Recordio deunydd sain i fodloni gofynion creadigol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â recordio deunydd sain i fodloni gofynion creadigol. Mae'n debyg y bydd yn berthnasol i gerddoriaeth ond fe all fod yn berthnasol i ffynonellau sain eraill. Mae'n debyg y byddwch yn ymwneud â'r safon hon mewn stiwdio recordio, ystafell raglennu, gorsaf radio neu stiwdio cymysgu ond fe all fod yn berthnasol i leoliadau eraill. Mae'n debygol y bydd, ond nid ydyw o reidrwydd, yn ymdrin â recordiadau lle bydd angen sawl cynnig.
Mae'r safon yn ymwneud â gwirio gosodiad cyfarpar recordio, cyfathrebu gyda pherfformwyr, monitro recordiadau a gwneud addasiadau, llunio taflenni traciau a labelu a chadw ffeiliau.
Mae'r safon hon ar gyfer peirianwyr recordio, peirianwyr sain a rhaglenwyr sy'n recordio deunydd sain i fodloni gofynion creadigol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adalw rhaglenni ac adfer unrhyw gynnwys sydd wedi'i recordio eisoes ac sy'n ofynnol ar gyfer recordiadau
gwirio bod y cyfarpar recordio wedi'i osod ac yn gweithio fel y disgwylir iddo wneud
gwirio y caiff cyfarpar recordio ei addasu i gyd-fynd â'r amgylchedd y byddwch yn recordio ynddo
gofalu bod yr holl berfformwyr wedi derbyn cyfarwyddyd am yr hyn ddisgwylir ganddyn nhw
gofalu y caiff yr holl ffynonellau sain eu recordio
monitro'r recordiad a gwneud unrhyw addasiadau fyddai'n gwella'r ansawdd
gwirio bod lefelau signal y deunydd sain yn bodloni'r paramedrau
cydbwyso traciau arwahanol sydd wedi'u recordio er mwyn gwella eglurder yr holl lefelau chwarae
defnyddio peirianwaith, dewislenni a pharamedrau yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr
datrys unrhyw broblemau gyda'r cyfarpar, y gadwyn recordio, perfformwyr ac allbynnau, rydych yn gyfrifol amdanyn nhw, ar unwaith
cyfeirio unrhyw broblemau na allwch eu datrys i'r bobl briodol heb oedi
cyfathrebu gyda'r perfformwyr ynghylch cynnydd ar adegau priodol
cadw a throsglwyddo recordiadau yn eu cyflwr gwreiddiol heb eu diraddio, heb achosi problemau amseru nac ychwaith heb ddirywio'r ansawdd
cadw ac archifo recordiadau a ffeiliau wrth gefn yn unol â gweithdrefnau diogelwch data cyfundrefnol
llunio taflenni traciau eglur a manwl o'r perfformiadau sydd wedi'u recordio
labelu'r ffeiliau sydd wedi'u cwblhau yn unol â'r gweithdrefnau cyfundrefnol
cydymffurfio gydag egwyddorion iechyd a diogelwch o ran gwrando'n ddiogel bob amser
ailosod, diffodd a thacluso cyfarpar recordio pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adalw deunyddiau o'r archif ac adfer recordiadau wedi'u cadw ar ddyfais recordio aml-drac digidol neu analog
- sut i gysylltu a llwybro offerynnau i systemau recordio digidol neu analog drwy drawfyrddau recordio neu weithfannau sain digidol (DAWs)
- y gadwyn recordio a lefelau signal ar gyfer signalau sain
- gwybodaeth am ansawdd a gofynion creadigol
- defnydd cydbwyso lefelau ar ddeunydd sydd wedi'i recordio
- egwyddorion sylfaenol trawfyrddau recordio a sut i'w defnyddio
- gofynion perfformwyr i fedru clywed eu hunain a sut i gyflawni hyn
- gwahanol ofynion ac ymarfer wrth recordio cerddoriaeth a dialog
- sut i bennu pa mor brofiadol ydy'r perfformwyr dan sylw mewn stiwdio
- sut a phryd i gyfathrebu gyda pherfformwyr
- y gwahaniaethau o ran amodau ac ymarfer recordio rhwng darllediadau tu allan, sain fyw a recordio mewn stiwdio
- gofod acwstig a nodweddion lleoliad ynghyd â sut i'w rheoli
- pwysigrwydd cadw cynnwys sain gwreiddiol
- y gwahaniaethau rhwng recordio cynnwys byw a phan mae sawl cynnig
- ymarfer da o ran y broses recordio ar ddyfeisiau recordio digidol neu analog
- sut i ddefnyddio peirianwaith, dewislenni a pharamedrau perthnasol i fudo a throsglwyddo lleoliad sain, mewnforio lleoliad sain a chadw ffeiliau sain
- defnydd cywir o systemau labelu, enw'r rheolwyr a'r teitl a thraciau gwaith i'w golygu gan gynnwys SPARS
- sut i gadw cynnwys wedi'i recordio ynghyd â ffeiliau DAW yn eu cyflwr gwreiddiol gan ddefnyddio BWAV, WAV, AIFF, (ffurfiau ffeiliau) DVD, DVD RAM, Cadi HD digidol cludadwy, TÂP, DAT, CD a HD Allanol
- sut i archifo deunydd wedi'i recordio
- egwyddorion iechyd a diogelwch o ran gwrando'n ddiogel gan gynnwys trefniadau diogelu i atal colli clyw