Cynrychioli anghenion unigolion i eraill

URN: CDICRD13
Sectorau Busnes (Suites): Datblygu Gyrfa
Datblygwyd gan: CDI
Cymeradwy ar: 03 Tach 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer ymarferwyr datblygu gyrfa.

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynrychioli anghenion unigolion i eraill trwy eiriolaeth, cyd-drafod a chyfryngu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio gydag unigolion i gasglu gwybodaeth ddigonol i gynrychioli eu buddiannau

  2. sicrhau bod gan unigolion ddisgwyliadau realistig o ran canlyniadau cynrychiolaeth ar eu rhan

  3. cydnabod y gwahaniaethau rhwng eiriolaeth, cyd-drafod a chyfryngu a phryd gellid defnyddio pob un ohonynt

  4. adnabod gwybodaeth anghyson ynghylch unigolion a datrys hynny gyda nhw

  5. defnyddio gwasanaethau allanol i gynrychioli unigolion pan fo hynny er eu lles pennaf

  6. cytuno ar gynlluniau realistig wrth gefn gydag unigolion

  7. cyflwyno buddiannau unigolion yn glir ac yn effeithiol i eraill

  8. cyd-drafod oddi mewn i'r terfynau y cytunwyd arnynt gydag unigolion

  9. cynnig awgrymiadau adeiladol ar gyfer datrys materion

  10. ymgynghori ag unigolion ar adegau addas, i sicrhau bod cytundebau'n ymateb i'w gofynion

  11. cofnodi cytundebau gan ddefnyddio gweithdrefnau sefydliadol

  12. effeithiolrwydd gweithgareddau cynrychioli a chynllunio gwelliannau yn ôl y galw

  13. gweithredu mewn ffyrdd sy'n glynu at yr ymarfer moesegol sy'n ofynnol o fewn eich sefydliad neu eich proffesiwn

  14. herio unrhyw ragfarn, defnydd o stereoteipiau, camwahaniaethu ac ymddygiad anfoesegol neu ormesol

  15. annog ymreolaeth unigolion oddi mewn i'r broses datblygu gyrfa

  16. hyrwyddo cynhwysedd, amrywiaeth a chyfle cyfartal

  17. cynnal cyfrinachedd a diogeledd gwybodaeth unigol sy'n bodloni'r gofynion cyfreithiol a'r polisïau sefydliadol perthnasol

  18. arddangos dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol, gweithdrefnau lleol a'ch atebolrwydd eich hun o ran diogelu pobl ifanc ac oedolion agored i niwed


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

  2. egwyddorion cyd-drafod, eiriolath a chyfryngu, a phryd gellid defnyddio pob un ohonynt

  3. sut mae asesu effeithiolrwydd gweithgareddau cynrychioli

  4. manteision ac anfanteision ymgysylltu â gwasanaethau allanol i gynrychioli buddiannau unigolion

  5. sut mae asesu lefel y gynrychiolaeth sy'n ofynnol i ymateb orau i fuddiannau unigolion

  6. yr ystod o sgiliau, technegau a strategaethau a ddefnyddir wrth gynrychioli unigolion

  7. yr wybodaeth sy'n angenrheidiol i gynrychioli unigolion

  8. sut mae adnabod gwybodaeth anghyson sy'n ymwneud ag unigolion

  9. sut mae adnabod a chyflwyno agweddau allweddol ar ofynion unigolion

  10. sut cytunir ar benderfyniadau a'r systemau ar gyfer eu cofnodi

  11. sut mae dadansoddi a myfyrio ar weithgareddau cynrychioli, gan ddefnyddio adborth unigolion a'r canlyniadau a gofnodwyd

  12. egwyddorion moesegol a chodau ymarfer moesegol proffesiynol perthnasol, a chanlyniadau peidio â chadw atynt

  13. sut mae annog unigolion i gymryd perchnogaeth ar y broses datblygu gyrfa

  14. ffiniau a therfynau eich arbenigedd proffesiynol eich hun

  15. ffiniau cyfrinachedd, pryd mae'n briodol datgelu gwybodaeth gyfrinachol i eraill a'r prosesau sy'n ofynnol

  16. mesurau i ddiogelu pobl ifanc ac oedolion agored i niwed


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2016

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CDI

URN gwreiddiol

CDICRD13

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Galwedigaethau Proffesiynol, Rheolwyr ac arweinwyr sydd â chyfrifoldeb am rhyngasiantaethol, gweithwyr llinell gymorth, Ymgynghorwyr Gyrfaoedd ac Arbenigwyr Cyfarwyddyd Galwedigaethol, Galwedigaethau Gwasanaethau Cwsmeriaid, Hyfforddwr Tywys Gweithredol, Rheolwyr Swyddogaethol, Staff Adnoddau Dynol, Mentor Dysgu, Rheolwyr personel, Hyffordiant a chysylltiadau diwydiannol, Gweithwyr Ymchwil Proffesiynol, Addysgwyr Proffesiynol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cyngor, dyhead, gyrfa, client-ganolog, datblygiad, addysg, cyflogaeth, cydraddoldeb, moesegol, nodau, grŵp, unigolyn, gwybodaeth, marchnad lafur, dysgu, symbyliad, anghenion, rhwydweithio, amcan, partneriaeth, cynllunio, ymarfer, atgyfeirio, myfyrio