Ychwanegu effeithiau analog a digidol i ddeunydd sain
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag ychwanegu effeithiau analog neu ddigidol i ddeunydd sain. Mae'n ymwneud â dynameg ynghyd ag effeithiau a gall gynnwys cywasgu, cyfyngu, gwahardd sain, oedi, datseinedd, oedi ar gyflymder gwahanol, graddoli, sbectrol, cywiro amser a thraw, graddiant, corws a phrosesu signalau digidol (DSP).
Mae'n ymwneud â phenderfynu pryd i ddefnyddio effeithiau, gosod caledwedd a meddalwedd, rheoli ac addasu proseswyr, gwirio ansawdd a chadw gwaith wedi'i gwblhau.
Mae'r safon hon ar gyfer peirianwyr a rhaglenwyr recordio sy'n ychwanegu effeithiau analog a digidol i ddeunydd sain.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwerthuso pryd bydd defnyddio effeithiau'n gwella allbynnau creadigol
- dewis proseswyr fydd yn cyflawni'r dynamig neu effaith ddymunol
- gosod a chysylltu caledwedd a meddalwedd yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
- addasu paramedrau o ran y dynameg neu'r unedau effeithiau er mwyn bodloni'r gofynion
- rheoli proseswyr i gyflawni'r deilliannau dymunol
- gweithredu proseswyr yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
asesu ansawdd effeithiau yn erbyn y gofynion ansawdd dymunol
- addasu gosodiadau proseswyr nes eich bod yn cyflawni'r deilliannau dymunol
- cadw deunydd wedi'i gwblhau yn unol â'r gweithdrefnau cyfundrefnol
- defnyddio cyfryngau storio priodol er mwyn cadw copi wrth gefn o ffeiliau a'u symud
- gweithio yn unol â'r gofynion iechyd a diogelwch, o ran gwrando'n ddiogel, bob amser
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- dynameg ac effeithiau cyffredin fel cywasgydd, gwaharddwr sain, cyfyngydd, oedi, datseinedd, corws, oedi ar gyflymder gwahanol, graddoli, sbectrol, cywiro amser a thraw a phrosesu signalau digidol (DSP)
- prif agweddau, defnyddiau a gwahaniaethau creadigol pob dynamig ac effaith
y derminoleg sy’n gysylltiedig â phob system dynamig ac effaith
- buddion defnyddio dynameg ac effeithiau yn ystod y broses recordio
- mathau o brosesau dynameg ac unedau effeithiau a'u paramedrau a rheolyddion
- sut i gysylltu, cyfeirio a chyweirio prosesu dynameg ac unedau effeithiau drwy gymysgu trawfyrddau a cheblau wedi'u cymeradwyo gan y diwydiant