Gwella gwasanaethau i unigolion trwy gydweithio ag eraill
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer ymarferwyr datblygu gyrfa.
Mae'r safon hon yn canolbwyntio ar wella gwasanaethau trwy gydweithio ag eraill. Mae'n ymwneud â datblygu trefniadau gwaith rhyngasiantaeth effeithiol, a hynny rhwng gwahanol sefydliadau ac unigolion sy'n cynnig gwasanaethau neu ffynonellau cymorth arbenigol, er mwyn ymateb yn y ffordd orau i anghenion unigolion ac optimeiddio'r canlyniadau iddynt.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
datblygu nodau a rennir y gall eich sefydliad eich hun a sefydliadau eraill eu cefnogi
canfod pobl mewn sefydliadau eraill sydd wedi'u grymuso i symud gwaith ar y cyd yn ei flaen, a gweithio gyda nhw
cyd-drafod a chytuno ar brotocolau ar gyfer gweithio cydweithredol sy'n cyfyngu gymaint â phosibl ar ddyblygu ac yn mwyafu'r manteision i unigolion
datblygu cynlluniau ar y cyd sy'n golygu bod modd cyflawni amcanion cytunedig a chyflwyno gwasanaethau mewn modd cost-effeithiol
sicrhau bod cynlluniau'n gwneud defnydd priodol o sgiliau ac arbenigedd y bobl a'r sefydliadau dan sylw
rhannu gwybodaeth a chyfathrebu'n effeithiol gydag eraill
canfod a mesur goblygiadau gweithio cydweithredol o ran adnoddau, gan gynnwys costau staffio
monitro gwybodaeth ac adnoddau a rennir yn unol â safonau ansawdd perthnasol polisi
datblygu protocolau i ddelio gyda methiant cyfathrebu, a datrys gwrthdaro rhwng asiantaethau
gwerthuso effaith trefniadau cydweithredu ar unigolion a chynllunio gwelliannau yn ôl y galw
gweithredu mewn ffyrdd sy'n glynu at yr ymarfer moesegol sy'n ofynnol o fewn eich sefydliad neu eich proffesiwn
herio unrhyw ragfarn, defnydd o stereoteipiau, camwahaniaethu ac ymddygiad anfoesegol neu ormesol
annog ymreolaeth unigolion oddi mewn i'r broses datblygu gyrfa
hyrwyddo cynhwysedd, amrywiaeth a chyfle cyfartal
cynnal cyfrinachedd a diogeledd gwybodaeth unigol sy'n bodloni'r gofynion cyfreithiol a'r polisïau sefydliadol perthnasol
arddangos dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol, gweithdrefnau lleol a'ch atebolrwydd eich hun o ran diogelu pobl ifanc ac oedolion agored i niwed
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
y gwasanaethau a gynigir gan eraill, beth yw'r berthynas rhyngddyn nhw a'r gwasanaeth a gynigir gan eich sefydliad eich hun, a sut mae eu defnyddio a'u cyrchu
sut mae cysylltu â phartneriaid mewn ffyrdd sy'n meithrin hyder ac ymddiriedaeth, a phwysigrwydd hynny yng nghyd-destun perthnasoedd gwaith effeithiol
sut mae alinio nodau sefydliadol
sut mae dylanwadu ar eraill i ystyried syniadau newydd a ffyrdd newydd o weithio
pam mae'n bwysig cael protocolau ar gyfer gwaith rhyngasiantaeth a'r prif feysydd y dylai'r cyfryw brotocolau eu cwmpasu
pam mae'n bwysig cytuno gyda sefydliadau eraill ar sut dylid rhannu adnoddau'n gost-effeithiol
egwyddorion a dulliau gweithio ar y cyd, a gwaith amlddisgyblaeth
sut mae asesu risgiau gweithio ar y cyd a ffyrdd o'u lleiafu
sut mae canfod partneriaid priodol a'u cyfraniadau posibl i waith ar y cyd a gwaith amlddisgyblaeth
pwysigrwydd cyfathrebu a rhannu gwybodaeth yn effeithiol
sut mae canfod a mesur goblygiadau adnoddau gwaith cydweithredol, gan gynnwys costau staffio
sut mae rhoi adborth, atal gwrthdaro a'i ddatrys mewn modd adeiladol
dulliau o werthuso effeithiolrwydd gweithio gydag eraill
egwyddorion moesegol a chodau ymarfer moesegol proffesiynol perthnasol, a chanlyniadau peidio â chadw atynt
ffiniau a therfynau eich arbenigedd proffesiynol eich hun
ffiniau cyfrinachedd, pryd mae'n briodol datgelu gwybodaeth gyfrinachol i eraill a'r prosesau sy'n ofynnol
mesurau i ddiogelu pobl ifanc ac oedolion agored i niwed