Monitro, gwerthuso a gwella effeithiolrwydd y gwasanaeth
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer ymarferwyr datblygu gyrfa.
Mae'r safon hon yn ymwneud â mesur effaith gwasanaethau a'u mireinio gan ddefnyddio adborth defnyddwyr a gwybodaeth arall. Mae'n canolbwyntio ar fonitro, gwerthuso a gwella'r gwasanaeth a gynigir, gan adeiladu ar gryfderau ac ymdrin â meysydd i'w datblygu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gweithredu mewn ffyrdd sy'n glynu at yr ymarfer moesegol sy'n ofynnol o fewn eich sefydliad neu eich proffesiwn
cynnal cyfrinachedd a diogeledd gwybodaeth unigol sy'n bodloni'r gofynion cyfreithiol a'r polisïau sefydliadol perthnasol
defnyddio dulliau monitro a gwerthuso a fydd yn darparu gwybodaeth gywir a defnyddiol, ac sy'n berthnasol i'r grŵp targed
casglu adborth yn fewnol ac yn allanol mewn ffyrdd a fydd yn annog ymatebion gonest, agored ac adeiladol
dadansoddi a dehongli gwybodaeth fonitro a gwerthuso
coladu a storio gwybodaeth mewn ffyrdd sy'n cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol a gofynion sefydliadol
monitro a gwerthuso effeithiolrwydd y gwasanaeth a'i effaith ar adegau a chyfnodau a fydd yn darparu'r canlyniadau mwyaf realistig
adrodd ar ganlyniadau gwerthuso a'u lledaenu
nodi gwelliannau neu addasiadau i'r gwasnaaeth a gefnogir gan ganfyddiadau gwerthuso ac a fydd o fudd i'r gwasanaeth
cynnwys y bobl berthnasol wrth gytuno ar welliannau neu addasiadau neu eu rhoi ar waith
cytuno ar nodau clir a chanlyniadau mesuradwy ar gyfer gwelliannau neu addasiadau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
egwyddorion moesegol a chodau ymarfer moesegol proffesiynol perthnasol, a chanlyniadau peidio â chadw atynt
ffynonellau gwybodaeth gwahanol ar gyfer seilio monitro a gwerthuso, a'u rhinweddau cymharol
defnyddioldeb adborth a'i ymwneud â chyd-ddylunio gwasanaethau
sut mae casglu a dehongli data rheoli ac adborth
sut mae gwahaniaethu rhwng gwerthuso ansawdd a mesur effaith
yr ystod o ddulliau y gellir eu defnyddio i fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd gwasanaeth a mesur effaith y gwasanaeth
pa ddulliau monitro a gwerthuso i'w dewis i gasglu'r wybodaeth ofynnol
prosesau gwelliant parhaus
effaith y gwasanaeth ar grwpiau clientiaid penodol
sut mae dehongli canlyniadau gwerthuso i ganfod meysydd ar gyfer gwella'r gwasanaeth
sut mae cynhyrchu a lledaenu canlyniadau gwerthuso