Cynllunio a dylunio'r gwasanaeth a gynigir
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer ymarferwyr datblygu gyrfa.
Mae'r safon hon yn ymwneud â deall anghenion a gofynion y farchnad o ran gwasanaethau datblygu gyrfa, a gallu darparu gwasanaeth sy'n berthnasol, y rhoddir gwerth arno, ac sy'n gynaliadwy. Mae'n cynnwys cynllunio, dylunio a chyd-drafod cynnwys a chwmpas y gwasanaeth a gyflwynir.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
adnabod yr angen a'r farchnad ar gyfer gwasanaethau datblygu gyrfa
ymgynghori â chlientiaid a sefydliadau i ganfod ac archwilio eu gofynion penodol
cynllunio a dylunio gwasanaeth craidd a gynigir ar sail angen, arfer gorau a sgiliau a gwybodaeth ymarferwyr oddi mewn i'r adnoddau sydd ar gael
cyfathrebu, dylanwadu a chyd-drafod gyda chlientiaid a sefydliadau ynghylch sut gall y gwasanaeth a gynigir ymateb orau i'w hanghenion a darparu'r gwerth mwyaf
nodi'r canlyniadau a'r mesurau llwyddiant priodol ar gyfer ymyriadau a gynigir
cytuno gyda chlientiaid a sefydliadau ar gontractau, cynigion neu gytundebau priodol i ddiffinio cwmpas, cyllideb a chydymffurfiaeth â safonau proffesiynol a chôd moeseg
gweithio mewn cydweithrediad â chlientiaid a sefydliadau i ddylunio cynnwys y gwasanaeth, a nodi sut mae'n cysylltu ag ymyriadau eraill
gweithio mewn cydweithrediad â chlientiaid a sefydliadau i gynllunio, cyflwyno, monitro a gwerthuso'r gwasanaeth
hyfforddi eraill yn ôl y galw i gyflwyno'r gwasanaeth a gynigir
gwerthuso effeithiolrwydd y gwasanaeth a gynigir a chynllunio gwelliannau yn ôl y galw
gweithredu mewn ffyrdd sy'n glynu at yr ymarfer moesegol sy'n ofynnol o fewn eich sefydliad neu eich proffesiwn
herio unrhyw ragfarn, defnydd o stereoteipiau, camwahaniaethu ac ymddygiad anfoesegol neu ormesol
annog ymreolaeth unigolion oddi mewn i'r broses datblygu gyrfa
hyrwyddo cynhwysedd, amrywiaeth a chyfle cyfartal
cynnal cyfrinachedd a diogeledd gwybodaeth unigol sy'n bodloni'r gofynion cyfreithiol a'r polisïau sefydliadol perthnasol
arddangos dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol, gweithdrefnau lleol a'ch atebolrwydd eich hun o ran diogelu pobl ifanc ac oedolion agored i niwed
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
yr anghenion cyfredol a'r rhai sy'n dod i'r amlwg ar gyfer gwasanaethau datblygu gyrfa a'r ystod o glientiaid a rhanddeiliaid
sut mae darparu tystiolaeth o'r manteision y mae gwasanaethau datblygu gyrfa yn eu cynnig i ystod o glientiaid a grwpiau rhanddeiliaid
elfennau allweddol o'r hyn a gynigir gan wasanaeth datblygu gyrfa effeithiol
sut mae cynllunio a dylunio'r hyn a gynigir gan y gwasanaeth datblygu gyrfa i ymateb i wahanol anghenion a chyd-destunau
mesurau a dangosyddion llwyddiant, a sut mae cytuno ar y rhain ar gyfer y gwasanaeth a ddarperir
sut mae llunio cynnig neu gontract sy'n diffinio cwmpas, costau a sicrhau ansawdd y gwasanaeth a gynigir
ymwybyddiaeth o ystod o adnoddau a thechnegau datblygu gyrfa i gyflwyno'r hyn a gynigir gan y gwasanaeth
gwerth ac ystod y dulliau dysgu
sut mae rhoi hyfforddiant tywys, hyfforddi a mentora eraill i gyflwyno agweddau ar y gwasanaeth datblygu gyrfa
egwyddorion moesegol a chodau ymarfer moesegol proffesiynol perthnasol, a chanlyniadau peidio â chadw atynt
sut mae annog unigolion i gymryd perchnogaeth ar y broses datblygu gyrfa
ffiniau a therfynau eich arbenigedd proffesiynol eich hun
ffiniau cyfrinachedd, pryd mae'n briodol datgelu gwybodaeth gyfrinachol i eraill a'r prosesau sy'n ofynnol
mesurau i ddiogelu pobl ifanc ac oedolion agored i niwed