Gosod a defnyddio meicroffonau

URN: CCSMT5
Sectorau Busnes (Suites): Recordio Sain a Thechnoleg Cerddoriaeth
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â gosod a defnyddio meicroffonau i recordio sain. Mae'n debygol o fod yn berthnasol i gerddoriaeth ond fe all fod yn berthnasol i gyd-destunau eraill hefyd.

Mae'r safon yn ymwneud â chysylltu a gosod meicroffonau,  gwahanu angenrheidiol, gwirio ansawdd sain cyn ac yn ystod defnyddio'r meicroffon, adnabod a datrys diffygion gyda'r cyfarpar neu ansawdd sain a safleoedd recordio ar gyfer defnyddio meicroffonau yn y dyfodol.

Mae'r safon hon ar gyfer peirianwyr recordio, peirianwyr sain a rhaglenwyr sy'n gosod a defnyddio meicroffonau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cysylltu meicroffonau ac ategolion yn unol â'r gofynion diogelwch
  2. pennu lleoliad a symudiadau priodol ar gyfer y meicroffonau ac ategolion yn ystod y broses gosod ac ymarfer

gosod y meicroffonau gan sicrhau bod lefelau a nodweddion y sain yn bodloni'r safonau gofynnol

  1. gofalu y caiff gwahanol rannau'r meicroffonau eu gwahanu fel sy'n ofynnol
  2. cyflawni cydbwysedd rhwng ymarferoldeb safleoedd gwaith a disgwyliadau ar gyfer ansawdd sain sydd fwyaf effeithiol
  3. cadarnhau gofynion prosesu signal a chynnal recordiadau prawf er mwyn sicrhau nad oes yna unrhyw ddiffygion sain amlwg
  4. gosod y meicroffonau a chyfarpar eraill mewn mannau na fydd yn effeithio ar neu'n beryglus i gyfranwyr neu gydweithwyr
  5. gwirio bod safleoedd terfynol y meicroffonau yn cyflawni'r recordiadau sain gorau posib o fewn cyfyngiadau'r lleoliad dan sylw
  6. defnyddio meicroffonau i fonitro ansawdd y sain drwy gydol yr amser y byddwch yn eu defnyddio
  7. datrys unrhyw broblemau, diffygion gyda chyfarpar a diffygion gyda'r sain sydd yn berthnasol i'ch maes arbenigedd chi 
  8. rhoi gwybod i'r bobl berthnasol am unrhyw broblemau gydag unrhyw wallau, diffygion, diffygion sain a sain gefndirol allanol na allwch eu datrys
  9. cofnodi safleoedd y meicroffonau gan ddefnyddio dulliau priodol ichi fedru eu defnyddio dro ar ôl tro
  10. ail-osod, diffodd a thacluso cyfarpar recordio pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau
  11. cydymffurfio gyda'r gofynion iechyd a diogelwch bob amser

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​gofynion iechyd a diogelwch gan gynnwys y rheiny sy'n ymwneud â gwrando'n ddiogel, trefniadau diogelu i atal colli clyw a gweithio gyda chyfarpar trydan
  2. nodweddion a defnyddiau'r mathau o feicroffonau byddwch yn eu defnyddio gan gynnwys arwyddion sain ac ansawdd sain 

  3. ategolion priodol a sut i'w defnyddio

  4. nodweddion y sain ofynnol, y ffynonellau sain, a pha newidiadau neu symudiadau mewn ffynonellau y dylech chi eu disgwyl

  5. y gofynion ar gyfer gwahanu meicroffonau pan fyddwch yn gosod cyfarpar ger ffynonellau sain gan gynnwys sut i osod meicroffonau ger set ddrymiau safonol

  6. effeithiau safleoedd meicroffonau a'r acwsteg ar y sain, gan gynnwys sut caiff 'lle da' offerynnau, lliw cyweiraidd ac adlewyrchiadau ystafell eu heffeithio gan safle a symudiadau'r meicroffonau

  7. sut i werthuso'r gwahaniaethau rhwng synau meicroffonau mewn gwahanol safleoedd

  8. y gwahaniaethau rhwng defnyddio meicroffonau ar gyfer darllediadau tu allan ac mewn stiwdio

  9. sut i osod meicroffonau er mwyn lleihau sain neu sŵn diangen

  10. y meini prawf gaiff ei ddefnyddio i werthuso sain

  11. sut i ddefnyddio meicroffonau i fonitro ansawdd sain

  12. pryd mae hi'n hanfodol i addasu disgwyliadau o ran ansawdd y sain a'r paramedrau i wneud hynny

  13. materion cydnawsedd rhwng mono, stereo, aml-sianel ac aml-drac yn y cyd-destun cyfredol

  14. dangosyddion gwallau, diffygion a methiannau a sut i'w rheoli a'u hatal 

  15. pryd mae hi'n briodol ichi roi gwybod i bobl eraill am wallau a diffygion a sut i wneud hynny


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative and Cultural Skills

URN gwreiddiol

SKSS11

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr Stiwdio, Peirianwyr Meistroli, Peirianwyr Recordio, Cynhyrchwyr Recordio, Peirianwyr Cymysgu, Peirianwyr Cynorthwyol, Peirianwyr Darllediadau tu allan / ôl gynhyrchu, Gweithredwyr Tapiau, Cyd- ysgrifenwyr, Rolau cefnogaeth dechnegol ar gyfer Recordio Sain a Thechnoleg Cerddoriaeth, Peirianwyr Sain Fyw , Rhaglenwyr, Peirianwyr Golygu, Rheolwyr Cyfleusterau, Rheolwyr Cynnal a chadw

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Meicroffon; Ansawdd sain; Deunydd sain; Darllediadau tu allan; Sain; Cerddoriaeth; Recordio Sain; Technoleg Cerddoriaeth