Cynllunio a chyflawni datblygiad unigolion a grwpiau trwy ddysgu cysylltiedig a gyrfa
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer ymarferwyr datblygu gyrfa.
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio a chyflawni gweithgareddau dysgu cysylltiedig â gyrfa. Gallai'r gweithgareddau fod yn gysylltiedig â hunan-ymwybyddiaeth, codi dyheadau, ymwybyddiaeth o gyfleoedd, symbyliad, meithrin hyder, grymuso, entrepreneuriaeth, rhwydweithio, pontio a rheoli newid, gwneud penderfyniadau a'u hosgoi, cynllunio gweithredu, gwerthuso opsiynau, canfod a chyrchu cyfleoedd.
Gallai hyn ddigwydd ar sail un i un neu mewn grwpiau, ac wyneb yn wyneb neu o hirbell.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
cynllunio gweithgareddau dysgu cysylltiedig â gyrfa sy'n cyfateb orau i'r anghenion datblygu a nodwyd gan unigolion, oddi mewn i'r adnoddau sydd ar gael
strategaethau cyflwyno sy'n meithrin hyder ac yn hybu gallu unigolion i dderbyn cyfrifoldeb am eu datblygiad eu hunain
cytuno ar ganlyniadau clir, mesuradwy gydag unigolion
cyflwyno gweithgareddau dysgu cysylltiedig â gyrfa mewn ffyrdd sy'n galluogi unigolion i ymgysylltu'n llawn â'u datblygiad
defnyddio strategaethau priodol i reoli deinameg ac ymddygiad y grŵp, gan optimeiddio dysgu unigolion
teilwra dulliau cyflwyno a chynnwys er mwyn optimeiddio dilyniant unigolion
cefnogi unigolion i adolygu eu dysgu a rheoli eu dilyniant
defnyddio adborth i asesu effaith dysgu ac adolygu gweithgareddau dysgu cysylltiedig â gyrfa
cadw cofnodion o ddatblygiad unigolion sy'n cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol a gofynion y sefydliad
gweithredu mewn ffyrdd sy'n glynu at yr ymarfer moesegol sy'n ofynnol o fewn eich sefydliad neu eich proffesiwn
herio unrhyw ragfarn, defnydd o stereoteipiau, camwahaniaethu ac ymddygiad anfoesegol neu ormesol
annog ymreolaeth unigolion oddi mewn i'r broses datblygu gyrfa
hyrwyddo cynhwysedd, amrywiaeth a chyfle cyfartal
cynnal cyfrinachedd a diogeledd gwybodaeth unigol sy'n bodloni'r gofynion cyfreithiol a'r polisïau sefydliadol perthnasol
arddangos dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol, gweithdrefnau lleol a'ch atebolrwydd eich hun o ran diogelu pobl ifanc ac oedolion agored i niwed
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
yr ystod o gyfleoedd y gallai dysgu cysylltiedig â gyrfa a datblygiad personol eu cwmpasu
yr ystod o ddulliau datblygu sydd ar gael i unigolion
gwahanol strategaethau cyflwyno a sut maent yn effeithio ar symbyliad unigolion ac yn rhoi sylw i wahanol arddulliau dysgu
potensial technoleg i wella'r cyflwyno a ffyrdd o oresgyn unrhyw gyfyngiadau a ddaw yn ei sgîl
sut mae diffinio canlyniadau clir, mesuradwy ar gyfer gweithgareddau
yr adnoddau sy'n angenrheidiol ar gyfer y gwahanol fathau o weithgaredd
sut mae cyfyngu gymaint â phosibl ar effeithiau niweidiol lleoliad ac amgylchedd ar weithgareddau ac ymgysylltiad unigolion
y rhwystrau i ddatblygiad a chyflogaeth, sut mae eu hadnabod, a strategaethau i'w goresgyn
sut mae cynnwys unigolion wrth gynllunio, datblygu a chyflwyno gweithgareddau
sut mae gwerthuso gweithgareddau gan ddefnyddio adborth unigolion a'u mesur yn erbyn y canlyniadau
egwyddorion moesegol a chodau ymarfer moesegol proffesiynol perthnasol, a chanlyniadau peidio â chadw atynt
sut mae annog unigolion i gymryd perchnogaeth ar y broses datblygu gyrfa
ffiniau a therfynau eich arbenigedd proffesiynol eich hun
ffiniau cyfrinachedd, pryd mae'n briodol datgelu gwybodaeth gyfrinachol i eraill a'r prosesau sy'n ofynnol
mesurau i ddiogelu pobl ifanc ac oedolion agored i niwed