Galluogi unigolion i gael mynediad i gyfleoedd atgyfeirio
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer ymarferwyr datblygu gyrfa.
Mae'r safon hon yn ymwneud â sut mae cefnogi unigolion i gael mynediad i gyfleoedd atgyfeirio, a sut mae sicrhau bod atgyfeiriadau yn cael effaith gadarnhaol ar eu datblygiad gyrfa.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
argymell atgyfeiriadau i unigolion sy'n ymateb orau i'w hanghenion, ac y maent yn gymwys ar eu cyfer
helpu unigolion i ddiffinio'u disgwyliadau o ran cyfleoedd atgyfeirio
sicrhau bod unigolion yn cael gwybodaeth ac amser digonol i fyfyrio wrth ymrwymo i atgyfeiriadau
cefnogi unigolion i fynd ar ôl cyfleoedd atgyfeirio addas
sefydlu partneriaethau effeithiol gydag eraill er mwyn optimeiddio cyfleoedd atgyfeirio a sianeli ar gyfer trosglwyddo adborth
cydnabod a pharchu rolau a chyfrifoldebau eraill yn y broses atgyfeirio
ceisio adborth gan unigolion a chan eraill, lle bo hynny'n briodol, ar yr atgyfeiriadau a wnaed
cofnodi atgyfeiriadau ac olrhain eu hynt yn unol â gofynion y sefydliad
gwerthuso effaith atgyfeiriadau a chynllunio gwelliannau yn ôl y galw
gweithredu mewn ffyrdd sy'n glynu at yr ymarfer moesegol sy'n ofynnol o fewn eich sefydliad neu eich proffesiwn
herio unrhyw ragfarn, defnydd o stereoteipiau, camwahaniaethu ac ymddygiad anfoesegol neu ormesol
annog ymreolaeth unigolion oddi mewn i'r broses datblygu gyrfa
hyrwyddo cynhwysedd, amrywiaeth a chyfle cyfartal
cynnal cyfrinachedd a diogeledd gwybodaeth unigol sy'n bodloni'r gofynion cyfreithiol a'r polisïau sefydliadol perthnasol
arddangos dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol, gweithdrefnau lleol a'ch atebolrwydd eich hun o ran diogelu pobl ifanc ac oedolion agored i niwed
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
y rhwystrau y gall unigolion eu hwynebu lle gall fod angen cefnogaeth arbenigol arnynt
ffynonellau priodol o gefnogaeth arbenigol oddi mewn i'r sefydliad a'r tu allan iddo, er mwyn diwallu anghenion penodol unigolion
sefydliadau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, y gall fod yn briodol cyfeirio unigolion atynt
meini prawf cymhwyster a phrosesau gwneud penderfyniadau yr unigolion a'r sefydliadau yr ydych yn cyfeirio unigolion atynt
pryd mae'n briodol rhannu gwybodaeth gydag eraill
sut mae canfod natur y lefel y gefnogaeth y mae ei hangen ar unigolion gan y gwasanaethau yr ydych yn eu cyfeirio atynt
ffyrdd o holi unigolion ynghylch anghenion atgyfeirio mewn modd sy'n parchu eu gwerthoedd, eu hawliau a'u preifatrwydd
sut mae grymuso unigolion i'w galluogi i gyrchu gwasanaethau unigolion neu sefydliadau eraill
sut mae dadansoddi a myfyrio ar weithgareddau atgyfeirio gan ddefnyddio adborth cyfranogwyr a chanlyniadau a gofnodwyd
egwyddorion moesegol a chodau ymarfer moesegol proffesiynol perthnasol, a chanlyniadau peidio â chadw atynt
sut mae annog unigolion i gymryd perchnogaeth ar y broses datblygu gyrfa
ffiniau a therfynau eich arbenigedd proffesiynol eich hun
ffiniau cyfrinachedd, pryd mae'n briodol datgelu gwybodaeth gyfrinachol i eraill a'r prosesau sy'n ofynnol
mesurau i ddiogelu pobl ifanc ac oedolion agored i niwed