proffesiynol a gwerthuso eu heffaith ar eich rôl yn y gwaith.
Gwerthuso, ar adegau priodol, gofynion presennol eich gwaith a'r gofynion yn y dyfodol, gan ystyried gweledigaeth ac amcanion eich sefydliad.
Nodi'r dulliau dysgu sydd yn gweithio orau i chi a sicrhau eich bod yn ystyried y rhain wrth nodi a chynnal gweithgareddau datblygu.
- Nodi unrhyw fylchau rhwng gofynion presennol eich rôl yn y gwaith a'r gofynion yn y dyfodol a'ch gwybodaeth, eich sgiliau a'ch cymhwysedd presennol.
- Trafod a chytuno, gyda'r rheiny yr ydych yn adrodd iddynt, ar gynllun datblygu sydd yn mynd i'r afael ag unrhyw fylchau a nodir yn eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch cymhwysedd ac sy'n cefnogi eich nodau gyrfaol a phersonol.
- Cynnal y gweithgareddau a nodir yn eich cynllun datblygu a gwerthuso eu cyfraniad i'ch perfformiad.
- Cael adborth rheolaidd ar eich perfformiad gan y rheiny sydd yn gallu rhoi adborth gwrthrychol, penodol a dilys.
- Adolygu a diweddaru eich cynllun datblygu yng ngoleuni eich perfformiad, unrhyw weithgareddau datblygu a wnaed ac unrhyw newidiadau ehangach.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth gyffredinol a dealltwriaeth
Yr egwyddorion sydd yn ategu datblygiad proffesiynol.
Sut i werthuso gofynion presennol rôl yn y gwaith a sut gallai'r gofynion esblygu yn y dyfodol.
Sut i fonitro newidiadau, tueddiadau a datblygiadau.
Sut i werthuso effaith ffactorau gwahanol ar eich rôl.
Sut i nodi anghenion datblygu i fynd i'r afael ag unrhyw fylchau a nodir rhwng gofynion eich rôl yn y gwaith a'ch gwybodaeth, eich dealltwriaeth a'ch sgiliau presennol.
- Yr hyn y dylai cynllun datblygu effeithiol ei gynnwys a'r amser y dylai ei olygu.
- Pwysigrwydd ystyried eich gyrfa a'ch nodau personol wrth gynllunio eich datblygiad proffesiynol.
- Yr ystod o ddulliau dysgu gwahanol a sut i nodi'r dulliau sydd yn gweithio orau i chi.
- Y math o weithgareddau datblygu y gellir eu gwneud i fynd i'r afael â bylchau a nodir yn eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch cymhwysedd.
- Sut i werthuso'r graddau y mae gweithgareddau datblygu wedi cyfrannu at eich perfformiad.
Sut i ddiweddaru cynlluniau datblygu yng ngoleuni eich perfformiad, unrhyw weithgareddau datblygu a gynhaliwyd ac unrhyw newidiadau ehangach.
Sut i nodi a defnyddio ffynonellau adborth priodol ar eich perfformiad.
Gofynion eich rôl yn y gwaith yn cynnwys terfynau eich cyfrifoldebau.
Eich nodau gyrfaol a phersonol.
Eich dulliau dysgu dewisol.
Lefelau eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch cymhwysedd presennol.
Bylchau a nodwyd yn eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch cymhwysedd presennol.
Eich cynllun datblygu personol.
Cyfleoedd datblygu a'r adnoddau sydd ar gael yn eich sefydliad.
Polisi a gweithdrefnau eich sefydliad o ran datblygiad personol.
Ffynonellau adborth posibl yn eich sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Cydnabod newidiadau mewn amgylchiadau yn brydlon ac addasu cynlluniau a gweithgareddau yn unol â hynny
- Ceisio cyfleoedd i wella perfformiad
- Datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau a pherfformiad mewn ffordd systematig
- Annog a chroesawu adborth gan eraill a defnyddio'r adborth hwn yn adeiladol
- Adlewyrchu ar eich profiadau a defnyddio'r gwersi i arwain eich penderfyniadau a'ch gweithredoedd
- Cytuno ar heriau heriol ond cyraeddadwy
- Dangos ymwybyddiaeth o'ch gwerthoedd, eich ysgogiadau a'ch emosiynau
- Rhoi perfformiad cyson a dibynadwy
- Cydnabod a gwneud y gorau o'ch cryfderau eich hun
Cydnabod eich cyfyngiadau a cheisio lleihau eu heffaith
Gwneud defnydd effeithiol o'r adnoddau sydd ar gael
Chwilio am ffynonellau cymorth newydd lle bo angen
Sgiliau
- Cyfathrebu
Gwerthuso
Dysgu
- Cael adborth
Cynllunio
Adlewyrchu
Adolygu
Hunanasesu
- Gosod amcanion