Creu a meithrin perthynas gydag unigolion er mwyn sicrhau dull client-ganolog o ddatblygu gyrfa
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer ymarferwyr datblygu gyrfa.
Mae'r safon hon yn ymwneud â chreu a meithrin perthynas gydag unigolion er mwyn sicrhau eu bod yn ganolog i'w datblygiad eu hunain, ac yn ei sbarduno.
Gallai hyn ddigwydd ar sail un i un neu mewn grwpiau, ac wyneb yn wyneb neu o hirbell.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
dangos parch at anghenion a dewisiadau unigolion, a'ch bod yn gosod gwerth ar eu safbwynt
trafod a chytuno ar sail, manteision a ffiniau perthynas client-ganolog gydag unigolion
addasu eich ymatebion i unigolion i ddangos eich bod yn ymwybodol o'u cryfderau yn ogystal â'u hanghenion
myfyrio ar eich perthynas gydag unigolion ac addasu eich dull gweithredu i ymateb i anghenion newidiol unigolion
gofalu bod unrhyw gamddealltwriaeth, anghytundeb a rhwystrau i gynnydd yn derbyn sylw'n brydlon ac yn sensitif, mewn ffyrdd sy'n cynnal perthnasoedd cadarnhaol
datblygu perthnasoedd client-ganolog mewn ffyrdd sy'n ychwanegu at hunan-barch a hunan-hyder unigolion a'u gallu i gymryd perchnogaeth ar eu datblygiad eu hunain
cyfathrebu gydag unigolion mewn ffyrdd sy'n briodol iddynt
caniatáu i unigolion fynegi eu hunain yn eu hamser eu hunain, gan ddefnyddio eu geiriau neu eu dewis ddulliau cyfathrebu eu hunain
cydnabod unrhyw anawsterau cyfathrebu, ac addasu eich dull o gyfathrebu'n unol â hynny
gweithredu mewn ffyrdd sy'n glynu at yr ymarfer moesegol sy'n ofynnol o fewn eich sefydliad neu eich proffesiwn
herio unrhyw ragfarn, defnydd o stereoteipiau, camwahaniaethu ac ymddygiad anfoesegol neu ormesol
annog ymreolaeth unigolion oddi mewn i'r broses datblygu gyrfa
hyrwyddo cynhwysedd, amrywiaeth a chyfle cyfartal
cynnal cyfrinachedd a diogeledd gwybodaeth unigol sy'n bodloni'r gofynion cyfreithiol a'r polisïau sefydliadol perthnasol
arddangos dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol, gweithdrefnau lleol a'ch atebolrwydd eich hun o ran diogelu pobl ifanc ac oedolion agored i niwed
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
rôl a chwmpas y gwasanaeth yn eich ardal leol
manteision creu perthnasoedd client-ganolog wedi'u seilio ar barch a chydnabod cryfderau a nodweddion unigryw unigolion
sut mae sicrhau bod eich ymarfer yn cynnal anghenion yr unigolyn
dulliau o gynnal a meithrin hunan-barch a hyder unigolion a'u grymuso
pam mae'n bwysig pennu a chytuno ar ffiniau ar gyfer y berthynas gydag unigolion, a sut mae gwneud hynny'n effeithiol
pwysigrwydd rhannu gwybodaeth ac arbenigedd gydag eraill, lle bo hynny'n briodol, er lles unigolion
pwysigrwydd agweddau a dulliau gweithredu nad ydynt yn beirniadu/nad ydynt yn stereoteipio, a sut gallwch chi sicrhau bod y rhain yn darparu sylfaen ar gyfer eich ymarfer
pa gefnogaeth y gallwch ei cheisio pan fyddwch chi'n ymwneud â sefyllfaoedd o wrthdaro
egwyddorion cyfathrebu effeithiol, gan gynnwys sut mae addasu eich dull gweithredu i wahanol gyd-destunau
egwyddorion moesegol a chodau ymarfer moesegol proffesiynol perthnasol, a chanlyniadau peidio â chadw atynt
sut mae annog unigolion i gymryd perchnogaeth ar y broses datblygu gyrfa
ffiniau a therfynau eich arbenigedd proffesiynol eich hun
ffiniau cyfrinachedd, pryd mae'n briodol datgelu gwybodaeth gyfrinachol i eraill a'r prosesau sy'n ofynnol
mesurau i ddiogelu pobl ifanc ac oedolion agored i niwed