Hyrwyddo argaeledd, gwerth ac effeithiolrwydd y gwasanaeth
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer ymarferwyr datblygu gyrfa.
Mae'r safon hon yn ymwneud ag ymgysylltu â phobl oddi mewn ac oddi allan i'ch sefydliad i hyrwyddo argaeledd, effeithiolrwydd a gwerth y gwasanaeth a gynigir. Gallai'r pobl hyn fod yn ddarpar ddefnyddwyr gwasanaeth neu eisoes yn defnyddio'r gwasanaeth, yn gyflogwyr, yn rhanddeiliaid ac yn bartïon eraill â diddordeb. Gallent gynnwys eiriolwyr a dylanwadwyr eraill y mae angen iddynt ddeall y gwasanaeth a gynigir a'i werth i unigolion. Gallai'r rhai sydd oddi mewn i'r sefydliad olygu rhai sydd â meysydd penodol o arbenigedd sy'n cefnogi hyrwyddo'r gwasanaeth a gynigir.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
diffinio'r gofynion hyrwyddo neu leoli a fydd yn ymateb orau i anghenion y gwasanaeth a gynigir
pennu nodau clir a chanlyniadau mesuradwy ar gyfer gweithgaredd hyrwyddo neu leoli
cynllunio gweithgaredd sy'n hyrwyddo argaeledd, gwerth ac effeithiolrwydd y gwasanaeth a gynigir
defnyddio gwybodaeth sy'n berthnasol i'r gynulleidfa darged ac yn ymgysylltu â hi
defnyddio dulliau hyrwyddo neu leoli sy'n ymateb i anghenion y gwasanaeth oddi mewn i'r adnoddau sydd ar gael
defnyddio adborth gan y gynulleidfa darged i hysbysu a llywio gweithgaredd hyrwyddo neu leoli yn y dyfodol
cadw cofnodion am weithgaredd hyrwyddo neu leoli sy'n cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol a gofynion sefydliadol
gwerthuso gweithgaredd hyrwyddo neu leoli a chynllunio gwelliannau yn ôl y galw
gweithredu mewn ffyrdd sy'n glynu at yr ymarfer moesegol sy'n ofynnol o fewn eich sefydliad neu eich proffesiwn
herio unrhyw ragfarn, defnydd o stereoteipiau, camwahaniaethu ac ymddygiad anfoesegol neu ormesol
annog ymreolaeth unigolion oddi mewn i'r broses datblygu gyrfa
hyrwyddo cynhwysedd, amrywiaeth a chyfle cyfartal
cynnal cyfrinachedd a diogeledd gwybodaeth unigol sy'n bodloni'r gofynion cyfreithiol a'r polisïau sefydliadol perthnasol
arddangos dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol, gweithdrefnau lleol a'ch atebolrwydd eich hun o ran diogelu pobl ifanc ac oedolion agored i niwed
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
yr ystod o bobl oddi mewn ac oddi allan i'ch sefydliad y gellir eu targedu â gweithgaredd hyrwyddo neu leoli
sut mae adnabod darpar ddefnyddwyr gwasanaeth a dylanwadwyr allweddol a'u hanghenion gwybodaeth
rhinweddau cymharol gwahanol ddulliau hyrwyddo a lleoli, gan gynnwys defnyddio ystod o gyfryngau
gwerth meithrin perthynas wrth hyrwyddo'r gwasanaeth a gynigir, gan gynnwys rheoli disgwyliadau
sut gellir defnyddio cyfryngau priodol mewn modd cadarnhaol i ymgysylltu ag unigolion yn unol â pholisïau'r sefydliad
ffynonellau tystiolaeth ynghylch argaeledd, gwerth ac effeithiolrwydd y gwasanaeth a gynigir
gwerth cymeradwyaeth allanol i'r gwasanaeth
sut mae dadansoddi a myfyrio ar weithgaredd hyrwyddo, gan ddefnyddio adborth gan y gynulleidfa darged a chanlyniadau a gofnodwyd, a chynllunio gwelliannau yn ôl y galw
egwyddorion moesegol a chodau ymarfer moesegol proffesiynol perthnasol, a chanlyniadau peidio â chadw atynt
sut mae annog unigolion i gymryd perchnogaeth ar y broses datblygu gyrfa
ffiniau a therfynau eich arbenigedd proffesiynol eich hun
ffiniau cyfrinachedd, pryd mae'n briodol datgelu gwybodaeth gyfrinachol i eraill a'r prosesau sy'n ofynnol
mesurau i ddiogelu pobl ifanc ac oedolion agored i niwed