Addasu deunydd sain yn defnyddio samplwyr a syntheseisyddion

URN: CCSMT8
Sectorau Busnes (Cyfresi): Recordio Sain a Thechnoleg Cerddoriaeth
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo: 2020

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud ag addasu deunydd sain gan ddefnyddio caledwedd neu feddalwedd samplo a syntheseisydd analog neu ddigidol. Caiff samplwyr eu defnyddio i gychwyn cerddoriaeth. Caiff syntheseisyddion eu defnyddio'n gyffredinol i un ai ailgynhyrchu a golygu sŵn offerynnau traddodiadol neu greu synnau neu effeithiau electronig amrywiol.

Mae'r safon hon yn ymwneud â dewis ac addasu syntheseisyddion, cychwyn samplau, cyfuno deunydd wedi'i syntheseiddio a'i samplo, monitro ansawdd yn erbyn y cyfarwyddyd a chadw gwaith.

Mae'r safon hon ar gyfer peirianwyr recordio a rhaglenwyr sy'n defnyddio samplwyr a syntheseisyddion i addasu deunydd sain.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adalw deunyddiau sydd wedi'u cadw a'u harchifo pan fo'u hangen i gwblhau'r gwaith
  2. defnyddio mathau priodol o synthesis ar gyfer nodweddion sain gofynnol
  3. addasu paramedrau syntheseisyddion i fodloni gofynion
  4. defnyddio samplwyr a syntheseisyddion yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr
  5. cyfuno deunyddiau wedi'u syntheseiddio a'u samplo i fodloni gofynion
  6. cychwyn samplau ar adegau priodol

monitro ansawdd sain wedi'i syntheseiddio yn erbyn y. gofynion

  1. addasu paramedrau rhaglennu a samplo samplwyr a syntheseisyddion i fodloni'r gofynion creadigol
  2. creu, cadw a llwytho systemau a rhaglenni samplo a syntheseiddio i fodloni'r gofynion
  3. cadw ac archifo holl ddeunydd sydd wedi'i greu yn unol â phrosesau cyfundrefnol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gwahaniaethau rhwng dilynianwyr sain a MIDI (Musical Instrument Digital Interface)
  2. gofynion ar gyfer gosod (MIDI) mewn dilynianwyr
  3. sut caiff systemau eu rhoi ar waith i integreiddio dilynianwyr, samplwyr a syntheseisyddion
  4. gweithrediad a pharamedrau synthesis adiol, tynnol, FM, AM, gronynnog a thonadwy
  5. y gwahanol ffyrdd o gychwyn samplau gan gynnwys defnyddio allweddellau a thrwy sgrîn pecyn dilyniannu
  6. sut i ddefnyddio pecynnau dilyniannu meddalwedd i gyfuno rhannau gwreiddiol, wedi'u syntheseiddio ac wedi'u samplo
  7. egwyddorion sylfaenol a nodweddion sain mathau cyffredin o synthesis
  8. y gwahaniaethau mewn sain, gwahanol ddefnyddiau, cyd-destunau a dulliau ar gyfer gwahanol fathau o synthesis
  9. gweithrediadau synthesis cyffredin a'u cyfyngiadau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative and Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSMT11

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianwyr Recordio, Cynhyrchwyr Recordio, Peirianwyr Cymysgu, Peirianwyr Cynorthwyol, Gweithredwyr Tapiau, Cyfansoddwyr, Ysgrifenwyr, Rhaglenwyr

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Addasu; Deunydd Sain Audio; Samplwr; Syntheseisydd; Caledwedd; Meddalwedd; Sain; Cerddoriaeth; Recordio Sain; Technoleg Cerddoriaeth