Sicrhau bod cerbydau’n cael eu llwytho a’u dadlwytho’n ddiogel ac yn effeithiol
URN: CCSTTL35
Sectorau Busnes (Suites): Theatr Dechnegol a Chynyrchiadau Byw - Llwyfan,Sain,Goleuo ac Elfennau Gweledol
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
01 Maw 2018
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chynllunio a chyflawni’r gwaith o lwytho a dadlwytho cerbydau. Gallai llwythi gynnwys offer, deunyddiau neu eitemau eraill. Mae’n ymwneud â dilyn y gofynion o ran codi a chario a gofynion iechyd a diogelwch eraill, sicrhau bod llwythi wedi cael eu clymu’n dynn a dilyn gweithdrefnau a gytunwyd wrth weithio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i gadarnhau bod cerbydau a llwythi’n cydweddu cyn llwytho
2. cadarnhau â phobl briodol bod cerbydau yn barod i'w llwytho a’u dadlwytho
3. sicrhau bod yr ardal lwytho a dadlwytho yn addas ac yn ddiogel, yn unol â gofynion iechyd a diogelwch
4. defnyddio Cyfarpar Diogelu Personol sy’n briodol ar gyfer gweithgareddau llwytho a dadlwytho
5. cyfathrebu ag eraill yn unol â gweithdrefnau'r gweithle wrth lwytho a dadlwytho
6. dilyn cyfarwyddiadau gan bobl benodedig ynghylch y gofynion o ran llwytho, dadlwytho a thaenu llwyth
7. cymryd camau i ymdrin â phroblemau gyda llwytho a dadlwytho yn unol â gweithdrefnau a gytunwyd
8. sicrhau bod cerbydau’n cael eu llwytho mewn ffordd sy'n briodol ar gyfer yr eitemau sy'n cael eu llwytho
9. defnyddio dyfeisiau cymorth a thechnegau codi a chario cymeradwy pan fo angen
10. sicrhau bod dulliau codi a chario, pacio a diogelu yn briodol i lwythi
11. defnyddio cyfarpar a dyfeisiau priodol i atal llwythi rhag symud
12. defnyddio dyfeisiau a chyfarpar priodol i glymu defnyddiau rhydd, offer clymu ac offer ategol
13. dilyn gofynion iechyd a diogelwch statudol perthnasol wrth weithio
14. dilyn arferion a gweithdrefnau cymeradwy yng nghyd-destun y gwaith a'r gweithle
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. pam y gallai'r cerbyd a ddarparwyd fod yn anaddas ar gyfer y llwyth
2. y Cyfarpar Diogelu Personol priodol
3. pam ei bod yn bwysig cyfathrebu’n effeithiol â phobl eraill
4. ffynonellau gwybodaeth am y gofynion o ran llwytho, dadlwytho a thaenu llwyth
5. sut mae paratoi cerbydau ar gyfer llwytho a dadlwytho
6. pobl sydd wedi cael eu penodi i roi cyfarwyddiadau ar daenu llwythi
7. dulliau ar gyfer codi a chario a thaenu gwahanol fathau o lwythi
8. pryd i aildrefnu llwythi a sut mae gwneud hynny
9. sut mae sicrhau bod llwythi’n ddiogel ac yn sefydlog fel nad oes modd iddynt symud neu ddod yn rhydd wrth gael eu cludo
10. y mathau o broblemau sy'n gallu codi os nad yw defnyddiau rhydd, offer clymu ac offer ategol wedi cael eu clymu’n ddiogel
11. gofynion iechyd a diogelwch statudol perthnasol ar gyfer llwytho a dadlwytho cerbydau
12. arferion a gweithdrefnau cymeradwy yng nghyd-destun y gwaith a'r gweithle
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Creative & Cultural Skills
URN gwreiddiol
CCSTP72
Galwedigaethau Perthnasol
Crefftau, Galwedigaethau Artistig a Llenyddol, Celfyddydau Perfformio, y celfyddydau creadigol a dylunio
Cod SOC
8126
Geiriau Allweddol
theatr dechnegol; perfformiad byw; llwyfan; criw; technegydd teithiol (roadie); cerbydau; iechyd a diogelwch; digwyddiadau byw; arddangosfeydd