Cynhyrchu cyfieithiadau di-oed yn rhan o aseiniadau cyfieithu ar y pryd
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer cyfieithwyr ar y pryd sy'n cynhyrchu cyfieithiadau di-oed o destunau ysgrifenedig neu wedi'u harwyddo (er enghraifft, datganiadau gan dystion i'r heddlu, negeseuon peiriant ateb, negeseuon ebost, negeseuon testun/fideo, cwynion wedi'u harwyddo) ar ffurf ysgrifenedig, yn rhan o aseiniadau cyfieithu ar y pryd. Mae hyn yn cynnwys asesu a fyddai cyfieithiad di-oed o'r testun, yn rhan o'r aseiniad cyfieithu ar y pryd, yn briodol, ac a oes modd ei ddarparu o ystyried cyfyngiadau amser, diben y cyfieithiad di-oed ac unrhyw ofynion paratoi ac ymchwil ychwanegol. Mae hyn hefyd yn cynnwys gallu cynhyrchu cyfieithiad di-oed sy'n adlewyrchu ystyr cyffredinol a diben y testun ffynhonnell yn yr iaith darged ac o fewn yr amserlen y cytunwyd arni yn rhan o'r aseiniad cyfieithu ar y pryd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 darllen, ysgrifennu, siarad a/neu ddefnyddio iaith arwyddion ar lefel gymhleth yn eich ieithoedd gwaith, sy'n cyfateb i C1 yn y Fframwaith Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Cyfeirio Ieithoedd (mae rhagor o wybodaeth yn y Safonau Ieithoedd)
2 pennu disgwyliadau gyda'r rhai sy'n cymryd rhan er mwyn hwyluso cyfieithu di-oed effeithiol a rhoi eglurhad lle bo angen
3 asesu a fyddai cyfieithiad di-oed o'r testun yn briodol
4 asesu eich cymhwysedd, lefelau sgiliau a'ch gallu i ymdopi â gofynion y testun a'r cyfieithiad
5 penderfynu a oes modd cynnig cyfieithiad yn ddi-oed yn rhan o'r aseiniad cyfieithu ar y pryd, ystyried cyfyngiadau amser, diben y cyfieithiad di-oed a'r gofynion paratoi ac ymchwil ychwanegol.
6 hysbysu'r partïon perthnasol os nad oes modd cynnig y cyfieithiad yn ddi-oed er mwyn gallu ystyried trefniadau amgen
7 cynnig cyfieithiad di-oed sy'n rhoi adlewyrchiad cywir o ystyr cyffredinol a diben y testun ffynhonnell yn yr iaith darged, gan ystyried:
7.1 y math o destun a'i bwrpas
7.2 cywair, agwedd a thôn
7.3 cysyniadau, gwybodaeth ffeithiol a barn
7.4 arddull a chonfensiynau diwylliannol
7.5 gofynion y maes gan gynnwys termau arbenigol
8 gwneud defnydd effeithiol o'r adnoddau a'r deunyddiau cyfeirio sydd ar gael i ymgyfarwyddo â geirfa anghyfarwydd, gan gynnwys termau technegol ac arbenigol, lle bo'n briodol
9 rheoli'r cyfieithiad di-oed yn effeithiol ac o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt
10 rheoli disgwyliadau a blaenoriaethau'r rhai sy'n cymryd rhan drwy gyfathrebu fel y bo angen, yn enwedig os oes ymholiadau ac anawsterau
11 gwneud yn siŵr bod unrhyw beth sy'n cael ei hepgor, ei ychwanegu, gwallau gramadegol, cyfieithiadau llythrennol amhriodol a gwallau, yn rhai mân ac nad ydynt yn effeithio ar ystyr y testun yn sylweddol
12 gwirio a diwygio'r cyfieithiad di-oed
13 rhoi'r cyfieithiad di-oed i'r partïon perthnasol a thynnu eu sylw at unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r testun, fel y bo'n briodol
14 gwneud yn siŵr bod eich ymddygiad yn cyd-fynd ag ystyriaethau moesegol, codau ymddygiad perthnasol a gofynion cyfreithiol perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 iaith ysgrifenedig, lafar a/neu iaith arwyddion ar lefel gymhleth ar gyfer eich ieithoedd gwaith, sy'n cyfateb i C1 yn y Fframwaith Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Cyfeirio Ieithoedd (mae rhagor o wybodaeth yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ieithoedd)
2 rôl y cyfieithydd ar y pryd/cyfieithydd, egwyddorion ymarfer proffesiynol, codau ymddygiad proffesiynol, deddfwriaeth berthnasol a gofynion cyfreithiol perthnasol. Mae hyn yn cynnwys rheoli ymddygiad/egwyddorion moesegol, gwrthdaro rhwng buddiannau, cyfrinachedd, didueddrwydd, uniondeb, atebolrwydd a phroffesiynoldeb
3 amgylchiadau pan mae cyfieithiadau di-oed o destunau yn briodol neu'n amhriodol
4 testunau sy'n briodol neu'n amhriodol i'w cyfieithu'n ddi-oed
5 dulliau amgen i gyfieithiadau di-oed
6 y broses o gyfieithu testun o un iaith i iaith arall
7 diwylliannau'r ieithoedd yr ydych yn eu cyfieithu ar y pryd, confensiynau a fformatau a ddefnyddir ar gyfer cyfathrebu'n ysgrifenedig, a'u goblygiadau ar gyfer cynhyrchu cyfieithiadau
8 trosglwyddo'r cywair rhwng ieithoedd
9 technegau i asesu'r gofynion ar gyfer cyfieithiadau di-oed ac anghenion unrhyw bartïon perthnasol
10 technegau i wirio ystyr geirfa wrth wneud cyfieithiadau di-oed yn rhan o aseiniadau cyfieithu ar y pryd
11 y maes/meysydd yr ydych yn eu cyfieithu ar y pryd ac yn eu cyfieithu gan gynnwys terminoleg benodol y maes
12 amrywiad mewn iaith a achosir gan nodweddion personol neu ddiwylliannol
13 dulliau ymchwilio er mwyn cael gafael ar ddeunyddiau cyfeirio
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r safon hon yn gysylltiedig â nifer o safonau eraill, yn benodol:
Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Cyfieithu ar y Pryd
CFAINT01 Asesu eich gallu i ymgymryd ag aseiniadau cyfieithu ar y pryd
CFAINT02 Paratoi ar gyfer aseiniadau cyfieithu ar y pryd
CFAINT03 Cyfieithu ar y pryd un ffordd fel cyfieithydd proffesiynol
CFAINS04 Cyfieithu ar y pryd dwy ffordd fel cyfieithydd proffesiynol
CFAINT05 Gwerthuso a datblygu eich ymarfer proffesiynol fel cyfieithydd ar y pryd
CFAINT06 Cynhyrchu cyfieithiadau golwg yn rhan o aseiniadau cyfieithu ar y pryd
CFAINT08 Gweithio gyda chyfieithwyr ar y pryd eraill
CFAINT09 Ymgymryd ag aseiniadau cyfieithu ar y pryd o bell
Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ieithoedd
CFALANG1.6 Darllen testun cymhleth am ystod eang o bynciau gwaith
CFALANG2.6 Siarad/Gwneud Arwyddion drwy ddefnyddio iaith gymhleth mewn ystod eang o sefyllfaoedd gwaith
CFALANG3.6 Ysgrifennu testun cymhleth am ystod eang o bynciau gwaith
CFALANG4.6 Deall iaith lafar neu iaith arwyddion gymhleth mewn ystod eang o sefyllfaoedd gwaith
Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Cyfieithu
CFAPTra1 Cynnal sgiliau a systemau ar gyfer rheoli tasgau cyfieithu
CFAPTra2 Rheoli aseiniadau cyfieithu newydd
CFAPTra3 Cyfieithu testunau ysgrifenedig o un iaith i iaith arall
CFAPTra4 Datblygu eich perfformiad fel cyfieithydd proffesiynol