Cysylltu systemau gosod gwifrau ac offer ar gyfer perfformiad byw
URN: CCSSL13
Sectorau Busnes (Suites): Digwyddiadau Byw,Theatr Dechnegol a Pherfformio Byw (Sain a Goleuo),Digwyddiadau Byw a Hyrwyddo
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar:
31 Maw 2011
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gweithredu’r gweithdrefnau priodol ar gyfer cysylltu systemau gosod gwifrau, llociau gosod gwifrau ac offer sy’n briodol i’r system drydanol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Rhaid i chi allu:
- cyflawni system waith diogel gan nodi unrhyw beryglon rhagweladwy sy’n ymwneud â chysylltu systemau gosod gwifrau, llociau gosod gwifrau ac offer
- nodi’r modd o ynysu trydanol yn gywir cyn cysylltu
- cyflawni gweithdrefnau ynysu er mwyn sicrhau cysylltiad diogel yn unol â’r rheoliadau trydanol a’r gweithdrefnau cymeradwy
- gwneud cysylltiadau yn unol â manylebau a chydymffurfio gyda rheoliadau gosod gwifrau IEE fel y nodir yn y Safon Brydeinig ddiweddaraf ar gyfer gosodiadau trydanol.
- gwirio bod y cysylltiadau’n drydanol ac yn fecanyddol gadarn, a sicrhau eu bod nhw wedi’u nodi’n gywir ac yn eglur
- cymryd camau gweithredu diogel a doeth i adfer unrhyw ddiffygion sydd wedi’u nodi unwaith ichi gysylltu’r offer
- cwblhau unrhyw ddogfennau priodol ynghylch y gwaith mewn dull darllenadwy, manwl gywir ac amserol yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y prif fathau o wahanol gysylltiadau trydanol, eu manteision a’u cyfyngiadau
- y gweithdrefnau priodol ar gyfer ynysu diogel, o ran:
- asesiad o arfer gweithio diogel,
- adnabod cylchedau i’w hynysu’n gywir,
- dewis yr offer gwirio a phrofi priodol,
- defnyddio dulliau gwirio cywir, a
- dewis cywir o ddyfeisiadau ar gyfer diogelu’r deunydd ynysu.
- y goblygiadau o ran cyflawni gwaith ynysu ar gyfer partïon perthnasol
- y gweithdrefnau ar gyfer cysylltu cylchedau gwedd unigol neu aml- wedd
- sut i ddehongli diagramau a lluniau i hwyluso cysylltu systemau gosod gwifrau, llociau gosod gwifrau ac offer
- y gweithdrefnau er mwyn profi bod cysylltiad yn drydanol ac yn fecanyddol gadarn
- sut i bennu pa gysylltiadau mewn cylchedau a dargludyddion amddiffynnol, gan gynnwys cysylltiadau i derfynellau, sy’n addas at y diben maen nhw’n cael eu defnyddio ar ei gyfer
- y goblygiadau ynghylch y dewis o gysylltiadau o ran y dibenion parhaol neu dros dro
- gofynion uniadau a chysylltiadau i fod o gryfder a dargludiant priodol i ganiatáu i geryntau diffygiol dreiddio heibio ac i atal rhydu
- y gweithdrefnau cyfundrefnol ar gyfer cwblhau’r dogfennau priodol
- pwysigrwydd defnyddio cyfarpar diogelu personol ac offer priodol a diogel ar gyfer tasgau penodol
- y gweithdrefnau ar gyfer cyflawni asesiad o systemau gweithio diogel gan gynnwys trwyddedau i weithio
- y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am unrhyw sefyllfaoedd neu ddigwyddiadau a allai fod yn beryglus
- rheoliadau gosod gwifrau IEE fel y nodir yn y Safon Brydeinig ddiweddaraf ar gyfer Gosodiadau Trydanol sy’n berthnasol i fathau a defnyddiau systemau gosod gwifrau, llociau gosod gwifrau ac offer
- y Safon Brydeinig gyfredol ar gyfer Systemau Trydanol Dros Dro at Adloniant a Dibenion Cysylltiedig
- ble i ganfod mwy am egwyddorion theori trydanol sy’n caniatáu ar gyfer cysylltu systemau ac offer gosod gwifrau trydanol yn ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2016
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Creative and Cultural Skills
URN gwreiddiol
CCSSL13
Galwedigaethau Perthnasol
Galwedigaethau Artistig a Llenyddol, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Y Celfyddydau Perfformio, Peirianneg, Crefftau Trydanol
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Theatr Dechnegol; Perfformio Byw; Digwyddiadau Byw; Arddangosfeydd; goleuo; gosod gwifrau; systemau gosod gwifrau; Digwyddiadau Byw; Arddangosfeydd;