Rheoli a bod yn atebol am eich perfformiad eich hun mewn amgylchedd busnes
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â derbyn cyfrifoldeb am eich gwaith eich hun a'i gyflwyno a cheisio gwella eich perfformiad eich hun mewn amgylchedd busnes. Mae'n cynnwys trafod targedau gwaith realistig a'r adnoddau sydd eu hangen i'w bodloni, gan adlewyrchu ar unrhyw gamgymeriadau a dysgu oddi wrthynt, gosod safonau uchel ar gyfer eich gwaith eich hun a dangos cymhelliant ac ymrwymiad i'w bodloni a chefnogi eraill ar adegau o newid. Mae ar gyfer gweinyddwyr sy'n rheoli ac sy'n atebol am eu gwaith eu hun.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynllunio a bod yn atebol am eich gwaith
P1 trafod targedau realistig ar gyfer eich gwaith
P2 trafod yr adnoddau sydd eu hangen arnoch a dewis dulliau gwaith effeithiol
P3 cyrraedd eich terfynau amser neu ail-drafod targedau a chynlluniau mewn da bryd
P4 cymryd cyfrifoldeb am eich gwaith eich hun a derbyn cyfrifoldeb am unrhyw gamgymeriadau y byddwch yn eu gwneud
P5 adlewyrchu ar eich camgymeriadau a dysgu oddi wrthynt
P6 dilyn canllawiau, gweithdrefnau a, lle y bo'n briodol, codau ymarfer cytûn
Ymddwyn mewn ffordd sy'n cefnogi gweithio'n effeithiol
P7 gosod safonau uchel ar gyfer eich gwaith a dangos cymhelliant ac ymrwymiad i gyflawni'r safonau hyn
P8 ymdopi â phwysau a goresgyn anawsterau a rhwystrau
P9 mynnu eich hawliau a'ch anghenion chi
P10 chwilio am heriau newydd
P11 bod yn barod i addasu i newid a chefnogi eraill yn ystod newid
P12 trin pobl eraill gyda gonestrwydd, parch ac ystyriaeth
P13cefnogi pobl eraill gyda thasgau gwaith
Gwella eich perfformiad eich hun
P14 annog a derbyn adborth gan bobl eraill
P15 gwerthuso eich gwaith eich hun a defnyddio adborth gan bobl eraill i nodi ble y dylech wella
P16 adnabod ffyrdd o wella eich gwaith, eu rhoi ar waith yn barhaus a phrofi pa mor effeithiol ydynt
P17 adnabod ble y gallai dysgu a datblygu pellach wella eich perfformiad
P18 datblygu a gorffen cynllun dysgu sy'n bodloni eich anghenion chi
P19 adolygu eich cynnydd a diweddaru eich cynlluniau ar gyfer gwella a dysgu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynllunio a bod yn atebol am eich gwaith
G1 sut i drafod targedau ac adnoddau realistig
G2 sut i gynyddu dulliau gweithio a sut i'w cymhwyso
G3 diben a buddion cydnabod a dysgu o'ch camgymeriadau
G4 y canllawiau, y gweithdrefnau a'r codau ymarfer sy'n berthnasol i'ch gwaith
G5 buddion a gwerth gwella eich gwaith yn barhaus
Ymddwyn mewn ffordd sy'n cefnogi gweithio'n effeithiol
G6 diben gosod safonau uchel ar gyfer eich gwaith a sut i osod y safonau hyn
G7 sut i ymdopi gyda phwysau
G8 diben a gwerth bod yn gadarn pan fyddwch yn dod ar draws rhwystrau
G9 diben a buddion bod yn ddi-ildio, beth mae hyn yn ei olygu a'r sefyllfaoedd lle dylech fod yn ddi-ildio
G10 diben a buddion chwilio am heriau newydd ac addasu i newid
G11 sut i gydnabod hynny pan fydd angen eich cefnogaeth ar bobl eraill a sut i'w rhoi
G12 y mathau o ymddygiad sy'n dangos eich bod yn onest, yn barchus ac yn ystyriol a'r mathau o ymddygiad sy'n dangos nad ydych
Gwella eich perfformiad eich hun
G13 sut i werthuso eich gwaith
G14 diben a buddion profi gwelliannau posibl i'ch gwaith
G15 sut y gall dysgu a datblygu eich helpu i wella eich gwaith, bod o fudd i'r sefydliad a datblygu eich gyrfa ymhellach
G16 y prif lwybrau datblygu gyrfa sydd ar gael i chi
G17 sut i ddatblygu cynllun dysgu
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- dadansoddi
- cyfathrebu
- gwneud penderfyniadau
- trefnu
- cynllunio
- cyflwyno gwybodaeth
- ymchwilio
- defnyddio rhifau
- datrys problemau
- defnyddio technoleg