Cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth sy’n effeithio ar eich busnes

URN: CFALG2
Sectorau Busnes (Suites): Gweithgareddau Milfeddygol Para-broffesiynol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Ebr 2008

Trosolwg

​Mae'n bwysig sicrhau bod eich busnes, yn cynnwys eich staff, cwsmeriaid a chyflenwyr, yn cael eu diogelu'n gyfreithiol. Rydych yn gwneud hyn trwy sicrhau eich bod yn bodloni cyfreithiau a rheoliadau statudol sy'n effeithio ar eich busnes.

Gallech wneud hyn os oes angen i chi:
1. adolygu fformat cyfreithiol eich busnes neu fenter gymdeithasol
2. uno gyda busnes neu fenter gymdeithasol arall
3. cymryd yr awenau oddi wrth fusnes neu fenter gymdeithasol fwy sefydledig

Mae cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth bresennol yn cynnwys:

  1. ymchwilio i reoliadau a chyfreithiau presennol yn ymwneud â sefydlu a rhedeg busnes
  2. datblygu systemau a/neu weithdrefnau priodol i gydymffurfio â chyfraith a deddfwriaeth cwmnïau
  3. sefydlu telerau ac amodau mewn contractau neu gytundebau (gyda chyflenwyr er enghraifft) sy'n bodloni gofynion cyfreithiol

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​P1 canfod am gyfreithiau a rheoliadau presennol sy’n effeithio ar eich busnes

P2 penderfynu pa dasgau sydd angen eu gwneud, pryd a chan bwy, i gydymffurfio â deddfwriaethau a rheoliadau

P3 adnabod y bobl a'r sefydliadau lle gallwch gael cyngor a chymorth am gyfreithiau a rheoliadau

P4 penderfynu pa delerau ac amodau sy'n cydymffurfio â safonau masnachu y byddwch yn eu cynnig i'ch cwsmeriaid a'ch cyflenwyr

P5 penderfynu a oes angen i chi ddiogelu unrhyw ran o'ch busnes trwy ddefnyddio hawlfraint neu batentau

P6 edrych ar y ffordd y bydd eich busnes yn effeithio ar yr amgylchedd a meddwl am unrhyw newidiadau y mae angen i chi eu gwneud i leihau'r effaith

P7 penderfynu sut y byddwch yn bodloni cyfreithiau a rheoliadau iechyd a diogelwch sy'n gysylltiedig â'ch busnes


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cyfreithiau a rheoliadau

G1 beth yw'r gofynion ar gyfer eich busnes er mwyn masnachu'n gyfreithiol (er enghraifft trwyddedau, caniatâd cynllunio, contractau a chadw cofnodion)

G2 sut gall y gyfraith eich diogelu chi a'ch busnes

G3 beth yw'r trothwyon ar gyfer rhai cyfreithiau a rheoliadau (er enghraifft maint y trosiant cyn bod yn rhaid cofrestru ar gyfer TAW)

G4 pwy sydd â'r pŵer i archwilio eich gweithgareddau busnes er mwyn gorfodi cyfreithiau a rheoliadau

G5 beth all ddigwydd os byddwch yn methu gweithredu eich busnes o fewn y gyfraith a rheoliadau eraill

Gofynion cyfreithiol a statudol

G6 pa system i'w defnyddio i sicrhau bod ffurflenni'n cael eu llenwi neu dasgau'n cael eu gwneud er mwyn i chi barhau i fodloni gofynion cyfreithiol eich busnes

Cytundebau a chontractau

G7 pam y mae'n bwysig cytuno ar delerau ac amodau gyda'ch cwsmeriaid, cyflenwyr a'ch cefnogwyr (er enghraifft delio gyda thaliadau hwyr a pherfformiad gwael cyflenwyr)

G8 pam y mae'n bwysig cael cyngor proffesiynol am gontractau a chytundebau

Hawlfraint

G9 pam a phryd y gallech wneud cais i gael patent neu hawlfraint ar eich enw masnachu neu gynnyrch

G10 sut i wneud cais am batent neu hawlfraint

Iechyd a Diogelwch

G11 pa reoliadau iechyd a diogelwch sy'n berthnasol i'ch busnes

G12 pa gyfreithiau amgylcheddol sy'n berthnasol i'ch busnes

Cyngor a gwybodaeth broffesiynol

G13 pa wybodaeth am gyfreithiau a rheoliadau sydd ar gael a chan ba sefydliad

G14 pam y mae'n bwysig defnyddio cyngor cywir er mwyn cael gwybodaeth am gyfraith a rheoliadau a sut i ddefnyddio ffynonellau cyngor sydd am ddim ac y telir amdanynt

G15 pa rôl sydd gan gynghorydd proffesiynol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​Dolenni i Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol eraill

1. LG1 Dewis fformat cyfreithiol sy'n addas ar gyfer eich busnes
2. LG3 Datblygu gweithdrefnau i reoli risg i iechyd a diogelwch
3. LG4 Cynnal asesiad o'r peryglon yn y gweithle
4. LG5 Asesu effaith eich busnes ar yr amgylchedd

Dolenni i safonau eraill
Os yw eich busnes yn tyfu ac yn datblygu tîm rheoli gall fod yn briodol ystyried yr unedau canlynol o'r Safonau Rheolaeth ac Arweinyddiaeth.

5. B2 Mapio'r amgylchedd y mae eich sefydliad yn gweithredu ynddo
6. B8 Sicrhau cydymffurfio cyfreithiol, rheoliadol, moesegol a chymdeithasol
7. E7 Sicrhau ymagwedd sefydliadol effeithiol tuag at iechyd a diogelwch


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Ebr 2010

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SFEDI

URN gwreiddiol

LG2

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Milfeddyg para-broffesiynol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

llwyddiant; busnes; syniad; cymdeithasol; menter; cwsmeriaid; cynnyrch; gwasanaeth; cymorth; creadigol; syniad; sgiliau; anghenion; cyflenwyr; arian; llif; deddfwriaeth; marchnata; marchnad; tueddiadau; cystadleuwyr; iechyd a diogelwch; TAW; offer; costau