Cefnogi unigolion i ganfod ac archwilio eu hanghenion a'u dyheadau datblygu gyrfa
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer ymarferwyr datblygu gyrfa.
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu sgiliau rheoli gyrfa unigolion, gan eu galluogi i ganfod a myfyrio ar y ffactorau sy'n eu symbylu, eu cryfderau, eu hanghenion, eu dyheadau, eu rhwydweithiau a'u nodau datblygu gyrfa.
Gallai hyn ddigwydd ar sail un i un neu mewn grwpiau, ac wyneb yn wyneb neu o hirbell.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
cefnogi unigolion i ganfod eu disgwyliadau, eu cryfderau, eu hanghenion a'u dyheadau
cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n ymgysylltu ag unigolion ac yn cynnal eu symbyliad
rhoi digon o gyfle i unigolion gyfathrebu, myfyrio a dod i'w casgliadau eu hunain
defnyddio ymyriadau a dulliau dysgu a datblygu sy'n helpu unigolion i ganfod a datblygu eu sgiliau rheoli gyrfa
symbylu unigolion i oresgyn rhwystrau i gynnydd a chyflawniad
cytuno gydag unigolion ar y camau gweithredu y mae eu hangen yng nghyswllt eu hanghenion a'u dyheadau
cofnodi canlyniadau yn unol â gofynion y sefydliad
gweithredu mewn ffyrdd sy'n glynu at yr ymarfer moesegol sy'n ofynnol o fewn eich sefydliad neu eich proffesiwn
herio unrhyw ragfarn, defnydd o stereoteipiau, camwahaniaethu ac ymddygiad anfoesegol neu ormesol
annog ymreolaeth unigolion oddi mewn i'r broses datblygu gyrfa
hyrwyddo cynhwysedd, amrywiaeth a chyfle cyfartal
cynnal cyfrinachedd a diogeledd gwybodaeth unigol sy'n bodloni'r gofynion cyfreithiol a'r polisïau sefydliadol perthnasol
arddangos dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol, gweithdrefnau lleol a'ch atebolrwydd eich hun o ran diogelu pobl ifanc ac oedolion agored i niwed
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
sut gall y dylanwadau mewnol ac allanol ar unigolion effeithio ar sut maent yn datblygu sgiliau rheoli gyrfa
dulliau o brofi, cwestiynu ac annog myfyrio, er mwyn asesu cryfderau, anghenion a dyheadau unigolion
egwyddorion cyfathrebu effeithiol
cryfderau a gwendidau gwahanol ymyriadau, technegau a dulliau o gefnogi unigolion i ddatblygu sgiliau rheoli gyrfa effeithiol
sut mae sicrhau'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch datblygiadau mewn ymyriadau, technegau a dulliau, a sut mae eu defnyddio gydag unigolion
y rhwystrau i ddatblygiad a chyflogaeth, sut mae eu hadnabod, a strategaethau i'w goresgyn
sut mae rheoli anghenion unigolion oddi mewn i derfynau'r gwasanaeth a gynigir
sut mae defnyddio a chofnodi canlyniadau ymyriadau, technegau a dulliau a ddewiswyd
egwyddorion moesegol a chodau ymarfer moesegol proffesiynol perthnasol, a chanlyniadau peidio â chadw atynt
sut mae annog unigolion i gymryd perchnogaeth ar y broses datblygu gyrfa
ffiniau a therfynau eich arbenigedd proffesiynol eich hun
ffiniau cyfrinachedd, pryd mae'n briodol datgelu gwybodaeth gyfrinachol i eraill a'r prosesau sy'n ofynnol
mesurau i ddiogelu pobl ifanc ac oedolion agored i niwed