Cynllunio a chynnal ymchwil ar ran y gwasanaeth
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer ymarferwyr datblygu gyrfa.
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio a chynnal ymchwil ar ran y gwasanaeth ar wybodaeth ac ymarfer datblygu gyrfa yn lleol, yn genedlaethol neu'n rhyngwladol, er mwyn gwella'r wybodaeth a'r adnoddau sydd ar gael i unigolion ac ymarferwyr. Gallai'r ymchwil ymwneud â theori ac ymarfer wrth ddatblygu gyrfa neu'r marchnadoedd dysgu a llafur.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
sicrhau eich bod yn deall y brîff ymchwil, yr wybodaeth sy'n ofynnol, sut bydd yn cael ei defnyddio a sut mae angen ei chyflwyno wrth gynllunio ymchwil ar ran y gwasanaeth
nodi a sicrhau mynediad i adnoddau sy'n caniatáu dadansoddi'r wybodaeth a gasglwyd yn gywir
cymhwyso dulliau ymchwil priodol a moesegol i gasglu gwybodaeth wrth gynnal ymchwil ar ran y gwasanaeth
sicrhau bod y data a gesglir yn berthnasol i nodau'r cynllun ymchwil
coladu, dadansoddi a chyflwyno gwybodaeth sy'n bodloni gofynion y brîff ymchwil
cadw cofnod o ffynonellau, technegau chwilio a strategaeth ynghyd â chanlyniadau eich ymchwil, sy'n cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
dadansoddi a lledaenu'r canlyniadau
canfod ffynonellau gwybodaeth pellach posibl a gwerthuso eu perthnasedd a'u priodoldeb
gwerthuso'r gweithgaredd ymchwil a chynllunio gwelliannau ar gyfer ymchwil yn y dyfodol yn ôl y galw
gweithredu mewn ffyrdd sy'n glynu at yr ymarfer moesegol sy'n ofynnol o fewn eich sefydliad neu eich proffesiwn
herio unrhyw ragfarn, defnydd o stereoteipiau, camwahaniaethu ac ymddygiad anfoesegol neu ormesol
hyrwyddo cynhwysedd, amrywiaeth a chyfle cyfartal
cynnal cyfrinachedd a diogeledd gwybodaeth unigol sy'n bodloni'r gofynion cyfreithiol a'r polisïau sefydliadol perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
gofynion brîff ymchwil
sut mae cymhwyso ymchwil a dadansoddi yn eich cyd-destun gwaith
ymarfer ymchwil effeithiol a'r technegau, yr offer a'r ffynonellau sydd ar gael i'ch cyd-destun gwaith
sut defnyddir data ymchwil gan sefydliadau
sut mae gwerthuso perthnasedd, ansawdd a defnyddioldeb data ymchwil
offer a thechnegau ymchwil sy'n briodol ar gyfer eich maes arbenigol
sut mae rheoli'r broses ymchwil yn drefnus, fel bod modd cyfeirio at ffynonellau ac ailadrodd gwaith yn ôl y galw
sut mae gwerthuso gweithgareddau ymchwil gan ddefnyddio adborth cydweithwyr a'u mesur yn erbyn canlyniadau
egwyddorion moesegol a chodau ymarfer moesegol proffesiynol perthnasol, a chanlyniadau peidio â chadw atynt
ffiniau cyfrinachedd, pryd mae'n briodol datgelu gwybodaeth gyfrinachol i eraill a'r prosesau sy'n ofynnol