Darparu cefnogaeth i’r gwaith o ddethol ymgeiswyr ar gyfer eu recriwtio neu ddyrchafu mewn lleoliad diwylliannol
Trosolwg
Mae’r Safon hwn yn ymwneud â chyfrannu at y gwaith o ddethol ymgeiswyr ar gyfer eu recriwtio neu ddyrchafu mewn lleoliad diwylliannol. Mae’r safon hwn yn gofyn i chi weithredu o fewn gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol. Byddwch chi’n gwneud argymhellion ar gyfer penodiadau’n seiliedig ar gymariaethau rhwng gwybodaeth a gafwyd gan ymgeiswyr a’r meini prawf dynodedig ar gyfer y swydd.
Mae’r Safon hwn ar gyfer unrhyw un sy’n ymwneud â dethol ymgeiswyr ar gyfer eu recriwtio neu ddyrchafu mewn sefydliad diwylliannol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 Gwneud awgrymiadau ar gyfer dethol ymgeiswyr sy'n cydymffurfio â gofynion cydraddoldeb, cyfreithiol a sefydliadol
2 Gwneud awgrymiadau ar gyfer dethol ymgeiswyr yn seiliedig ar gymharu gwybodaeth a gafwyd a'r meini prawf dethol sy'n berthnasol i'r swydd
3 Cael gwybodaeth o weithdrefnau dethol sy'n berthnasol i feini prawf a nodwyd
4 Cyfathrebu eich awgrymiadau am eich detholiad i bobl ag awdurdod yn unig
5 Cwblhau cofnodion mewn dull clir a chywir ac yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
6 Trin pob cyfathrebiad ag ymgeiswyr yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 Nodweddion allweddol deddfwriaeth sy’n berthnasol i ddethol a dyrchafu
2 Sut i gael gwybodaeth gan ymgeiswyr drwy gyfrwng cyfweliadau
3 Sut i werthuso gwybodaeth o CVau, llythyron, geirdaon, manylebau swydd, cyfweliadau a phrofion gallu/samplau gwaith o’u cymharu â meini prawf
4 Gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cadw cofnodion digwyddiadau a deilliannau a pham fod hyn yn bwysig
5 Dulliau a thechnegau cyfathrebu
6 Y meini prawf dethol sy’n berthnasol i swydd benodol
7 Gweithdrefnau dethol y sefydliad