Galluogi unigolion i bennu nodau ac amcanion datblygu gyrfa priodol
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer ymarferwyr datblygu gyrfa.
Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithio gydag unigolion i bennu nodau, amcanion a chynlluniau gweithredu priodol, ar sail anghenion o ran gwybodaeth, sgiliau, gyrfa, dysgu a chefnogi.
Gellid cysylltu'r amcanion datblygu â hunan-ymwybyddiaeth, codi dyheadau, ymwybyddiaeth o gyfleoedd, symbyliad, meithrin hyder, grymuso, entrepreneuriaeth, rhwydweithio, pontio a rheoli newid, gwneud penderfyniadau a'u hosgoi, cynllunio gweithredu, gwerthuso opsiynau a chanfod a chyrchu cyfleoedd.
Gallai hyn ddigwydd ar sail un i un neu mewn grwpiau, ac wyneb yn wyneb neu o hirbell.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
trafod eu hanghenion a'u dyheadau gydag unigolion a chytuno arnynt
cefnogi unigolion i bennu nodau ac amcanion datblygu gyrfa sy'n briodol ac yn gyflawnadwy, er mwyn ymateb i'w hanghenion a'u dyheadau
cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n ymgysylltu ag unigolion ac yn cynnal eu symbyliad
rhoi digon o gyfle i unigolion gyfathrebu, myfyrio a gwneud eu penderfyniadau eu hunain
defnyddio ymyriadau a dulliau dysgu a datblygu sy'n helpu unigolion i ddatblygu eu sgiliau rheoli gyrfa
cefnogi unigolion i fyfyrio ar eu sgiliau gwneud penderfyniadau a'u gwella
galluogi unigolion i ganfod a dethol llwybrau gweithredu a fydd yn eu helpu i wneud cynnydd tuag at eu nodau a'u hamcanion datblygu gyrfa
symbylu unigolion i oresgyn rhwystrau i gynnydd a chyflawniad
helpu unigolion i gofnodi nodau, amcanion datblygu gyrfa a chynlluniau gweithredu mewn fformatau priodol
cofnodi canlyniadau yn unol â gofynion y sefydliad
galluogi unigolion i adolygu cynnydd a diwygio cynlluniau
gweithredu mewn ffyrdd sy'n glynu at yr ymarfer moesegol sy'n ofynnol o fewn eich sefydliad neu eich proffesiwn
herio unrhyw ragfarn, defnydd o stereoteipiau, camwahaniaethu ac ymddygiad anfoesegol neu ormesol
annog ymreolaeth unigolion oddi mewn i'r broses datblygu gyrfa
hyrwyddo cynhwysedd, amrywiaeth a chyfle cyfartal
cynnal cyfrinachedd a diogeledd gwybodaeth unigol sy'n bodloni'r gofynion cyfreithiol a'r polisïau sefydliadol perthnasol
arddangos dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol, gweithdrefnau lleol a'ch atebolrwydd eich hun o ran diogelu pobl ifanc ac oedolion agored i niwed
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
sut gall y dylanwadau mewnol ac allanol ar unigolion effeithio ar sut maent yn datblygu sgiliau rheoli gyrfa
technegau, theorïau a modelau ar gyfer archwilio anghenion ac opsiynau unigolion yn y tymor byr a'r tymor hir
yr ystod o gyfleoedd y gallai amcanion datblygu gyrfa eu cwmpasu
yr ystod o weithgareddau datblygu gyrfa sydd ar gael i unigolion
sut mae datblygu amcanion a chynlluniau penodol, mesuradwy, cyflawnadwy, priodol ac amser-gyfyngedig
cryfderau a gwendidau gwahanol ymyriadau, technegau a dulliau o gefnogi unigolion i ddatblygu sgiliau rheoli gyrfa effeithiol
sut mae sicrhau'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch datblygiadau mewn ymyriadau, technegau a dulliau, a sut mae eu defnyddio gydag unigolion
y rhwystrau i ddatblygiad a chyflogaeth, sut mae eu hadnabod, a strategaethau i'w goresgyn
sut mae cadw cydbwysedd rhwng anghenion unigolion a chyfyngiadau a therfynau'r gwasanaeth
sut mae defnyddio a chofnodi canlyniadau ymyriadau, technegau a dulliau a ddewiswyd
sut mae adolygu nodau ac amcanion datblygu gyrfa
egwyddorion moesegol a chodau ymarfer moesegol proffesiynol perthnasol, a chanlyniadau peidio â chadw atynt
sut mae annog unigolion i gymryd perchnogaeth ar y broses datblygu gyrfa
ffiniau a therfynau eich arbenigedd proffesiynol eich hun
ffiniau cyfrinachedd, pryd mae'n briodol datgelu gwybodaeth gyfrinachol i eraill a'r prosesau sy'n ofynnol
mesurau i ddiogelu pobl ifanc ac oedolion agored i niwed