Canfod ffyrdd arloesol o wella eich busnes

URN: CFAEE4
Sectorau Busnes (Suites): Gweinyddu Busnes
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Mai 2008

Trosolwg

Er mwyn cynnal lefelau bodlonrwydd cwsmeriaid ac i barhau'n gystadleuol, mae'n hanfodol bod pob busnes yn edrych am ffyrdd o wella. Gall ychydig o arloesedd mewn proses fusnes, gwasanaeth cwsmeriaid neu ddylunio cynnyrch gael effaith fawr ar gynhyrchiant a phroffidioldeb. Gall arloesedd ddod oddi wrth unrhyw un yn eich busnes, eich staff, cwsmeriaid neu gyflenwyr. Gall arloesedd hefyd ddod i'r amlwg unrhyw bryd, ond yn aml caiff ei ysgogi:

  1. gan newid yn eich busnes, personél neu gadwyn gyflenwi
  2. wrth ehangu neu leihau
  3. gan ffactorau allanol fel cystadleuydd yn cau
  4. tuedd newydd yn y farchnad

Mae datblygu awyrgylch lle mae syniadau'n cael eu croesawu yn allweddol i annog arloesi neu i wella llwyddiant eich busnes.

Gallai fod angen i chi wneud hyn os ydych:

  1. yn sefydlu busnes neu fenter gymdeithasol newydd
  2. yn ehangu eich busnes neu fenter gymdeithasol
  3. yn newid neu'n addasu'r cynnyrch neu'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig gan eich busnes neu fenter gymdeithasol

Mae canfod ffyrdd arloesol o wella eich busnes yn cynnwys:

  1. archwilio syniadau gwahanol ac atebion i broblemau
  2. archwilio marchnadoedd newydd a ffyrdd newydd o wneud busnes
  3. annog pobl eraill i gynnig syniadau ac awgrymiadau
  4. sicrhau bod prosesau busnes yn caniatáu arloesi


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. archwilio atebion gwahanol i heriau a phroblemau yn hytrach na'r ymagwedd fwyaf amlwg neu arferol
  2. bod yn radical a pharatoi i feddwl yn greadigol wrth ganfod ffyrdd o wella eich busnes
  3. annog adborth, sylwadau, syniadau newydd ac awgrymiadau ar gyfer gwella gan staff, cwsmeriaid, rhanddeiliaid, aelodau dibynadwy o'ch rhwydwaith a chynghorwyr proffesiynol
  4. rhoi adborth i'ch staff, cwsmeriaid, rhanddeiliaid, aelodau dibynadwy o'ch rhwydwaith a chynghorwyr proffesiynol ar y ffordd yr ydych wedi defnyddio eu hawgrymiadau a beth weithiodd ac na weithiodd
  5. asesu buddion a risg syniadau newydd 
  6. bod yn agored a derbyn syniadau newydd
  7. bod yn barod i fentro'n ofalus i wella eich busnes
  8. gwerthuso llwyddiant neu fethiant syniadau newydd yr ydych wedi eu rhoi ar waith i'ch helpu i ddatblygu strategaethau i'r dyfodol
  9. trefnu eich busnes mewn ffordd sy'n caniatáu ar gyfer arloesi a chreu a thrafod syniadau arloesol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Ymgynghori

  1. sut i drafod eich busnes yn effeithiol gyda staff, rhanddeiliaid, cwsmeriaid a'r rhwydwaith cymorth ehangach i ddyfeisio syniadau a strategaethau newydd ar gyfer gwella eich busnes
  2. sut i annog syniadau ac awgrymiadau gan eich staff a phobl eraill trwy gydnabod a gwobrwyo (er enghraifft, adborth cadarnhaol, bonws, rhoddion neu gydnabyddiaeth gyhoeddus)
  3. sut i annog syniadau newydd ac awgrymiadau gan eich cwsmeriaid
  4. sut i ddangos i gleientiaid, staff a phobl eraill bod yr holl sylwadau a'r awgrymiadau wedi cael eu hystyried o ddifrif ac esbonio pam y mae neu nad yw awgrymiadau wedi cael eu gweithredu

Gwerthu
5. ffyrdd gwahanol o werthu eich cynnyrch neu wasanaeth

Ffocws busnes
6. y cyfleoedd mewn marchnadoedd newydd

Cwsmeriaid
7. sut gall eich ymddygiad tuag at gwsmeriaid gael effaith gadarnhaol ar eich busnes
8. sut bydd eich cwsmeriaid eisiau i gynnyrch neu wasanaethau newid neu addasu yn y dyfodol

Arloesi
9. ffyrdd o greu amrywiaeth o opsiynau, syniadau, atebion a strategaethau amgen ac anarferol (er enghraifft taflu syniadau, meddwl ochrol a mapiau meddwl)
10. pa effaith mae isadeiledd eich busnes yn ei gael ar feithrin syniadau arloesol (er enghraifft, cyllideb wedi ei dyrannu ar gyfer buddsoddi mewn arloesedd neu atebion technegol)
11. sut i drefnu eich busnes i helpu i feithrin meddwl yn arloesol (er enghraifft, rhoi tasgau penodol allan ar gontract allanol er mwyn sicrhau bod gennych chi ac unrhyw staff neu randdeiliaid ddigon o amser i gyfarfod, meddwl a chynllunio ar gyfer y dyfodol)
12. sut i asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â rhoi syniad arloesol ar waith
13. sut i werthuso llwyddiant syniad a defnyddio'r gwerthusiad i lywio datblygiadau busnes yn y dyfodol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

  1. EE1 Cyflawni'r nodau ar gyfer eich busnes
  2. EE3 Creu cytundebau i ddwyn eich busnes ymlaen
  3. WB1 Gwirio'r hyn y mae cwsmeriaid ei angen oddi wrth eich busnes
  4. BD4 Cynnal adolygiad o'ch busnes
  5. BD6 Gwneud newidiadau i wella eich busnes
  6. YS4 Ceisio cyngor a chymorth ar gyfer eich busnes

    Cysylltiadau â safonau eraill

    Os bydd eich busnes yn tyfu ac yn datblygu tîm rheoli, gall fod yn briodol ystyried yr unedau canlynol o'r Safonau Rheolaeth ac Arweinyddiaeth.
  7. B3     Datblygu cynllun busnes strategol
  8. C3     Annog arloesi yn eich sefydliad
  9. F12      Gwella perfformiad sefydliadol

Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

20 Mai 2010

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sfedi

URN gwreiddiol

EE4

Galwedigaethau Perthnasol

Gweinyddu a’r Gyfraith, Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Busnes

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

llwyddiant, busnes, syniad, cymdeithasol, menter, cwsmeriaid, cynnyrch, gwasanaeth, cymorth, creadigol, syniad, sgiliau, anghenion, cyflenwyr, arian parod, llif, deddfwriaeth, marchnata, marchnad, tueddiadau, cystadleuwyr, iechyd a diogelwch, TAW, offer,