Darparu cefnogaeth barhaus i helpu unigolion i gyflawni eu nodau gyrfa a'u hamcanion datblygu
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer ymarferwyr datblygu gyrfa.
Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu cefnogaeth barhaus i helpu unigolion i gyflawni eu nodau a'u hamcanion datblygu. Gall y gefnogaeth gael ei darparu gennych chi, gan sefydliadau eraill a chan rwydwaith ehangach o bartïon â diddordeb.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
cytuno gydag unigolion ar y gefnogaeth barhaus a fydd yn ymateb orau i'w hanghenion, ac sy'n rhoi sylw i'w sefyllfa bersonol
helpu unigolion i ddiffinio'u gofynion o ran cefnogaeth barhaus
annog unigolion i fod yn annibynnol a pherchnogi eu datblygiad gyrfa
trafod a chytuno ar sylfaen, manteision a ffiniau eich rôl wrth gefnogi unigolion
cyfeirio unigolion at sefydliadau sy'n diwallu eu hanghenion ac y maent yn gymwys i dderbyn eu cefnogaeth, lle bo hynny'n briodol
galluogi unigolion i ganfod ac ymgysylltu â phartïon sydd â diddordeb wrth eu cefnogi yn eu datblygiad parhaus, gan gynnwys atgyfeiriadau lle bo hynny'n briodol
ymgysylltu ag unigolion a phartïon â diddordeb, lle bo hynny'n briodol, a sicrhau eu bod yn parhau wedi'u symbylu ac yn eglur ynghylch nodau ac amcanion datblygu unigolion
symbylu unigolion i oresgyn rhwystrau i gynnydd a chyflawniad
sicrhau cydbwysedd rhwng yr angen am rannu gwybodaeth er mwyn helpu dilyniant unigolion gyda gofynion diogelu a chyfrinachedd
cofnodi gwybodaeth berthnasol ynghylch cefnogaeth a datblygiad yn unol â gofynion y sefydliad
gwerthuso effaith cefnogaeth a chynllunio gwelliannau yn ôl y galw
gweithredu mewn ffyrdd sy'n glynu at yr ymarfer moesegol sy'n ofynnol o fewn eich sefydliad neu eich proffesiwn
herio unrhyw ragfarn, defnydd o stereoteipiau, camwahaniaethu ac ymddygiad anfoesegol neu ormesol
annog ymreolaeth unigolion oddi mewn i'r broses datblygu gyrfa
hyrwyddo cynhwysedd, amrywiaeth a chyfle cyfartal
cynnal cyfrinachedd a diogeledd gwybodaeth unigol sy'n bodloni'r gofynion cyfreithiol a'r polisïau sefydliadol perthnasol
arddangos dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol, gweithdrefnau lleol a'ch atebolrwydd eich hun o ran diogelu pobl ifanc ac oedolion agored i niwed
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
sut mae canfod anghenion cefnogaeth unigolion a chadw cydbwysedd rhyngddynt a chyfyngiadau a therfynau'r gwasanaeth
cylch gorchwyl, terfynau a ffiniau eich rôl a'ch sefydliad o ran darparu cefnogaeth barhaus
pa wasanaethau arbenigol sydd ar gael i gefnogi unigolion a'r prosesau y mae'n rhaid eu dilyn i gyfeirio unigolion atynt lle bo hynny'n briodol
y partïon â diddordeb a all gefnogi unigolion, y rôl benodol y gall pob un ohonynt ei chyflawni, a manteision ymwneud â hwy
sut mae annog unigolion a phartïon eraill â diddordeb a sicrhau cytundeb rhyngddynt ynghylch natur, dull ac amlder y gefnogaeth y byddant yn ei rhoi i unigolion
sut mae ymateb i farn yr holl bartïon dan sylw heb golli ffocws ar anghenion, nodau ac amcanion datblygu unigolion
yr ymyriadau a'r dulliau i helpu partïon â diddordeb i wella'u cefnogaeth i unigolion lle bo hynny'n briodol
y rhwystrau y gall partïon â diddordeb eu hwynebu wrth gefnogi unigolion, a ffyrdd o'u goresgyn
y rhwystrau i ddatblygiad a chyflogaeth, sut mae eu hadnabod, a strategaethau i'w goresgyn
sut mae rheoli ffiniau'r berthynas ac annog unigolion i fod yn annibynnol
yr ystod o dechnegau cyfathrebu a sut gellir eu defnyddio yn ystod cefnogaeth barhaus
dulliau o fesur yn effeithiol ganlyniadau cyflawniad unigolion o'i gymharu â'u nodau a'u hamcanion datblygu
egwyddorion moesegol a chodau ymarfer moesegol proffesiynol perthnasol, a chanlyniadau peidio â chadw atynt
sut mae annog unigolion i gymryd perchnogaeth ar y broses datblygu gyrfa
ffiniau a therfynau eich arbenigedd proffesiynol eich hun
ffiniau cyfrinachedd, pryd mae'n briodol datgelu gwybodaeth gyfrinachol i eraill a'r prosesau sy'n ofynnol
mesurau i ddiogelu pobl ifanc ac oedolion agored i niwed
* *