Myfyrio ar eich sgiliau a'ch ymarfer eich hunan wrth ddatblygu gyrfa, eu datblygu a'u cynnal

URN: CDICRD02
Sectorau Busnes (Suites): Datblygu Gyrfa
Datblygwyd gan: CDI
Cymeradwy ar: 03 Tach 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer ymarferwyr datblygu gyrfa. Mae'r safon hon yn ymwneud â myfyrio ar ymarfer cyfredol, gan nodi eich anghenion dysgu a datblygu eich hunan a chymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol parhaus er mwyn datblygu a chynnal eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch ymarfer eich hun wrth ddatblygu gyrfa.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adolygu a gwerthuso eich sgiliau, eich gwybodaeth a'ch ymarfer datblygu gyrfa eich hun yn erbyn gofynion perfformiad cyfredol

  2. adnabod tueddiadau a datblygiadau sy'n berthnasol i'ch sgiliau, eich gwybodaeth a'ch ymarfer datblygu gyrfa eich hun

  3. nodi a myfyrio'n feirniadol ar sut mae eich gwerthoedd, eich credoau a'ch agweddau eich hun yn dylanwadu ar eich ymarfer datblygu gyrfa

  4. ceisio adborth i fyfyrio ar eich perfformiad eich hun a'i werthuso

  5. sicrhau bod eich ymarfer datblygu gyrfa eich hun yn gynhwysol ac yn hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth

  6. ymdrin â chyfyngiadau mewnol ac allanol sy'n cael effaith ar eich ymarfer eich hun

  7. cynllunio a chyrchu cyfleoedd datblygu y mae eu hangen i sicrhau bod eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch ymarfer eich hun yn cael eu diweddaru'n gyson, ac yn golygu bod modd i'ch gwaith eich hun gael ei gyflawni'n fwy effeithiol

  8. defnyddio cofnodion o'ch gweithredoedd, eich cynlluniau datblygu a'ch cynnydd eich hun er mwyn cefnogi a hysbysu ymarfer adfyfyriol parhaus

  9. cymhwyso gwybodaeth a sgiliau newydd er mwyn atgyfnerthu dysgu a gwella'ch ymarfer eich hun

  10. adolygu effeithiolrwydd gwybodaeth a sgiliau sydd newydd eu caffael

  11. ymgysylltu'n gadarnhaol â chyfleoedd ar gyfer cefnogaeth a goruchwyliaeth

  12. rhannu ymarfer effeithiol gydag ymarferwyr eraill


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

  2. manteision mynd ati'n barhaus i adfyfyrio, gwerthuso a datblygu sgiliau, gwybodaeth, ymarfer, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ymarfer datblygu gyrfa

  3. nodau, gwerthoedd, polisïau, gweithdrefnau, rolau a dulliau gweithio eich sefydliad eich hun, lle bo hynny'n berthnasol

  4. cwmpas a chyfyngiadau'r gofynion a'r cyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â'ch rôl eich hun

  5. nodau'r sefydliad, y tîm a'ch nodau proffesiynol eich hun

  6. gofynion perfformiad cyfredol sy'n berthnasol i'ch ymarfer eich hun

  7. effaith gwerthoedd, credoau ac agweddau a seiliwyd ar ymarfer adfyfyriol a dysgu a datblygu

  8. dulliau o werthuso ac adolygu eich sgiliau, eich gwybodaeth a'ch ymarfer eich hun

  9. sut mae darparu adborth a gweithredu yn ei sgîl

  10. ffyrdd o werthuso effeithiolrwydd adnoddau dysgu a darpariaeth ddysgu a ddefnyddiwyd gennych

  11. manteision rhannu eich gwaith dysgu a datblygu eich hun


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2016

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CDI

URN gwreiddiol

CDICRD02

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Galwedigaethau Proffesiynol, Rheolwyr ac arweinwyr sydd â chyfrifoldeb am rhyngasiantaethol, gweithwyr llinell gymorth, Ymgynghorwyr Gyrfaoedd ac Arbenigwyr Cyfarwyddyd Galwedigaethol, Galwedigaethau Gwasanaethau Cwsmeriaid, Hyfforddwr Tywys Gweithredol, Rheolwyr Swyddogaethol, Staff Adnoddau Dynol, Mentor Dysgu, Rheolwyr personel, Hyffordiant a chysylltiadau diwydiannol, Gweithwyr Ymchwil Proffesiynol, Addysgwyr Proffesiynol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cyngor, dyhead, gyrfa, client-ganolog, datblygiad, addysg, cyflogaeth, cydraddoldeb, moesegol, nodau, grŵp, unigolyn, gwybodaeth, marchnad lafur, dysgu, symbyliad, anghenion, rhwydweithio, amcan, partneriaeth, cynllunio, ymarfer, atgyfeirio, myfyrio