Asesu eich gallu i ymgymryd ag aseiniadau cyfieithu ar y pryd

URN: CFAINT01
Sectorau Busnes (Suites): Cyfieithu ar y Pryd
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 22 Tach 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud ag asesu eich gallu i ymgymryd ag aseiniadau cyfieithu ar y pryd. Mae hyn yn cynnwys nodi natur a chwmpas yr aseiniad, pa mor gymhleth ydyw ac unrhyw ystyriaethau iechyd a diogelwch e.e. diogelwch corfforol, emosiynol a phersonol. Mae hefyd yn cynnwys asesu a ydych ar gael a lefel y sgiliau a chymhwysedd sydd ei hangen arnoch i gyflawni'r aseiniad yn broffesiynol yn unol ag ystyriaethau moesegol a chodau ymddygiad perthnasol.

Mae'r safon hon ar gyfer pob cyfieithydd ar y pryd sy'n ymgymryd ag aseiniadau cyfieithu ar y pryd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1 nodi:

1.1 pwnc, diben a chwmpas yr aseiniad cyfieithu ar y pryd, a gofyn am esboniad lle bo'n berthnasol

1.2 pa mor gymhleth a sensitif yw'r aseiniad cyfieithu ar y pryd gan gynnwys achosion posibl o wrthdaro rhwng buddiannau

1.3 y dull cyfieithu ar y pryd i'w ddefnyddio (olynol neu ar y pryd/ sibrwd), fel y bo'n briodol

1.4 yr iaith a'r sgiliau cyfieithu ar y pryd sy'n ofynnol ar gyfer yr aseiniad cyfieithu ar y pryd gan gynnwys unrhyw ofynion arbenigol neu wybodaeth benodol am y maes

1.5 unrhyw ystyriaethau iechyd a diogelwch

2 asesu:

2.1 a ydych ar gael i gyflawni'r aseiniad cyfieithu ar y pryd

2.2 lefel eich sgiliau a'ch cymhwysedd er mwyn cyflawni'r aseiniad yn broffesiynol yn unol ag ystyriaethau moesegol a chodau ymddygiad perthnasol

3 adolygu'r telerau ac amodau ar gyfer cyflawni'r aseiniad cyfieithu ar y pryd, a chytuno arnynt, a gofyn i'r partïon perthnasol am eglurhad ynghylch unrhyw ymholiadau a phryderon fel y bo'n briodol

4 cynghori'r partïon perthnasol mewn modd proffesiynol ac amserol ynghylch eich penderfyniad i dderbyn neu wrthod yr aseiniad cyfieithu ar y pryd yn seiliedig ar asesiad o'ch sgiliau, cymhwysedd, argaeledd ac amodau'r aseiniad, gan roi unrhyw wybodaeth berthnasol, fel y bo'n briodol

5 gwneud yn siŵr bod eich ymddygiad yn cyd-fynd ag ystyriaethau moesegol, codau ymddygiad perthnasol a gofynion cyfreithiol perthnasol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1 iaith lafar a/neu iaith arwyddion ar lefel gymhleth ar gyfer eich ieithoedd gwaith, sy'n cyfateb i C1 yn y Fframwaith Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Cyfeirio Ieithoedd (mae rhagor o wybodaeth yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ieithoedd)

2 rôl y cyfieithydd ar y pryd, egwyddorion ymarfer proffesiynol, codau ymddygiad proffesiynol, deddfwriaeth berthnasol a gofynion cyfreithiol perthnasol. Mae hyn yn cynnwys rheoli ymddygiad/egwyddorion moesegol, gwrthdaro rhwng buddiannau, cyfrinachedd, didueddrwydd, uniondeb, atebolrwydd a phroffesiynoldeb

3 technegau sy'n rhagweld natur aseiniad cyfieithu ar y pryd, pa mor anodd fydd yr aseiniad, ac anghenion y partïon perthnasol

4 sut i asesu eich sgiliau a lefel eich cymhwysedd yn erbyn gofynion aseiniad cyfieithu ar y pryd

5 trafod contract a chytuno arno, gan gynnwys yr amserlen, taliad ac yswiriant indemniad proffesiynol, fel y bo'n briodol

6 technegau datrys problemau sy'n berthnasol i gyfieithu ar y pryd


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

Mae'r safon hon yn gysylltiedig â nifer o safonau eraill, yn benodol:

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Cyfieithu ar y Pryd

CFAINT02 Paratoi ar gyfer aseiniadau cyfieithu ar y pryd

CFAINT03 Cyfieithu ar y pryd un ffordd fel cyfieithydd proffesiynol

CFAINS04 Cyfieithu ar y pryd dwy ffordd fel cyfieithydd proffesiynol

CFAINT05 Gwerthuso a datblygu eich ymarfer proffesiynol fel cyfieithydd ar y pryd

CFAINT06 Cynhyrchu cyfieithiadau golwg yn rhan o aseiniadau cyfieithu ar y pryd

CFAINT07 Cynhyrchu cyfieithiadau di-oed yn rhan o aseiniadau cyfieithu ar y pryd

CFAINT08 Gweithio gyda chyfieithwyr ar y pryd eraill

CFAINT09 Ymgymryd ag aseiniadau cyfieithu ar y pryd o bell

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ieithoedd

CFALANG1.6 Darllen testun cymhleth am ystod eang o bynciau gwaith

CFALANG2.6 Siarad/Gwneud Arwyddion drwy ddefnyddio iaith gymhleth mewn ystod eang o sefyllfaoedd gwaith

CFALANG3.6 Ysgrifennu testun cymhleth am ystod eang o bynciau gwaith

CFALANG4.6 Deall iaith lafar neu iaith arwyddion gymhleth mewn ystod eang o sefyllfaoedd gwaith

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol eraill

CFABI2 Ymgymryd â gwaith llawrydd




Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

22 Tach 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAINT01

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfathrebu, Gweithiwr Proffesiynol ym maes Gwasanaethau Cyhoeddus, Laith, Ieithyddiaeth, Cyfieithydd ar y Pryd, Cyfieithydd ar y Pryd Gwasanaethau Cyhoeddus, Ieithoedd, llenyddiaeth a diwylliant eraill, Gweinyddol

Cod SOC

N/A

Geiriau Allweddol

Cyfieithu ar y pryd, aseiniadau, gallu, asesu