Cynhyrchu cyfieithiadau golwg yn rhan o aseiniadau cyfieithu ar y pryd

URN: CFAINT06
Sectorau Busnes (Suites): Cyfieithu ar y Pryd
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 22 Tach 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon ar gyfer cyfieithwyr ar y pryd sy'n cynhyrchu cyfieithiadau golwg o destunau ysgrifenedig/fideo o'r iaith ffynhonnell i'r iaith darged yn rhan o aseiniadau cyfieithu ar y pryd. Gallai fod yn ofynnol gwneud hyn yng nghyd-destun aseiniad cyfieithu ar y pryd, lle ceir testun ac mae angen ei gyfieithu yn y fan a'r lle. Mae hyn yn cynnwys gallu asesu a oes modd ymgymryd â chyfieithu golwg o fewn amser rhesymol yn ystod yr aseiniad cyfieithu ar y pryd a chynhyrchu cyfieithiad golwg o'r testun, gan gyfleu ei ystyr yn gywir ac yn rhugl. Gall testun gynnwys gohebiaeth, tystysgrifau statws personol, taflenni gwybodaeth, ffurflenni gweinyddol, clipiau fideo a negeseuon testun.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1 darllen, siarad/neu ddefnyddio iaith arwyddion ar lefel gymhleth yn eich ieithoedd gwaith, sy'n cyfateb i C1 yn y Fframwaith Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Cyfeirio Ieithoedd (mae rhagor o wybodaeth yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ieithoedd)

2 pennu disgwyliadau gyda'r rhai sy'n cymryd rhan er mwyn hwyluso cyfieithiadau golwg effeithiol a rhoi eglurhad, lle bo angen 

3 asesu a oes modd gwneud cyfieithiad golwg o'r testun a nodi unrhyw beryglon posibl/cysylltiedig, fel y bo'n briodol

4 pennu a oes modd gwneud cyfieithiad golwg o fewn cyfnod amser rhesymol yn ystod yr aseiniad cyfieithu ar y pryd

5 hysbysu'r partïon perthnasol os nad oes modd gwneud cyfieithiad golwg er mwyn gallu ystyried trefniadau amgen

6 gwneud defnydd effeithiol o'r adnoddau a'r deunyddiau cyfeirio sydd ar gael i ymgyfarwyddo â geirfa anghyfarwydd, gan gynnwys termau technegol ac arbenigol, fel y bo'n briodol

7 gwneud cyfieithiad golwg o'r testun gan gyfleu'r ystyr yn gywir ac yn rhugl

8 adlewyrchu'r iaith, y cywair a'r dôn a ddefnyddir yn y testun

9 gwirio gyda'r partïon perthnasol a chael eglurhad os oes unrhyw ansicrwydd o ran yr ystyr, os yn briodol

10 gwneud yn siŵr bod eich ymddygiad yn cyd-fynd ag ystyriaethau moesegol, codau ymddygiad perthnasol a gofynion cyfreithiol perthnasol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1 iaith ysgrifenedig, lafar a/neu iaith arwyddion ar lefel gymhleth ar gyfer eich ieithoedd gwaith, sy'n cyfateb i C1 yn y Fframwaith Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Cyfeirio Ieithoedd (mae rhagor o wybodaeth yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ieithoedd)

2 rôl y cyfieithydd ar y pryd, egwyddorion ymarfer proffesiynol, codau ymddygiad proffesiynol, deddfwriaeth berthnasol a gofynion cyfreithiol perthnasol. Mae hyn yn cynnwys rheoli ymddygiad/egwyddorion moesegol, gwrthdaro rhwng buddiannau, cyfrinachedd, didueddrwydd, uniondeb, atebolrwydd a phroffesiynoldeb

3 amgylchiadau pan mae cyfieithiadau golwg yn briodol neu'n amhriodol

4 testunau y mae cyfieithiadau golwg yn briodol neu'n amhriodol ar eu cyfer

5 y peryglon posibl a/neu gysylltiedig wrth ymgymryd â chyfieithiadau golwg

6 dulliau amgen i gyfieithiadau golwg yn y fan a'r lle

7 y broses o gynhyrchu cyfieithiad golwg o destun

8 y diwylliannau, y confensiynau a'r fformatau i'w defnyddio i gyfathrebu iaith lafar/arwyddion ac ysgrifenedig yn yr iaith yr ydych yn cyfieithu; a'r goblygiadau o ran yr agweddau hyn ar gyfer cynhyrchu cyfieithiad golwg o destun

9 trosglwyddo cywair o un iaith i iaith arall; ac o destun i iaith lafar neu iaith arwyddion

10 technegau i asesu'r gofynion ar gyfer cyfieithiadau golwg ac anghenion y partïon perthnasol

11 y maes/meysydd yr ydych yn eu cyfieithu ar y pryd ac yn cynhyrchu cyfieithiad golwg

12 defnyddio deunyddiau cyfeirio

13 dulliau ymchwilio er mwyn cael gafael ar ddeunyddiau cyfeirio


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

Mae'r safon hon yn gysylltiedig â nifer o safonau eraill, yn benodol:

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Cyfieithu ar y Pryd

CFAINT01 Asesu eich gallu i ymgymryd ag aseiniadau cyfieithu ar y pryd

CFAINT02 Paratoi ar gyfer aseiniadau cyfieithu ar y pryd

CFAINT03 Cyfieithu ar y pryd un ffordd fel cyfieithydd proffesiynol

CFAINS04 Cyfieithu ar y pryd dwy ffordd fel cyfieithydd proffesiynol

CFAINT05 Gwerthuso a datblygu eich ymarfer proffesiynol fel cyfieithydd ar y pryd

CFAINT07 Cynhyrchu cyfieithiadau di-oed yn rhan o aseiniadau cyfieithu ar y pryd

CFAINT08 Gweithio gyda chyfieithwyr ar y pryd eraill

CFAINT09 Ymgymryd ag aseiniadau cyfieithu ar y pryd o bell

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ieithoedd

CFALANG1.6 Darllen testun cymhleth am ystod eang o bynciau gwaith

CFALANG2.6 Siarad/Gwneud Arwyddion drwy ddefnyddio iaith gymhleth mewn ystod eang o sefyllfaoedd gwaith

CFALANG3.6 Ysgrifennu testun cymhleth am ystod eang o bynciau gwaith

CFALANG4.6 Deall iaith lafar neu iaith arwyddion gymhleth mewn ystod eang o sefyllfaoedd gwaith


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

22 Tach 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAINT06

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Proffesiynol ym maes Gwasanaethau Cyhoeddus, llenyddiaeth a diwylliant, Ieithyddiaeth, Cyfieithydd ar y Pryd, Cyfieithydd ar y Pryd Gwasanaethau Cyhoeddus, Gweinyddol, Cyfieithydd Iaith Arwyddion, Ieithoedd eraill, Cyfieithydd ar y Pryd Cynadleddau

Cod SOC

N/A

Geiriau Allweddol

Cyfieithu ar y pryd, cyfieithu, iaith, cyfathrebu, olynol, ar y pryd, cymunedol