Gwerthuso a datblygu eich ymarfer proffesiynol fel cyfieithydd ar y pryd
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gwerthuso a datblygu eich ymarfer proffesiynol fel cyfieithydd. Mynegir hyn drwy gyfrwng dwy elfen:
• Gwerthuso ymarfer proffesiynol fel cyfieithydd ar y pryd
• Cynllunio a gweithredu datblygiad proffesiynol parhaus
Mae hyn yn cynnwys myfyrio ar eich gwaith paratoi a'i werthuso, cynllunio, darparu a rheoli aseiniadau cyfieithu ar y pryd gan gynnwys myfyrio ar eich ymarfer proffesiynol a'ch ymddygiad fel cyfieithydd ar y pryd. Mae'n cynnwys gallu nodi gofynion eich rôl a'ch ymarfer proffesiynol fel cyfieithydd ar y pryd nawr ac yn y dyfodol, nodi unrhyw fylchau yn eich gwybodaeth a'ch sgiliau a defnyddio adborth, cyngor a chymorth gan eraill, e.e. y rhai sy'n cymryd rhan, cydweithwyr, mentoriaid, cymheiriaid, goruchwylwyr, rheolwyr llinell a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y maes penodol, lle bo hynny'n berthnasol. Mae hefyd yn cynnwys gallu cynllunio datblygiad proffesiynol parhaus a'i roi ar waith drwy greu cynllun datblygu proffesiynol i ddatblygu eich ymarfer proffesiynol, eich gwybodaeth a'ch sgiliau. Mae'r safon hon ar gyfer pob cyfieithydd ar y pryd sy'n ymgymryd ag aseiniadau cyfieithu ar y pryd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gwerthuso ymarfer proffesiynol fel cyfieithydd ar y pryd
1 myfyrio ar eich gwaith paratoi a chynllunio ar gyfer aseiniadau a'i werthuso
2 myfyrio ar eich ymarfer a'ch ymddygiad proffesiynol a'i werthuso, gan gynnwys gwerthuso effaith a chanlyniadau posibl y camau a gymerwyd drwy ddefnyddio dulliau a meini prawf priodol
3 myfyrio ar yr iaith a ddefnyddir yn ystod aseiniadau cyfieithu ar y pryd a'i gwerthuso
4 adolygu pa mor gywir y cafodd ystyr y neges yn yr iaith ffynhonnell ei fynegi yn yr iaith darged
5 myfyrio ar ba mor dda y cafodd yr aseiniad cyfieithu ar y pryd ei gyflwyno a'i reoli, a'i werthuso
6 gwerthuso gofynion eich rôl a'ch ymarfer proffesiynol fel cyfieithydd ar y pryd nawr ac yn y dyfodol, gan nodi unrhyw fylchau yn eich gwybodaeth a'ch sgiliau
7 nodi unrhyw ffynonellau cymorth priodol
8 gofyn am adborth, cymorth a chyngor gan eraill lle bo'n berthnasol, a'i ddefnyddio
9 myfyrio ar safbwynt y rhai sy'n cymryd rhan, lle bo'n berthnasol
Cynllunio a gweithredu datblygiad proffesiynol parhaus
10 nodi tueddiadau, datblygiadau ac ymarfer da ym maes cyfieithu ar y pryd
11 creu cynllun datblygu proffesiynol i fynd i'r afael ag unrhyw fylchau mewn gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd, a gofyn am gymorth gan eraill, lle bo'n berthnasol
12 gwneud yn siŵr bod targedau a blaenoriaethau datblygiad proffesiynol yn cyd-fynd â'r gwerthusiad o'ch ymarfer proffesiynol fel cyfieithydd ar y pryd
13 nodi cyfleoedd perthnasol i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau a manteisio ar gyfleoedd o'r fath, gan gynnwys gweithgareddau datblygu ffurfiol ac anffurfiol sy'n cynorthwyo datblygiad proffesiynol parhaus
14 pennu meini prawf perthnasol er mwyn mesur a gwerthuso cynnydd a chyflawniad yn erbyn eich cynllun datblygiad proffesiynol
15 monitro a gwerthuso eich datblygiad proffesiynol yn rheolaidd yn erbyn meini prawf penodol
16 cael adborth a chyngor rheolaidd, gwrthrychol a dilys gan y rhai sy'n gallu cynnig hyn ynghylch eich ymarfer a'ch datblygiad proffesiynol
17 addasu eich arferion gwaith i ystyried tueddiadau, datblygiadau ac ymarfer da a nodir ym maes cyfieithu ar y pryd, yn ogystal ag unrhyw wybodaeth a sgiliau newydd a enillwyd
18 gwerthuso effaith datblygiad proffesiynol ar eich ymarfer cyfieithu ar y pryd ac ymgymryd â datblygiad neu newidiadau pellach, lle bo angen
19 diweddaru a diwygio eich cynllun datblygiad proffesiynol yn unol â'ch cynnydd
20 gwneud yn siŵr bod eich ymddygiad yn cyd-fynd ag ystyriaethau moesegol, codau ymddygiad perthnasol a gofynion cyfreithiol perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwerthuso ymarfer proffesiynol fel cyfieithydd ar y pryd
1 iaith lafar a/neu iaith arwyddion ar lefel gymhleth ar gyfer eich ieithoedd gwaith, sy'n cyfateb i C1 yn y Fframwaith Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Cyfeirio Ieithoedd (mae rhagor o wybodaeth yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ieithoedd)
2 rôl y cyfieithydd ar y pryd, egwyddorion ymarfer proffesiynol, codau ymddygiad proffesiynol, deddfwriaeth berthnasol a gofynion cyfreithiol perthnasol. Mae hyn yn cynnwys rheoli ymddygiad/egwyddorion moesegol, gwrthdaro rhwng buddiannau, cyfrinachedd, didueddrwydd, uniondeb, atebolrwydd a phroffesiynoldeb
3 strategaethau sy'n gallu cynorthwyo hunanwerthuso a gwerthuso gan gymheiriaid 4 cysyniadau a strategaethau a ddefnyddir i ddadansoddi perfformiad cyfieithu ar y pryd ac effeithiolrwydd yr aseiniad
5 dulliau a/neu dechnegau adolygu a gwerthuso'r gwaith paratoi a chynllunio ar gyfer aseiniadau cyfieithu ar y pryd
6 dulliau a/neu dechnegau adolygu a gwerthuso'r gwaith cyflwyno a rheoli'r aseiniadau cyfieithu ar y pryd
7 strategaethau a/neu fodelau a ddefnyddir i ddadansoddi achosion o gyfyng gyngor moesegol yn feirniadol a'r goblygiadau i rôl y cyfieithydd ar y pryd
8 technegau ar gyfer cael adborth
9 strategaethau ar gyfer datblygu deallusrwydd emosiynol
Cynllunio a gweithredu datblygiad proffesiynol parhaus
10 strategaethau er mwyn gwella perfformiad proffesiynol a gwybodaeth
11 mathau o weithgareddau datblygiad proffesiynol a pha rai sydd ar gael
12 meini prawf a thechnegau er mwyn gwerthuso rhaglenni datblygu proffesiynol sy'n cefnogi gwelliant parhaus
13 ffynonellau gwybodaeth sy'n gallu cynnig cyngor a chymorth ynghylch datblygiad proffesiynol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r safon hon yn gysylltiedig â nifer o safonau eraill, yn benodol:
Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Cyfieithu ar y Pryd
CFAINT01 Asesu eich gallu i ymgymryd ag aseiniadau cyfieithu ar y pryd
CFAINT02 Paratoi ar gyfer aseiniadau cyfieithu ar y pryd
CFAINT03 Cyfieithu ar y pryd un ffordd fel cyfieithydd proffesiynol
CFAINS04 Cyfieithu ar y pryd dwy ffordd fel cyfieithydd proffesiynol
CFAINT06 Cynhyrchu cyfieithiadau golwg yn rhan o aseiniadau cyfieithu ar y pryd
CFAINT07 Cynhyrchu cyfieithiadau di-oed yn rhan o aseiniadau cyfieithu ar y pryd
CFAINT08 Gweithio gyda chyfieithwyr ar y pryd eraill
CFAINT09 Ymgymryd ag aseiniadau cyfieithu ar y pryd o bell
Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ieithoedd
CFALANG1.6 Darllen testun cymhleth am ystod eang o bynciau gwaith
CFALANG2.6 Siarad/Gwneud Arwyddion drwy ddefnyddio iaith gymhleth mewn ystod eang o sefyllfaoedd gwaith
CFALANG3.6 Ysgrifennu testun cymhleth am ystod eang o bynciau gwaith
CFALANG4.6 Deall iaith lafar neu iaith arwyddion gymhleth mewn ystod eang o sefyllfaoedd gwaith
Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol eraill
CFABI2 Ymgymryd â gwaith llawrydd
CFAM&LDC3 Mentora Unigolion
LSI CM05 Ymgymryd â hyfforddiant neu fentora