Cyfansoddi deunydd sain gan ddefnyddio offerynnau meddalwedd a samplau

URN: CCSMT6
Sectorau Busnes (Suites): Recordio Sain a Thechnoleg Cerddoriaeth
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 2020

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chyfansoddi deunydd sain gan ddefnyddio offerynnau meddalwedd a samplau ar Weithfan Sain Ddigidol (GSDd). Gall y deunydd fod yn gerddoriaeth neu recordiadau eraill ac mae'n rhaid ei gyfansoddi fel ei fod yn bodloni gofynion y cyfarwyddyd.

Mae'n ymwneud ag adnabod pryd i ddefnyddio offerynnau meddalwedd a phryd i ddefnyddio samplau, defnyddio offerynnau meddalwedd i gyfansoddi deunydd, adnabod a defnyddio samplau, cymysgu recordiad, cysoni, golygu a chydbwyso deunydd a chadw copi o ffeiliau a'u symud.

Mae'r safon hon ar gyfer peirianwyr a rhaglenwyr recordio sy'n cyfansoddi deunydd gan ddefnyddio offerynnau meddalwedd a samplau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​cadarnhau bod y cyfarpar a'r meddalwedd wedi'u gosod, eu cyflunio ac yn gweithio fel y disgwylir iddyn nhw wneud
  2. adnabod agweddau o ddeunydd gallwch eu creu gan ddefnyddio offerynnau meddalwedd a phryd byddai defnyddio samplau yn gwella allbynnau
  3. defnyddio dewislenni, gweithrediadau a nodweddion meddalwedd yn unol â chyfarwyddiadau'r datblygwyr meddalwedd
  4. defnyddio offerynnau meddalwedd er mwyn cyfansoddi'r deunydd gofynnol
  5. adnabod samplau sy'n bodloni gofynion y cyfarwyddyd
  6. derbyn samplau gyda'r caniatâd hawlfraint cywir
  7. cymysgu a chysoni deunydd offerynnau meddalwedd a samplau er mwyn cynhyrchu allbwn cydlynol
  8. golygu deunydd er mwyn bodloni'r gofynion o ran amser ac ansawdd
  9. gwneud addasiadau er mwyn cynhyrchu'r ansawdd sain gofynnol
  10. cynhyrchu cymysgedd stereo cytbwys o'r deunydd sydd wedi'i gyfansoddi
  11. cyfansoddi deunydd sy'n cydymffurfio gyda phrotocolau perfformiad ac sy'n bodloni gofynion y cyfarwyddyd
  12. defnyddio cyfryngau storio priodol er mwyn cadw copi wrth gefn o ffeiliau a'u symud
  13. gweithio yn unol â'r gofynion iechyd a diogelwch, o ran gwrando'n ddiogel, bob amser

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i osod cyfarpar ac offerynnau meddalwedd fel clustffonau, systemau monitor, dilynianwyr MIDI a chysylltwyr sain
  2. cynwyseddau'r meddalwedd a chaledwedd y byddwch yn eu defnyddio
  3. sut mae modd i gyfarpar, offerynnau a thechnoleg wella'r gerddoriaeth rydych yn ei chreu a gwella'r deilliannau creadigol
  4. nodweddion a galluoedd unrhyw offerynnau neu leisiau a fydd yn perfformio'r gerddoriaeth
  5. arddulliau a ffurfiau a safonau cerddorol mewn perfformiad neu gyfansoddiad yn y genre dewisol
  6. sut i ddefnyddio technegau cyfansoddi perthnasol yn effeithiol
  7. sut i ddefnyddio elfennau priodol o drefniant cerddorol yn eich recordiad chi
  8. sut i ddefnyddio protocolau cyfansoddiad a pherfformiad priodol sy'n berthnasol i'r maes arbenigedd
  9. sut i adnabod cyfyngau, cordiau, graddfeydd a dilyniannau cordiau gaiff eu defnyddio'n gyffredin wrth ymwneud ag arddulliau penodol 
  10. sut i ddefnyddio offerynnau meddalwedd ar gyfer prosesau gofynnol fel cyfansoddi, recordio, ailchwarae, syntheseiddio, dilyniannu, cysoni a rheoli aml sianelau ar yr un pryd
  11. ffynonellau samplau a gweithdrefnau ar gyfer cydymffurfio gyda'r gofynion hawlfraint i'w defnyddio
  12. sut mae offerynnau meddalwedd a samplau'n cydweithio a goblygiadau ac ystyriaethau defnyddio'r naill a'r llall
  13. sut i ddefnyddio sgiliau gwrando beirniadol i adnabod addasiadau priodol
  14. cynnwys cyfarwyddyd y prosiect
  15. strwythurau ffeiliau cyfrifiadurol a systemau storio rhwydweithiau cyfrifiadurol
  16. y rhesymau dros bolisïau yn ymwneud â chopïau data wrth gefn
  17. sut i ddefnyddio cyfryngau storio i gadw data'n ddiogel
  18. egwyddorion iechyd a diogelwch o ran gwrando'n ddiogel gan gynnwys trefniadau diogelu i atal colli clyw

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative and Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSMT7

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianwyr Recordio, Cynhyrchwyr Recordio, Peirianwyr Cymysgu, Peirianwyr Cynorthwyol, Gweithredwyr Tapiau, Cyfansoddwyr, Ysgrifenwyr , Rhaglenwyr, Ail-gymysgwyr

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Cyfansoddi, Deunydd sain; Offerynnau meddalwedd; Ansawdd sain; Sain; Cerddoriaeth; Recordio sain; Technoleg Cerddoriaeth