Datblygu a chymhwyso dealltwriaeth o theori ac ymarfer effeithiol wrth ddatblygu gyrfa
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer ymarferwyr datblygu gyrfa.
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu eich sylfaen o wybodaeth am theorïau, cysyniadau, technegau, modelau ymarfer effeithiol a gwybodaeth gyd-destunol – a'u defnyddio i wella eich rôl a'ch ymarfer eich hun.
Gallai'r pynciau y byddwch yn datblygu ac yn cymhwyso dealltwriaeth ohonynt gynnwys hunan-ymwybyddiaeth, codi dyheadau, ymwybyddiaeth o gyfleoedd, symbyliad, meithrin hyder, grymuso, rhwydweithio, pontio a rheoli newid, gwneud penderfyniadau a'u hosgoi, cynllunio gweithredu, gwerthuso opsiynau a chanfod a chyrchu cyfleoedd. Gallant hefyd fod yn gysylltiedig ag ymarfer datblygu gyrfa, ymddygiad galwedigaethol neu reoli gyrfa.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
datblygu dealltwriaeth o theorïau, cysyniadau, modelau a thechnegau sy'n berthnasol i'ch rôl a'ch maes arbenigedd eich hun
cymhwyso dealltwriaeth o theori, cysyniadau ac arfer effeithiol wrth ddatblygu gyrfa i'ch ymarfer eich hun
teilwra ac addasu modelau a thechnegau i'ch rôl eich hun a'ch ymarfer datblygu gyrfa
tynnu ar adnoddau gwybodaeth gyd-destunol, gan gynnwys gwybodaeth berthnasol a gasglwyd am y farchnad lafur, er mwyn hysbysu ymarfer datblygu gyrfa
diweddaru eich sylfaen eich hun o wybodaeth a'ch ymarfer yn gyson
adolygu eich ymarfer eich hun yn barhaus, ar sail datblygiadau ym maes theori, cysyniadau, modelau, technegau a dulliau o ymdrin ag ymarfer effeithiol
rhannu ymarfer effeithiol gydag ymarferwyr eraill
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
yr ystod o bynciau y mae angen i chi eu hystyried wrth ddatblygu a chymhwyso theori ac ymarfer effeithiol yn eich rôl
ffynonellau theorïau, cysyniadau, modelau a thechnegau perthnasol, a sut mae cael mynediad iddynt
ffynonellau gwybodaeth gyd-destunol, gan gynnwys gwybodaeth berthnasol a gasglwyd ynghylch y farchnad lafur leol, ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol, a sut mae cael mynediad iddi
ffyrdd o werthuso theorïau, cysyniadau, modelau, technegau a gwybodaeth gyd-destunol o ran eu defnyddioldeb a'u cymhwysedd
cyfraniad ymarfer seiliedig ar dystiolaeth i ddatblygiad theorïau, cysyniadau, modelau a thechnegau
pwrpas a chymhwysiad gwaith ymchwil, adfyfyrio, hunan-werthuso ac adolygiad cymheiriaid wrth ddatblygu eich ymarfer eich hunan
yr unigolion, y grwpiau a'r rhwydweithiau y gallwch weithio gyda hwy i wella eich dealltwriaeth eich hun ac eraill o theori ac ymarfer, a sut mae meithrin perthnasoedd â hwy