Arwain a rheoli gwaith datblygu gyrfa mewn sefydliad
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer ymarferwyr datblygu gyrfa.
Mae'r safon hon yn ymwneud ag arwain a rheoli gwaith datblygu gyrfa mewn sefydliad addysg, hyfforddiant neu ailsefydlu, megis ysgol, coleg, darparwr hyfforddiant yn y gweithle, prifysgol neu ystâd wedi'i diogelu, neu mewn lleoliad cymunedol neu sefydliad sy'n cyflogi. Mae'n ymwneud ag arwain a rheoli'r ddarpariaeth datblygu gyrfa gyfan, neu ran sylweddol o'r ddarpariaeth, yn y sefydliad.
Gallai'r ddarpariaeth gwaith datblygu gyrfa gynnwys gwybodaeth am yrfaoedd, cyngor ac arweiniad, hyfforddiant tywys a dysgu cysylltiedig â gyrfa.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
cyd-drafod polisi, blaenoriaethau ac adnoddau gwaith datblygu gyrfa gydag uwch-arweinyddion a rheolwyr
dylunio a chynllunio, yn unigol neu gydag eraill, raglen gyffredinol o waith datblygu gyrfa ar gyfer y sefydliad
rheoli cyfraniadau staff sydd â chyfrifoldebau am ddarparu elfennau o waith datblygu gyrfa
paratoi, rheoli a rhoi cyfrif am gyllidebau ar gyfer gwaith datblygu gyrfa
goruchwylio'r gwaith o sefydlu, cynnal a datblygu darpariaeth gynhwysfawr, hygyrch, wedi'i diweddaru o wybodaeth gyrfaoedd yn y sefydliad
gweithio gyda staff o fewn y sefydliad i ganfod anghenion cyngor ac arweiniad unigolion, a chyfeirio unigolion at ymgynghorwyr sy'n gweithio o fewn y sefydliad a chydag ef
cyd-drafod neu gomisiynu gwasanaethau gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar yrfaoedd gan ddarparwyr allanol lle gellir cyfiawnhau hynny
sicrhau partneriaethau effeithiol gydag adrannau eraill yn y sefydliad er mwyn cyfrannu at y rhaglen o waith datblygu gyrfa
sicrhau partneriaethau effeithiol gyda chyflogwyr, darparwyr addysg a hyfforddiant ac asiantaethau allanol eraill i gyfrannu at y gwaith datblygu gyrfa yn y sefydliad lle bo hynny'n briodol
dadansoddi anghenion hyfforddi staff sy'n ymwneud â gwaith datblygu gyrfa yn y sefydliad
cynllunio ac arwain sesiynau hyfforddi a briffio ar gyfer staff ac adolygu effaith hyfforddiant
adolygu a gwerthuso darpariaeth gyffredinol gwaith datblygu gyrfa yn y sefydliad, gan ddefnyddio fframweithiau ansawdd perthnasol a phriodol
rheoli gwelliant parhaus, newid ac arloesedd ym maes ymarfer datblygu gyrfa yn y sefydliad
gweithredu mewn ffyrdd sy'n glynu at yr ymarfer moesegol sy'n ofynnol o fewn eich sefydliad neu eich proffesiwn
herio unrhyw ragfarn, defnydd o stereoteipiau, camwahaniaethu ac ymddygiad anfoesegol neu ormesol
annog ymreolaeth unigolion oddi mewn i'r broses datblygu gyrfa
hyrwyddo cynhwysedd, amrywiaeth a chyfle cyfartal
cynnal cyfrinachedd a diogeledd gwybodaeth unigol sy'n bodloni'r gofynion cyfreithiol a'r polisïau sefydliadol perthnasol
arddangos dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol, gweithdrefnau lleol a'ch atebolrwydd eich hun o ran diogelu pobl ifanc ac oedolion agored i niwed
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
ffynonellau cyngor, cefnogaeth a syniadau newydd ar gyfer gwaith datblygu gyrfa
prif elfennau gwaith datblygu gyrfa
yr ystod o bobl, y tu mewn a'r tu allan i'r sefydliad, a allai gyfrannu at waith datblygu gyrfa, a'u rolau unigol
yr adnoddau sy'n angenrheidiol i gyflawni gwaith datblygu gyrfa
ffynonellau gwybodaeth am yrfaoedd
sut mae dylunio rhaglenni gwaith ar gyfer dysgu cysylltiedig â gyrfa
egwyddorion gweithio mewn partneriaeth
sut mae paratoi manyleb ar gyfer gwasanaethau gwybodaeth, cyngor ac arweiniad
sut mae comisiynu gwasanaethau gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar yrfaoedd lle bo hynny'n briodol
y prif fframweithiau ansawdd ar gyfer gwaith datblygu gyrfa
sut mae monitro, adolygu a gwerthuso ymarfer datblygu gyrfa
sut mae strwythuro a llunio cynllun datblygiad a gwelliant
sut mae dadansoddi anghenion hyfforddi staff a chanfod y dulliau mwyaf effeithiol o ymdrin â hyfforddiant staff
sut mae arwain y broses o reoli newid ac arloesedd o fewn y sefydliad
egwyddorion moesegol a chodau ymarfer moesegol proffesiynol perthnasol, a chanlyniadau peidio â chadw atynt
sut mae annog unigolion i gymryd perchnogaeth ar y broses datblygu gyrfa
ffiniau a therfynau eich arbenigedd proffesiynol eich hun
ffiniau cyfrinachedd, pryd mae'n briodol datgelu gwybodaeth gyfrinachol i eraill a'r prosesau sy'n ofynnol
mesurau i ddiogelu pobl ifanc ac oedolion agored i niwed