Defnyddio offer a chyfarpar ar gyfer adeiladu neu gynnal a chadw
URN: CCSTP21
Sectorau Busnes (Suites): Digwyddiadau Byw,Theatr Dechnegol a Pherfformio Byw (Craidd)
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar:
01 Ebr 2011
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â defnyddio offer neu gyfarpar ar gyfer adeiladu neu gynnal a chadw. Bydd angen ichi ddewis yr offer neu’r cyfarpar llaw a/neu bŵer priodol ar gyfer y dasg, eu defnyddio nhw mewn dull diogel a phriodol a chyflawni gwaith cynnal a chadw arferol sylfaenol yn ôl yr angen.
Fe ymddangosodd y safon hon yn NOS Theatr Dechnegol V2 fel MTP1.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dehongli’r wybodaeth a ddarperir sy’n ymwneud â’r gwaith a defnyddio’r offer a’r cyfarpar er mwyn cadarnhau ei berthnasedd.
- defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn ddiogel mewn ffyrdd sy’n bodloni’r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a’r dogfennau statws cyfreithlon arbennig
- y canllaw a gweithdrefnau swyddogol y sefydliad er mwyn cynnal arferion gweithio diogel.
- osgoi peryglon drwy gydymffurfio â’r wybodaeth diogelwch a ddarperir, gan gynnwys defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) i gyflawni’r gweithgaredd yn unol â’r ddeddfwriaeth, y Codau Ymarfer Cymeradwy a/neu ofynion y sefydliad.
- ceisio am adnoddau megis ffynhonnell tanwydd / pŵer, ireidiau a nwyddau traul i gynnal offer pŵer a/neu weithrediadau offer i gyflawni’r rhaglen waith
- diogelu’r gwaith a’r ardal o’i gwmpas rhag difrod mewn ffyrdd sy’n bodloni gweithdrefnau’r sefydliad.
- cael gwared ar wastraff yn unol â’r ddeddfwriaeth
- cynnal man gweithio glân.
- paratoi’r offer a/neu’r cyfarpar yn unol â’r arferion gweithio diogel.
- cyflawni archwiliadau paratoi cyn defnyddio ar unedau pŵer, yr offer a/neu’r cyfarpar ategol yn unol â’r gweithdrefnau neu’r cyfarwyddiadau gweithio a ddarperir.
- defnyddio unedau pŵer, yr offer a/neu’r cyfarpar ategol yn unol â’r arferion gweithio diogel i gyflawni’r deilliant gwaith.
- dychwelyd yr offer a’r cyfarpar i gyflwr gweithredol diogel unwaith ichi gwblhau’r gwaith.
- dadosod unedau pŵer, yr offer a’r cyfarpar ategol.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y wybodaeth weithredu a’r ddeddfwriaeth sy’n briodol i’r offer a/neu’r cyfarpar.
- gweithdrefnau’r sefydliad a ddatblygwyd i adrodd am ac unioni gwybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, a sut cân nhw eu rhoi ar waith.
- y mathau o wybodaeth gan gynnwys lluniau, manylebau, asesiadau risg, datganiadau dulliau, deddfwriaeth, Codau Ymarfer, gwybodaeth gwneuthurwyr a chyfarwyddiadau gweithredu, eu ffynonellau a sut gân nhw eu dehongli.
- gweithdrefnau’r sefydliad ynghylch datrys problemau gyda’r wybodaeth a pham ei bod hi’n bwysig cydymffurfio gyda nhw.
- y problemau a allai godi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio, eich awdurdod chi i’w unioni a gweithdrefnau adrodd y sefydliad.
- y lefel o ddealltwriaeth y mae’n rhaid i weithredwyr feddu arni ar gyfer deddfwriaeth berthnasol, gyfredol a’r canllawiau swyddogol a sut caiff ei roi ar waith.
- sut gallai eich cyfrifoldebau chi ynghylch y ddeddfwriaeth gyfredol newid wrth weithio yn y gweithle, islaw lefel y ddaear, o uchder, gydag offer a chyfarpar, gyda deunyddiau a sylweddau, gyda symud/storio deunyddiau a drwy drin a thrafod pwysau a chodi mecanyddol.
- sut i weithio’n ddiogel wrth ddefnyddio peiriannau, offer, cyfarpar a deunyddiau peryglus.
- y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy’n gyfrifol am lunio’r adroddiad.
- defnydd, math a diben pob math o gyfarpar diogelu personol (PPE) a pham a phryd y dylid eu defnyddio
- sut dylid ymateb i argyfyngau megis tanau, colledion dŵr ac anafiadau sy’n ymwneud â’ch gwaith a phwy ddylid ymateb iddyn nhw.
- y mathau o ddiffoddwyr tân (megis Dŵr, CO2, ewyn a phowdwr) a sut a phryd cân nhw eu defnyddio.
- gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar eich cyfer chi, y gweithle a’r cwmni o ran yr offer a/neu’r cyfarpar ac eiddo personol.
- y peryglon sy’n gysylltiedig â’r adnoddau a’r dulliau gweithio a sut mae modd eu goresgyn.
- sut i adnabod peryglon o ddulliau gweithio, gwybodaeth dechnegol y gwneuthurwr, rheoliadau statudol neu’r canllawiau swyddogol.
- y gofynion ar gyfer ystyriaethau o ran awyru.
- sut i gadw a chael gwared ar ddeunydd peryglus yn ddiogel.
- y manylion sydd angen eu cofnodi, pa gofnodion i’w cadw, a phwy sydd angen yr wybodaeth.
- mathau, nifer, ansawdd a maint deunyddiau, cyfansoddion ac offer safonol a/neu arbenigol, gan gynnwys ffynonellau pŵer, tanwydd, nwyddau traul, ac ireidiau, sydd eu hangen arnoch i gyflawni’ch gwaith
- gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer archebu nwyddau traul ac adnoddau eraill, pam eu bod nhw wedi’u datblygu a sut i’w defnyddio.
- sut i amddiffyn gwaith rhag difrod a diben diogelu.
- sut i baratoi, gosod a bod yn barod i weithio, cyn defnyddio’r offer a/neu’r cyfarpar.
- sut i gyflawni gwiriadau ymlaen llaw yn unol â gwybodaeth / gweithdrefnau’r gwneuthurwyr a’r cyflenwyr cyn defnyddio’r offer a/neu’r cyfarpar.
- sut i weithredu, defnyddio a rheoli, monitro a chynnal a chadw offer a/neu gyfarpar ac adrodd am broblemau.
- sut i gau, diogelu, dadosod, cludo a/neu storio offer pŵer, ategolion, atodiadau’r offer a/neu’r cyfarpar ar ôl ichi eu defnyddio.
- y cyfrifoldebau amgylcheddol, y gweithdrefnau sefydliadol, gwybodaeth y gwneuthurwr, y rheoliadau statudol a’r canllawiau swyddogol sy’n ymwneud â chael gwared ar wastraff.
- sut i weithredu’n effeithiol a chyfathrebu fel aelod o dîm
- anghenion y bobl eraill sy’n gysylltiedig â defnyddio unedau, yr offer / neu’r cyfarpar pŵer.
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Ebr 2015
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Creative and Cultural Skills
URN gwreiddiol
CCSTP21
Galwedigaethau Perthnasol
Galwedigaethau Artistig a Llenyddol, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Y Celfyddydau Perfformio, Galwedigaethau Adeiladu Elfennol
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Offer; cynnal a chadw; adeiladu; offer llaw; offer pŵer; Digwyddiadau Byw; Arddangosfeydd;