Helpu unigolion i werthuso'u cynnydd a'u cyflawniad a chynllunio ar gyfer y dyfodol
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer ymarferwyr datblygu gyrfa.
Mae'r safon hon yn ymwneud â helpu unigolion i werthuso'u cynnydd a'u cyflawniad yn erbyn nodau ac amcanion datblygu, adnabod rhwystrau ac addasu eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Gall yr adolygiad ddigwydd trwy amrywiol ddulliau cyswllt, gan gynnwys wyneb yn wyneb, e-bost, sgwrsio ar y we, ffôn, testun a chyfryngau cymdeithasol. Dylai'r broses alluogi unigolion i ddatblygu'r sgiliau i adolygu eu cynnydd eu hunain a rhoi eu hamcanion datblygu ar waith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
darparu cyfleoedd i unigolion dderbyn adborth ar eu cynnydd
helpu unigolion i gymhwyso'r sgiliau rheoli gyrfa y maent wedi'u datblygu ac adnabod y rhai y mae'n dal yn ofynnol iddynt eu datblygu
galluogi unigolion i adolygu effeithiolrwydd y dulliau y maent yn eu defnyddio i gynllunio ar gyfer y dyfodol
annog unigolion i adnabod unrhyw rwystrau i gynnydd a chyflawniad
symbylu unigolion i oresgyn rhwystrau i gynnydd a chyflawniad
galluogi unigolion i adolygu perthnasedd parhaus nodau ac amcanion datblygu
galluogi unigolion i ddiweddaru nodau, amcanion datblygu a chynllun gweithredu diwygiedig mewn fformatau priodol
gwerthuso effeithiolrwydd gwaith gydag unigolion, sut cyflawnwyd eu canlyniadau, a chynllunio gwelliannau yn ôl y galw
gweithredu mewn ffyrdd sy'n glynu at yr ymarfer moesegol sy'n ofynnol o fewn eich sefydliad neu eich proffesiwn
herio unrhyw ragfarn, defnydd o stereoteipiau, camwahaniaethu ac ymddygiad anfoesegol neu ormesol
annog ymreolaeth unigolion oddi mewn i'r broses datblygu gyrfa
hyrwyddo cynhwysedd, amrywiaeth a chyfle cyfartal
cynnal cyfrinachedd a diogeledd gwybodaeth unigol sy'n bodloni'r gofynion cyfreithiol a'r polisïau sefydliadol perthnasol
arddangos dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol, gweithdrefnau lleol a'ch atebolrwydd eich hun o ran diogelu pobl ifanc ac oedolion agored i niwed
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
proses adolygu cynnydd, gwahanol fathau a dulliau o roi adborth
effaith gadarnhaol cydnabod cyflawniadau ar symbyliad
sut mae mesur llwyddiant yn erbyn nodau ac amcanion datblygu
sut mae canfod pa gamau sydd wedi'u cymryd a heb eu cymryd, a'r rhesymau am hynny
sut, pam a pha sylw y dylid ei roi i ddysgu a phrofiad blaenorol
y rhwystrau i ddatblygiad a chyflogaeth, sut mae eu hadnabod, a strategaethau i'w goresgyn
pam y gall fod angen i nodau ac amcanion newid
ffynonellau priodol o gefnogaeth arbenigol oddi mewn i'r sefydliad a'r tu allan, er mwyn ymateb i anghenion penodol unigolion
egwyddorion moesegol a chodau ymarfer moesegol proffesiynol perthnasol, a chanlyniadau peidio â chadw atynt
sut mae annog unigolion i gymryd perchnogaeth ar y broses datblygu gyrfa
ffiniau a therfynau eich arbenigedd proffesiynol eich hun
ffiniau cyfrinachedd, pryd mae'n briodol datgelu gwybodaeth gyfrinachol i eraill a'r prosesau sy'n ofynnol
mesurau i ddiogelu pobl ifanc ac oedolion agored i niwed