Galluogi unigolion i ddefnyddio a chymhwyso gwybodaeth wrth ddatblygu gyrfa

URN: CDICRD07
Sectorau Busnes (Suites): Datblygu Gyrfa
Datblygwyd gan: CDI
Cymeradwy ar: 03 Tach 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer ymarferwyr datblygu gyrfa.

Mae'r safon hon yn ymwneud â chael hyd i wybodaeth, ei gwerthuso, ei storio a'i chynnal, er mwyn ymateb i anghenion unigolion a'u galluogi i ganfod, cyrchu, dehongli a defnyddio'r wybodaeth wrth ddatblygu gyrfa.

Mae gwybodaeth am ddatblygu gyrfa yn cynnwys gwybodaeth a gasglwyd am y farchnad lafur (LMI) a gwybodaeth arall sy'n gysylltiedig â gyrfa neu ddysgu. Gallai ymwneud â chymwysterau, cyfleoedd dysgu a hyfforddi, interniaethau a lleoliadau, cyfleoedd cyflogaeth a dilyniant gyrfa, sefydliadau cefnogi neu gyfleoedd sy'n gallu cefnogi cyflogadwyedd unigolion.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. canfod ac asesu gofynion unigolion o ran gwybodaeth datblygu gyrfa

  2. cyfeirio unigolion at wybodaeth datblygu gyrfa sy'n diwallu eu hanghenion a, lle bo hynny'n berthnasol, ei chasglu ar eu rhan

  3. monitro gwybodaeth datblygu gyrfa i weld a yw hi'n gyfoes, yn gywir ac yn berthnasol i unigolion

  4. cael hyd i wybodaeth newydd am ddatblygu gyrfa sy'n diwallu anghenion unigolion a'r sefydliad

  5. sicrhau bod unigolion yn gallu cyrchu ac adnabod gwybodaeth ddilys, gyfredol ynghylch datblygu gyrfa sy'n berthnasol iddynt, gan gynnwys trwy gyfryngau cymdeithasol

  6. canfod pa gefnogaeth mae ei hangen ar unigolion i gael hyd i'r wybodaeth datblygu gyrfa sy'n ofynnol

  7. cynorthwyo unigolion i gael mynediad i wybodaeth datblygu gyrfa, ei dehongli a'i defnyddio'n briodol

  8. sicrhau bod gwybodaeth datblygu gyrfa'n cael ei storio mewn modd sy'n bodloni gofynion y sefydliad ac yn hygyrch i unigolion

  9. gweithredu mewn ffyrdd sy'n glynu at yr ymarfer moesegol sy'n ofynnol o fewn eich sefydliad neu eich proffesiwn

  10. herio unrhyw ragfarn, defnydd o stereoteipiau, camwahaniaethu ac ymddygiad anfoesegol neu ormesol

  11. annog ymreolaeth unigolion oddi mewn i'r broses datblygu gyrfa

  12. hyrwyddo cynhwysedd, amrywiaeth a chyfle cyfartal

  13. cynnal cyfrinachedd a diogeledd gwybodaeth unigol sy'n bodloni'r gofynion cyfreithiol a'r polisïau sefydliadol perthnasol

  14. arddangos dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol, gweithdrefnau lleol a'ch atebolrwydd eich hun o ran diogelu pobl ifanc ac oedolion agored i niwed


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

  2. gofynion unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth o ran gwybodaeth datblygu gyrfa

  3. y technegau a'r offer i gefnogi unigolion sy'n chwilio am wybodaeth datblygu gyrfa

  4. yr ystod o wybodaeth sydd ar gael am farchnadoedd llafur lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol

  5. ble mae cael hyd i wybodaeth datblygu gyrfa, a sut gall technoleg gynorthwyo gydag adalw gwybodaeth

  6. sut mae gwahaniaethu rhwng gwahanol fathau o wybodaeth datblygu gyrfa, gan gynnwys gwybodaeth farchnata

  7. gwerth a ffynonellau gwybodaeth datblygu gyrfa sydd â sicrwydd ansawdd

  8. sut mae cael mynediad i gyfryngau cymdeithasol a'u defnyddio'n briodol

  9. dulliau priodol o strwythuro a chyflwyno gwybodaeth datblygu gyrfa

  10. sut mae cefnogi unigolion i ddatblygu sgiliau dehongli gwybodaeth

  11. sut mae diffinio canlyniadau clir, mesuradwy ar gyfer gweithgareddau

  12. egwyddorion moesegol a chodau ymarfer moesegol proffesiynol perthnasol, a chanlyniadau peidio â chadw atynt

  13. sut mae annog unigolion i gymryd perchnogaeth ar y broses datblygu gyrfa

  14. ffiniau a therfynau eich arbenigedd proffesiynol eich hun

  15. ffiniau cyfrinachedd, pryd mae'n briodol datgelu gwybodaeth gyfrinachol i eraill a'r prosesau sy'n ofynnol

  16. mesurau i ddiogelu pobl ifanc ac oedolion agored i niwed

* *


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2016

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CDI

URN gwreiddiol

CDOCRD07

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Galwedigaethau Proffesiynol, Rheolwyr ac arweinwyr sydd â chyfrifoldeb am rhyngasiantaethol, gweithwyr llinell gymorth, Ymgynghorwyr Gyrfaoedd ac Arbenigwyr Cyfarwyddyd Galwedigaethol, Galwedigaethau Gwasanaethau Cwsmeriaid, Hyfforddwr Tywys Gweithredol, Rheolwyr Swyddogaethol, Staff Adnoddau Dynol, Mentor Dysgu, Rheolwyr personel, Hyffordiant a chysylltiadau diwydiannol, Gweithwyr Ymchwil Proffesiynol, Addysgwyr Proffesiynol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cyngor, dyhead, gyrfa, client-ganolog, datblygiad, addysg, cyflogaeth, cydraddoldeb, moesegol, nodau, grŵp, unigolyn, gwybodaeth, marchnad lafur, dysgu, symbyliad, anghenion, rhwydweithio, amcan, partneriaeth, cynllunio, ymarfer, atgyfeirio, myfyrio