Gweithio gyda chyfieithwyr ar y pryd eraill
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithio gyda chyfieithwyr ar y pryd proffesiynol eraill (gan gynnwys cyfieithu ar y pryd yn anuniongyrchol). Mae hyn yn golygu cyflawni unrhyw baratoadau angenrheidiol gyda chyfieithwyr ar y pryd yr ydych yn gweithio gyda nhw ar gyfer aseiniadau cyfieithu ar y pryd, a chytuno gyda nhw ar sut i ymgymryd â'r aseiniad yn y ffordd fwyaf effeithiol. Mae hyn yn cynnwys gweithio'n effeithiol gyda chyfieithwyr a'u cefnogi lle bo angen. Mae hefyd yn cynnwys gwerthuso effeithiolrwydd yr aseiniad gyda chyd-gyfieithwyr ar y pryd. Mae'r safon hon ar gyfer cyfieithwyr ar y pryd sy'n gweithio gyda chyfieithwyr ar y pryd proffesiynol eraill yn rhan o aseiniadau cyfieithu ar y pryd ar y cyd/mewn tîm, gan gynnwys cydweithwyr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 siarad/neu ddefnyddio iaith arwyddion ar lefel gymhleth yn eich ieithoedd gwaith, sy'n cyfateb i C1 yn y Fframwaith Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Cyfeirio Ieithoedd (mae rhagor o wybodaeth yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ieithoedd)
2 trafod gyda chyd-gyfieithwyr ar y pryd a chytuno gyda nhw ar y ffordd fwyaf effeithiol o gyflawni'r aseiniad cyfieithu ar y pryd, gan gynnwys:
2.1 pa offer sydd ei angen a'r trefniadau ar eu cyfer, fel y bo angen
2.2 sut y rhoddir unrhyw gymorth yn ystod aseiniadau cyfieithu ar y pryd ar y cyd/mewn tîm
3 trafod a chyflawni unrhyw baratoadau ac ymchwil angenrheidiol gyda chyd-gyfieithwyr ar y pryd
4 cytuno ar ffyrdd priodol o drefnu'r gwaith, os bydd newid yn y trefniadau ar gyfer aseiniad cyfieithu ar y pryd
5 gwirio bod yr amgylchedd gwaith ffisegol yn eich hwyluso i weithio'n effeithiol a chytuno gyda chyd-gyfieithwyr ar y pryd ar unrhyw addasiadau, lle bo'n berthnasol
6 rhoi trefniadau cyfieithu ar y pryd y cytunwyd arnynt ar waith a defnyddio adnoddau yn effeithlon
7 rhoi cymorth i gyd-gyfieithwyr ar y pryd, drwy gydol cyfnod yr aseiniad, lle bo angen
8 defnyddio cymorth gan gyd-gyfieithwyr ar y pryd yn effeithiol, drwy gydol cyfnod yr aseiniad, lle bo angen
9 hysbysu'r cyd-gyfieithwyr ar y cyd priodol mewn da bryd am unrhyw anawsterau o ran cyflawni eich cyfrifoldebau, lle bo'n berthnasol
10 adolygu a gwerthuso effeithiolrwydd yr aseiniad cyfieithu ar y pryd, a myfyrio arno, gyda chyd-gyfieithwyr ar y cyd ar ôl yr aseiniad
11 gwneud awgrymiadau priodol er mwyn gwella effeithiolrwydd aseiniadau cyfieithu ar y pryd ar y cyd/mewn tîm yn y dyfodol, a hynny mewn modd proffesiynol fel y bo'n briodol
12 gwneud yn siŵr bod eich ymddygiad yn cyd-fynd ag ystyriaethau moesegol, codau ymddygiad perthnasol a gofynion cyfreithiol perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 iaith lafar a/neu iaith arwyddion ar lefel gymhleth ar gyfer eich ieithoedd gwaith, sy'n cyfateb i C1 yn y Fframwaith Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Cyfeirio Ieithoedd (mae rhagor o wybodaeth yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ieithoedd)
2 rôl y cyfieithydd ar y pryd, egwyddorion ymarfer proffesiynol, codau ymddygiad proffesiynol, deddfwriaeth berthnasol a gofynion cyfreithiol perthnasol. Mae hyn yn cynnwys rheoli ymddygiad/egwyddorion moesegol, gwrthdaro rhwng buddiannau, cyfrinachedd, didueddrwydd, uniondeb, atebolrwydd a phroffesiynoldeb
3 dulliau ymchwilio er mwyn paratoi ar gyfer aseiniadau cyfieithu ar y pryd ar y cyd/mewn tîm
4 sut i gyfathrebu mewn modd adeiladol wrth weithio gyda chyfieithwyr ar y pryd eraill
5 technegau a chonfensiynau derbyniol o weithio gyda chyfieithwyr ar y pryd eraill ar aseiniadau cyfieithu ar y pryd ar y cyd/mewn tîm
6 sut i wneud awgrymiadau adeiladol er mwyn gwneud aseiniadau cyfieithu ar y pryd ar y cyd/mewn tîm yn fwy effeithiol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r safon hon yn gysylltiedig â nifer o safonau eraill, yn benodol:
Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Cyfieithu ar y Pryd
CFAINT01 Asesu eich gallu i ymgymryd ag aseiniadau cyfieithu ar y pryd
CFAINT02 Paratoi ar gyfer aseiniadau cyfieithu ar y pryd
CFAINT03 Cyfieithu ar y pryd un ffordd fel cyfieithydd proffesiynol
CFAINS04 Cyfieithu ar y pryd dwy ffordd fel cyfieithydd proffesiynol
CFAINT05 Gwerthuso a datblygu eich ymarfer proffesiynol fel cyfieithydd ar y pryd
CFAINT06 Cynhyrchu cyfieithiadau golwg yn rhan o aseiniadau cyfieithu ar y pryd
CFAINT07 Cynhyrchu cyfieithiadau di-oed yn rhan o aseiniadau cyfieithu ar y pryd
CFAINT09 Ymgymryd ag aseiniadau cyfieithu ar y pryd o bell
Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ieithoedd
CFALANG1.6 Darllen testun cymhleth am ystod eang o bynciau gwaith
CFALANG2.6 Siarad/Gwneud Arwyddion drwy ddefnyddio iaith gymhleth mewn ystod eang o sefyllfaoedd gwaith
CFALANG3.6 Ysgrifennu testun cymhleth am ystod eang o bynciau gwaith
CFALANG4.6 Deall iaith lafar neu iaith arwyddion gymhleth mewn ystod eang o sefyllfaoedd gwaith