Paratoi ar gyfer aseiniadau cyfieithu ar y pryd

URN: CFAINT02
Sectorau Busnes (Suites): Cyfieithu ar y Pryd
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 22 Tach 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi ar gyfer aseiniadau cyfieithu ar y pryd. Mae hyn yn cynnwys defnyddio amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth i baratoi ar gyfer aseiniadau fel y rhyngrwyd, taflenni, fideo, geirfaoedd a chyfnodolion technegol. Mae hefyd yn ymwneud â chynllunio'n briodol a threfnu gweithgareddau cyfieithu ar y pryd i greu'r amodau gorau ar gyfer cyfieithu ar y pryd yn effeithiol gan gynnwys cynllunio unrhyw ystyriaethau iechyd a diogelwch e.e. diogelwch corfforol, emosiynol a phersonol. Mae hefyd yn sôn am sut mae angen bod yn gwbl ymwybodol o rôl y cyfieithydd ar y pryd proffesiynol, egwyddorion ymarfer proffesiynol, codau ymddygiad proffesiynol, deddfwriaeth berthnasol ac unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol.

Mae'r safon hon ar gyfer pob cyfieithydd ar y pryd sy'n ymgymryd ag aseiniadau cyfieithu ar y pryd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1 adolygu diben, cwmpas, pwnc a'r telerau ac amodau sy'n gysylltiedig ag ymgymryd â'r aseiniad cyfieithu ar y pryd

2 gofyn am gael eich briffio, os yn briodol

3 gwneud cais am ddogfennaeth yr aseiniad a deunydd paratoi, cael gafael arnynt a'u hadolygu ymlaen llaw os ydynt ar gael

4 nodi a defnyddio ffynonellau gwybodaeth a deunyddiau cyfeirio perthnasol, a defnyddio gwybodaeth sydd eisoes ar gael er mwyn paratoi ar gyfer yr aseiniad

5 llunio a diweddaru rhestr o dermau 

6 cynllunio'n briodol er mwyn creu'r amodau gorau ar gyfer cyfieithu ar y pryd yn effeithiol, gan ystyried:

6.1 pa mor gymhleth a sensitif yw'r aseiniad cyfieithu ar y pryd gan gynnwys achosion posibl o wrthdaro rhwng buddiannau

6.2 y dull cyfieithu i'w ddefnyddio (olynol neu ar y pryd/ sibrwd), fel y bo'n briodol

6.3 yr iaith a'r sgiliau cyfieithu ar y pryd sy'n ofynnol ar gyfer yr aseiniad gan gynnwys unrhyw ofynion arbenigol neu wybodaeth benodol am y maes

6.4 unrhyw ystyriaethau iechyd a diogelwch

6.5 y gofynion tebygol a disgwyliadau'r partïon perthnasol

6.6 yr ystyriaethau diwylliannol tebygol

6.7 ble byddwch chi a'r rhai sy'n cymryd rhan yn cael eu gosod

6.8 unrhyw ofynion ychwanegol gan gynnwys pa offer sydd ei angen 

7 gwneud yn siŵr bod eich ymddygiad yn cyd-fynd ag ystyriaethau moesegol, codau ymddygiad perthnasol a gofynion cyfreithiol perthnasol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1 iaith lafar a/neu iaith arwyddion ar lefel gymhleth ar gyfer eich ieithoedd gwaith, sy'n cyfateb i C1 yn y Fframwaith Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Cyfeirio Ieithoedd (mae rhagor o wybodaeth yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ieithoedd)

2 rôl y cyfieithydd ar y pryd, egwyddorion ymarfer proffesiynol, codau ymddygiad proffesiynol, deddfwriaeth berthnasol a gofynion cyfreithiol perthnasol. Mae hyn yn cynnwys rheoli ymddygiad/egwyddorion moesegol, gwrthdaro rhwng buddiannau, cyfrinachedd, didueddrwydd, uniondeb, atebolrwydd a phroffesiynoldeb

3 y broses o gyfieithu ar y pryd o un iaith i iaith arall a sut i ymdopi ag effaith y gwahaniaeth rhwng ieithoedd

4 diwylliannau'r ieithoedd yr ydych yn eu cyfieithu ar y pryd a'u confensiynau cyfathrebu, yn ogystal â goblygiadau'r agweddau hyn ar gyfer cynllunio'r aseiniad cyfieithu ar y pryd

5 technegau er mwyn darparu cyfieithu ar y pryd effeithiol rhwng y rhai sy'n cymryd rhan

6 dulliau a thechnegau ymchwilio perthnasol wrth baratoi ar gyfer aseiniadau cyfieithu ar y pryd

7 technegau ymchwilio a gwirio terminoleg gyffredinol a phenodol am y maes

8 technegau llunio a chynnal geirfaoedd termau

9 ffynonellau gwybodaeth gyffredinol ac arbenigol i gynorthwyo gydag aseiniadau cyfieithu ar y pryd

10 technegau datrys problemau sy'n berthnasol i gyfieithu ar y pryd


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

Mae'r safon hon yn gysylltiedig â nifer o safonau eraill, yn benodol:

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Cyfieithu ar y Pryd

CFAINT01 Asesu eich gallu i ymgymryd ag aseiniadau cyfieithu ar y pryd

CFAINT03 Cyfieithu ar y pryd un ffordd fel cyfieithydd proffesiynol

CFAINT04 Cyfieithu ar y pryd dwy ffordd fel cyfieithydd proffesiynol

CFAINT05 Gwerthuso a datblygu eich ymarfer proffesiynol fel cyfieithydd ar y pryd

CFAINT06 Cynhyrchu cyfieithiadau golwg yn rhan o aseiniadau cyfieithu ar y pryd

CFAINT07 Cynhyrchu cyfieithiadau di-oed yn rhan o aseiniadau cyfieithu ar y pryd

CFAINT08 Gweithio gyda chyfieithwyr ar y pryd eraill

CFAINT09 Ymgymryd ag aseiniadau cyfieithu ar y pryd o bell

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ieithoedd

CFALANG1.6 Darllen testun cymhleth am ystod eang o bynciau gwaith

CFALANG2.6 Siarad/Gwneud Arwyddion drwy ddefnyddio iaith gymhleth mewn ystod eang o sefyllfaoedd gwaith

CFALANG3.6 Ysgrifennu testun cymhleth am ystod eang o bynciau gwaith

CFALANG4.6 Deall iaith lafar neu iaith arwyddion gymhleth mewn ystod eang o sefyllfaoedd gwaith

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol eraill

CFABI2 Ymgymryd â gwaith llawrydd


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

22 Tach 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAINT02

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Proffesiynol ym maes Gwasanaethau Cyhoeddus, Cyfieithydd ar y Pryd Gwasanaethau Cyhoeddus, Ieithoedd, llenyddiaeth a diwylliant eraill, Gweinyddol, Cyfieithu ar y Pryd, Cyfathrebu Ieithyddiaeth

Cod SOC

N/A

Geiriau Allweddol

Cyfieithu ar y pryd, aseiniadau, gallu, asesu