Cyfieithu ar y pryd dwy ffordd fel cyfieithydd proffesiynol
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer cyfieithwyr ar y pryd sy'n ymgymryd ag aseiniadau cyfieithu ar y pryd dwy ffordd. Mae hyn yn cynnwys gallu cyfieithu rhwng o leiaf ddau unigolyn sy'n rhyngweithio mewn gwahanol ieithoedd. Mae'n cynnwys gallu dewis a defnyddio'r modd priodol o gyfieithu ar y pryd ar gyfer yr achlysur (h.y. olynol neu ar y pryd/sibrwd) a chyfieithu ystyr yr hyn sy'n cael ei ddweud gan y rhai sy'n cymryd rhan ac yn cyfathrebu â'i gilydd rhwng dwy Iaith. Mae hefyd yn cynnwys gallu defnyddio technoleg ac offer yn effeithiol ac yn ddiogel e.e. meicroffon, cyswllt fideo a dros y ffôn, fel sy'n briodol, monitro effeithiolrwydd y cyfieithu ar y pryd a mynd i'r afael ag unrhyw broblemau a materion a allai godi.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 siarad/neu ddefnyddio iaith arwyddion ar lefel gymhleth yn eich ieithoedd gwaith, sy'n cyfateb i C1 yn y Fframwaith Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Cyfeirio Ieithoedd (mae rhagor o wybodaeth yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ieithoedd)
2 esbonio eich rôl fel cyfieithydd ar y pryd a rhoi eglurhad, lle bo'n berthnasol
3 gwneud yn siŵr bod yr amgylchedd gwaith ffisegol yn cefnogi cyfieithu ar y pryd effeithiol, diogelwch personol a chyfforddusrwydd a gofyn am newidiadau, fel y bo angen
4 cadarnhau'r berthynas gyda'r rhai sy'n cymryd rhan a gyda nhw yn unol â phrotocolau cyfieithu ar y pryd sefydledig, fel y bo'n briodol
5 trafod gyda'r rhai sy'n cymryd rhan y math o gyfathrebu a ddisgwylir er mwyn hwyluso cyfieithu ar y pryd effeithiol, gan gynnwys hyd, cyflymder a'r dull cyflwyno, a rhoi eglurhad lle bo angen
6 cyfieithu'n gywir yr ystyr a fynegir gan y rhai sy'n cymryd rhan ac sy'n cyfathrebu mewn dwy iaith wahanol
7 cyfieithu ar y pryd yn y modd priodol (olynol a/neu ar y pryd/sibrwd)
8 adlewyrchu llif y cyfathrebu rhwng y rhai sy'n cymryd rhan drwy gydol cyfnod yr aseiniad
9 cyfieithu ar y pryd yn gywir i adlewyrchu'r agweddau canlynol ar yr hyn a fynegir gan y rhai sy'n siarad:
9.1, cywair, tôn a chyflymder yr iaith a fynegir drwy ddulliau cyfathrebu geiriol a di-eiriol (iaith y corff/symudiadau)
9.2 awgrymiadau cymdeithasol a diwylliannol
9.3 eu rolau a'r berthynas rhyngddynt
10 cyfieithu gwybodaeth ffeithiol, cysyniadau a safbwyntiau
11 cyfieithu iaith gymhleth gan gynnwys terminoleg sy'n ymwneud â'r maes yn benodol
12 monitro effeithiolrwydd y cyfieithu ar y pryd drwy gydol cyfnod yr aseiniad a mynd i'r afael ag unrhyw broblemau a allai godi heb amharu ar ansawdd y cyfieithu ar y pryd
13 monitro'r broses cyfieithu ar y pryd er mwyn nodi pryd mae angen gofyn am gymorth neu dynnu'n ôl o'r aseiniad cyfieithu ar y pryd, a chymryd camau priodol a chyfathrebu'n glir gyda phartïon perthnasol, lle bo'n briodol
14 defnyddio technoleg ac offer yn effeithiol ac yn ddiogel, fel y bo'n briodol
15 addasu'r arddull cyfathrebu yn unol â'r cyfrwng a'r dechnoleg a ddefnyddir, lle bo'n berthnasol
16 cymryd nodiadau yn ystod aseiniad cyfieithu olynol, fel y bo'n briodol
17 rhoi gwybodaeth ac adborth i'r partïon perthnasol ar ôl gwneud yr aseiniad, fel y bo'n briodol
18 asesu a oes angen cymorth ar ôl yr aseiniad ar gyfer unrhyw gymorth corfforol, emosiynol a lles personol a chael gafael ar unrhyw gymorth ar ôl yr aseiniad os ydyw ar gael
19 gwneud yn siŵr bod eich ymddygiad yn cyd-fynd ag ystyriaethau moesegol, codau ymddygiad perthnasol a gofynion cyfreithiol perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 iaith lafar a/neu iaith arwyddion ar lefel gymhleth ar gyfer eich ieithoedd gwaith, sy'n cyfateb i C1 yn y Fframwaith Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Cyfeirio Ieithoedd (mae rhagor o wybodaeth yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ieithoedd)
2 rôl y cyfieithydd ar y pryd, egwyddorion ymarfer proffesiynol, codau ymddygiad proffesiynol, deddfwriaeth berthnasol a gofynion cyfreithiol perthnasol. Mae hyn yn cynnwys rheoli ymddygiad/egwyddorion moesegol, gwrthdaro rhwng buddiannau, cyfrinachedd, didueddrwydd, uniondeb, atebolrwydd a phroffesiynoldeb
3 gofynion diogelwch personol wrth ymgymryd ag aseiniadau cyfieithu ar y pryd
4 y broses o gyfieithu ar y pryd o un iaith i iaith arall a thechnegau sy'n hwyluso'r broses o gyfieithu ar y pryd
5 y dulliau cyfieithu ar y pryd olynol a/neu ar y pryd/sibrwd, fel y bo'n briodol
6 diwylliannau'r ieithoedd yr ydych yn eu cyfieithu ar y pryd a'u cysyniadau a'u confensiynau cyfathrebu, yn ogystal â goblygiadau'r agweddau hyn ar gyfer cyflwyno aseiniadau cyfieithu ar y pryd dwy ffordd
7 strategaethau ar gyfer ymdrin â chyfeiriadau diwylliannol-benodol
8 trosglwyddo cywair o un iaith i'r un arall a thechnegau i'w defnyddio pan nad yw cywair y rhai sy'n siarad neu'n gwrando yn cyfateb i'w gilydd
9 yr amrywiaeth yn iaith a mynegiant y rhai sy'n cymryd rhan
10 technegau er mwyn cymryd camau a rheoli'r broses gyfathrebu os yw'n wynebu anhawster yn un neu ragor o'r ffyrdd canlynol:
10.1 gorfod gwirio ystyr
10.2 cymhlethdod, pwynt technegol neu gyfrifoldeb emosiynol sydd y tu hwnt i'r hyn y gallwch ymdopi ag ef
10.3 diffyg dealltwriaeth neu gamddealltwriaeth yn ôl pob golwg sy'n rhwystro cyfathrebu rhwng y rhai sy'n cymryd rhan
10.4 os yw eich sefyllfa eich hun a/neu sefyllfa'r rhai sy'n cymryd rhan yn rhwystro cyfathrebu
10.5 ymddygiad y rhai sy'n cymryd rhan yn eich atal rhag cyfieithu ar y pryd yn effeithiol
11 y maes/meysydd yr ydych yn eu cyfieithu a sut i weithio gyda'r bobl broffesiynol yn eu maes
12 protocolau iaith sy'n ymwneud â meysydd penodol
13 defnyddio technoleg ac offer, gofynion iechyd a diogelwch a gwybod sut i fynd i'r afael â phroblem dechnegol
14 technegau cymryd nodiadau wrth gyfieithu'n olynol, fel y bo'n briodol
15 technegau er mwyn cyfieithu ar y pryd yn effeithiol mewn cyflwyniad un ffordd
16 y cymorth sydd ar gael ar gyfer lles corfforol, emosiynol a phersonol a sut i gael gafael ar y cymorth hwn
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r safon hon yn gysylltiedig â nifer o safonau eraill, yn benodol:
Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Cyfieithu ar y Pryd
CFAINT01 Asesu eich gallu i ymgymryd ag aseiniadau cyfieithu ar y pryd
CFAINT02 Paratoi ar gyfer aseiniadau cyfieithu ar y pryd
CFAINT03 Cyfieithu ar y pryd un ffordd fel cyfieithydd proffesiynol
CFAINT05 Gwerthuso a datblygu eich ymarfer proffesiynol fel cyfieithydd ar y pryd
CFAINT06 Cynhyrchu cyfieithiadau golwg yn rhan o aseiniadau cyfieithu ar y pryd
CFAINT07 Cynhyrchu cyfieithiadau di-oed yn rhan o aseiniadau cyfieithu ar y pryd
CFAINT08 Gweithio gyda chyfieithwyr ar y pryd eraill
CFAINT09 Ymgymryd ag aseiniadau cyfieithu ar y pryd o bell
Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ieithoedd
CFALANG1.6 Darllen testun cymhleth am ystod eang o bynciau gwaith
CFALANG2.6 Siarad/Gwneud Arwyddion drwy ddefnyddio iaith gymhleth mewn ystod eang o sefyllfaoedd gwaith
CFALANG3.6 Ysgrifennu testun cymhleth am ystod eang o bynciau gwaith
CFALANG4.6 Deall iaith lafar neu iaith arwyddion gymhleth mewn ystod eang o sefyllfaoedd gwaith