Cynllunio ble mae eich busnes yn mynd
Trosolwg
Mae'r uned hon yn bwysig pan fyddwch yn rhoi amser i feddwl ble rydych eisiau i'ch busnes fynd a sut yr ydych eisiau iddo gyrraedd y fan honno am y bydd yn golygu y bydd eich busnes yn llawer mwy tebygol o wneud yr hyn yr ydych eisiau iddo ei wneud. Y rhan bwysicaf o hyn yw meddwl yn ofalus am bopeth. Chi sydd i benderfynu a fyddai'n ddefnyddiol ysgrifennu'r cyfan neu rannau o'ch cynlluniau i lawr. Os byddwch eisiau defnyddio eich cynlluniau i'ch helpu i gael cyllid neu gefnogaeth arall, bydd angen i chi eu hysgrifennu i lawr.
Gallech wneud hyn os ydych:
1. yn sefydlu busnes newydd neu fenter gymdeithasol
2. yn ehangu busnes neu fenter gymdeithasol
3. yn newid neu'n addasu'r ffordd y mae busnes neu fenter gymdeithasol yn gweithredu
4. yn adolygu'r hyn yr ydych ei eisiau ar gyfer busnes neu fenter gymdeithasol
Mae'r uned hon yn cynnwys cynllunio ble mae eich busnes yn mynd:
1. bod yn glir ble rydych eisiau i'ch busnes fod yn y dyfodol
2. gosod targedau am yr hyn yr ydych eisiau iddo ei gyflawni
3. llunio cynlluniau manwl i'w helpu i gyrraedd yno
4. penderfynu pa rannau o'ch cynllun sydd angen eu hysgrifennu i lawr a sut y mae angen eu cyflwyno
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 asesu sefyllfa bresennol y farchnad a delwedd eich busnes
P2 penderfynu ble yr hoffech i'ch busnes fod yn y tymor byr a'r hirdymor
P3 gosod targedau ar gyfer rhannau gwahanol eich busnes a sicrhau nad ydynt yn gwrthdaro â'i gilydd
P4 cynllunio'n fanwl sut bydd rhannau gwahanol eich busnes yn gweithio a sut bydd y targedau'n cael eu bodloni
P5 dylunio fframwaith fydd yn eich galluogi i fonitro perfformiad eich busnes yn erbyn eich cynlluniau
P6 sicrhau bod eich cynlluniau ar fformat sy'n addas ar gyfer eu defnyddio yn y dyfodol
P7 sicrhau eich bod yn cydymffurfio â'r holl gyfreithiau a'r rheoliadau sy'n berthnasol i'ch busnes a chynllunio sut i gael y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch unrhyw gyfreithiau a rheoliadau newydd
P8 ceisio cyngor pan fyddwch ei angen
P9 penderfynu sut byddwch yn rhoi eich cynlluniau ar waith a sut byddwch yn ymdrin â phethau nad ydynt yn mynd fel y dylent
P10 sicrhau bod pawb sy'n gysylltiedig â'ch busnes yn deall eich cynlluniau ac yn helpu i'w gwneud yn llwyddiannus
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Ffocws busnes
G1 sefyllfa bresennol y farchnad a delwedd eich busnes os yw eisoes yn masnachu
G2 sut i adnabod sefyllfa bresennol y farchnad a delwedd eich busnes
G3 sut i ddiffinio ble'r ydych eisiau i'ch busnes fod o ran sefyllfa'r farchnad a llwyddiant
G4 sut i osod targedau realistig ar gyfer rhannau gwahanol eich busnes (er enghraifft, cyllid, cynhyrchu, gwerthiannau, marchnata, gwasanaeth cwsmeriaid, ansawdd, recriwtio staff, gwobrwyo, arfarnu neu hyfforddi a datblygu)
G5 sut mae rhannau gwahanol eich busnes yn effeithio ar ei gilydd (er enghraifft gall targedau ariannol effeithio ar gynhyrchiant, incwm a chostau)
Cynllunio busnes
G6 sut i wneud cynlluniau sy'n ymarferol ac yn ddefnyddiol ac yn eich helpu chi i gyflawni'r hyn yr ydych eisiau ei gyflawni
G7 pa adnoddau sydd eu hangen i gyflawni eich cynlluniau, sut byddwch yn eu cael a beth fydd y gost (er enghraifft cynnyrch, staff, cyllid, adeilad, peiriannau, offer, marchnata a gweinyddu)
G8 sut y gallwch adolygu a monitro llwyddiant eich cynlluniau
G9 pwy fydd yn defnyddio eich cynlluniau, sut byddant yn cael eu defnyddio, a oes angen ysgrifennu rhannau neu'r cyfan ohonynt ac os felly, beth sydd angen iddynt ei gynnwys, sut y mae angen eu fformatio a sut y mae angen eu trefnu
Cyfreithiau a rheoliadau
G10 pa gyfreithiau a rheoliadau sy'n effeithio ar eich busnes a sut
Gwybodaeth a chyngor
G11 ble i gael cymorth a chyngor (gallai hyn gynnwys cysylltiadau busnes, canolfannau cynghori busnesau, cynghorwyr busnesau, mentoriaid neu gwnselwyr, ymgynghorwyr arbenigol, cyfarwyddwyr anweithredol, cyfrifwyr a gweithwyr proffesiynol eraill)
Ysgogi pobl eraill
G12 sut i gyfathrebu gyda phawb sy'n gysylltiedig â'ch busnes am eich cynlluniau a sut i ysgogi pobl a'u hannog i roi eich cynlluniau ar waith
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Dolenni i Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol eraill
1. EE1 Cyflawni'r nodau ar gyfer eich busnes
2. EE4 Canfod ffyrdd arloesol o wella eich busnes
3. WB2 Cynllunio sut i hysbysu eich cwsmeriaid am eich cynnyrch neu wasanaethau
4. WB4 Hysbysebu eich cynnyrch neu wasanaethau
5. WB11 Penderfynu sut y byddwch yn trin eich cwsmeriaid busnes
6. BD4 Cynnal adolygiad o'ch busnes
7. BD5 Cyflawni'r cynlluniau ar gyfer eich busnes
8. OP1 Adolygu'r sgiliau sydd eu hangen ar eich busnes
9. OP2 Cynllunio pa bobl sydd eu hangen ar eich busnes
10. BI1 Creu seilwaith ar gyfer anghenion eich busnes
11. BS1 Nodi anghenion a chyflenwyr ar gyfer eich busnes
12. MN2 Sefydlu a monitro targedau ariannol ar gyfer eich busnes
13. MN7 Cael cyllid ar gyfer eich busnes
14. LG2 Cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth bresennol sy'n effeithio ar eich busnes
Dolenni i safonau eraill
Os yw eich busnes yn tyfu ac yn datblygu tîm rheoli, gall fod yn briodol ystyried yr unedau canlynol o'r Safonau Rheolaeth ac Arweinyddiaeth.
15. B3 Datblygu cynllun busnes strategol
16. C5 Newid cynllun