Cyflenwi gwasanaeth cwsmeriaid yn eiddo eich cwsmer
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn rhan o Thema Cyflenwi Gwasanaeth Cwsmeriaid. Mae'r Thema hon yn cynnwys ymddygiad a phrosesau Gwasanaeth Cwsmeriaid sy'n cael yr effaith fwyaf ar brofiad cwsmeriaid wrth gyflenwi Gwasanaeth Cwsmeriaid. Cofiwch fod cwsmeriaid yn cynnwys pawb yr ydych yn darparu gwasanaeth ar eu cyfer. Gallant fod y tu allan i'ch sefydliad neu gallant fod yn gwsmeriaid mewnol.
Mae llawer o sefydliadau yn cyflenwi gwasanaeth i'w cwsmeriaid yn eiddo'r cwsmer. Mae angen trin hyn yn sensitif am fod pobl yn amddiffynnol iawn am eu gofod personol. Yn y sefyllfa hon mae potensial bob amser i niweidio gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol trwy ddefnyddio iaith neu ymddygiad amhriodol neu hyd yn oed achosi niwed damweiniol i eiddo eich cwsmer. Mae'r Safon hon yn ymwneud â'r broses o ddarparu gwasanaeth yn eiddo'r cwsmer tra'n sicrhau bod eich cwsmer yn mwynhau'r gwasanaeth cwsmeriaid a'i fod yn hyderus bod y gwaith yr ydych wedi ei wneud wedi cael ei gwblhau'n llwyddiannus. Nid yw'r Safon hon yn ymwneud â gweithio mewn adeilad gwahanol yn unig. Mae'n rhaid bod eich cwsmer yn rhywun sy'n teimlo ei fod yn perchnogi'r eiddo ac felly ychydig yn amddiffynnol ohono. Yn arbennig, mae'r Safon hon ar eich cyfer chi os yw eich gwaith yn mynd â chi i mewn i gartrefi cwsmeriaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Sefydlu cysylltiad gyda'ch cwsmer
P1 paratoi ar gyfer ymweld ag eiddo eich cwsmer a sicrhau eu bod yn gwybod pryd a pham y byddwch yno
P2 dangos i'ch cwsmer pwy ydych gan ddangos prawf hunaniaeth swyddogol os yn bosibl
P3 dangos ymagwedd gadarnhaol a chyfeillgar tuag at y gwasanaeth yr ydych ar fin ei roi
P4 defnyddio iaith ac ymddygiad sy'n dangos parch tuag at eich cwsmer
P5 esbonio i'ch cwsmer yn union beth rydych yn mynd i'w wneud a thua faint o amser yr ydych yn disgwyl i'r gwaith gymryd
P6 gwrando ar unrhyw bryderon y gall fod gan eich cwsmer a'u sicrhau
P7 hysbysu eich cwsmer ynghylch cynnydd ac am unrhyw achos o oedi a allai ddigwydd
P8 hysbysu eich cwsmer ynghylch unrhyw amrywiad i'r gwaith a allai olygu amser neu gost ychwanegol
P9 ymgynghori â'ch cwsmer pan fydd yn rhaid i chi wneud gwaith nad ydynt wedi ei ddisgwyl
Cyfuno gwasanaeth cwsmeriaid gyda'ch sgiliau a'ch arbenigedd arall
P10 dangos parch tuag at eiddo a meddiannau eich cwsmer trwy eu trin â gofal
P11 sicrhau bod eich cwsmer yn ymwybodol o'ch sgiliau technegol arbenigol
P12 cymryd amser i roi hyder i'ch cwsmer am eich gwybodaeth a'ch sgiliau
P13 ystyried goblygiadau gwasanaeth cwsmeriaid pob gweithred a hysbysu eich cwsmer beth fydd hyn yn ei olygu
P14 hysbysu eich cwsmer pan fyddwch wedi gorffen ac atgyfnerthu bod y gwaith wedi cael ei wneud yn broffesiynol
P15 sicrhau bod eich cwsmer yn fodlon gyda'r gwaith a gwrando'n ofalus ar unrhyw adborth
P16 hysbysu eich cwsmer ynghylch graddfeydd amser os oes angen gwneud unrhyw waith dilynol
P17 sicrhau eich bod yn cadw at y graddfeydd amser ar gyfer gwaith dilynol
P18 hysbysu eich cwsmer os nad yw'r graddfeydd amser ar gyfer gwaith dilynol yn mynd i gael eu cadw
P19 esbonio'n glir i'ch cwsmer pam na allwch wneud gwaith nad yw wedi ei nodi yng nghynnig y gwasanaeth
P20 sicrhau bod gan eich cwsmer y manylion priodol i gysylltu â'ch sefydliad os oes angen iddynt wneud
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
G1 yr hyn y gallwch ei wneud i sefydlu cysylltiad gyda chwsmeriaid
G2 pwysigrwydd sensitifrwydd tuag at deimladau pobl am eu heiddo a'u meddiannau
G3 y cyfyngiadau rheoliadol a chyfreithiol o ran yr hyn y gallwch ac na allwch ei wneud ym mhob agwedd ar eich gwaith
G4 goblygiadau yswiriant gweithio yn eiddo eich cwsmer
G5 y gweithdrefnau sefydliadol i'w dilyn os byddwch yn achosi unrhyw niwed damweiniol yn eiddo eich cwsmer