Paratoi cyfarpar a deunydd ar gyfer sesiynau recordio
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi cyfarpar a deunydd ar gyfer sesiynau recordio aml-drac. Mae'n bwysig gofalu bod y cyfarpar wedi'i osod a bod unrhyw ddeunydd wedi'i archifo eisoes ar gael er mwyn gwneud unrhyw addasiadau neu gyflawni unrhyw waith newydd arno. Wedi ichi gwblhau'r sesiynau recordio, bydd angen gofalu eich bod yn archifo'r deunydd recordio'n gywir a chofnodi manylion am y gosodiadau a chynlluniau ar gyfer unrhyw sesiynau recordio cysylltiedig yn y dyfodol.
Mae hyn yn cynnwys gwirio gosodiad cyfarpar, cynnal gwaith trwsio sylfaenol ac archebu cyfarpar ychwanegol, adfer deunydd wedi'i archifo, cyfarpar dyblygu a recordio, cynllun a gosodiad offerynnau, defnyddio cymysgeddau stereo gan ddefnyddio deunydd wedi'i archifo a throsglwyddo asedau a chyflawniadau i beirianwyr stiwdio eraill neu eu derbyn gan beirianwyr stiwdio eraill.
Mae'r safon hon ar gyfer peirianwyr recordio, peirianwyr golygu, peirianwyr meistroli, peirianwyr cymysgu a rhaglenwyr sy'n paratoi cyfarpar a deunyddiau ar gyfer sesiynau recordio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwirio bod cynllun a gosodiad yr offerynnau a'r cyfarpar yn cydymffurfio gyda manylion y sesiynau blaenorol perthnasol
adnabod diffygion gyda chyfarpar cyn eu defnyddio
trwsio eitemau diffygiol rydych yn arbenigo ynddyn nhw ac ymhen graddfeydd amser y sesiynau recordio
labelu ac amnewid eitemau diffygiol nad oes modd eu trwsio yn unol â'r gweithdrefnau
archebu nwyddau ychwanegol gofynnol yn unol â'r gweithdrefnau cyfundrefnol
cofnodi, adrodd am a rheoli diffygion yn unol â'r gweithdrefnau
cynnig manylion llawn am ddeunydd wedi'i archifo pan fo'n briodol ar gyfer sesiynau recordio
rheoli gwybodaeth wedi'i archifo yn unol â'r gweithdrefnau cyfundrefnol
cynhyrchu a monitro cymysgeddau stereo o sesiynau wedi'u hadalw ar adegau priodol
llunio cofnodion manwl am gyfryngau a chynnwys sesiynau recordio sydd angen ei archifo
cofnodi manylion cywir am gynllun a gosodiad cyfarpar ac offerynnau gan ddefnyddio technegau labelu wedi'u cymeradwyo gan y diwydiant
archifo gosodiadau perthnasol o ddesgiau a'r cyfarpar cysylltiedig yn ystod y broses cymysgu
cadw manylion am gynllun a gosodiad cyfarpar ac offerynnau lle mae modd i bobl eraill fanteisio arnyn nhw pan fo'u hangen
labelu a recordio cymysgeddau stereo o sesiynau wedi'u hadalw yn unol â'r gofynion cyfundrefnol
cyflwyno'r manylion llawn am asedau a chyflawniadau i beirianwyr stiwdio eraill neu eu derbyn gan beirianwyr stiwdio eraill wrth i'r sesiynau recordio ddatblygu
ail-osod a thacluso'r stiwdio wedi ichi gwblhau'r sesiynau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gwybodaeth yn ymwneud â sain y sesiynau recordio aml-drac
- sut i adnabod gwybodaeth cydamseru
- cofnodion cyflawn gyda dyddiad arnyn nhw o'r cyfryngau a'r cynnwys gafodd eu defnyddio yn y sesiynau recordio
- pwysigrwydd rhoi gwybod i aelodau'r tîm am unrhyw ddiffygion gyda'r cyfarpar
- pwysigrwydd gweithdrefnau cofnodi diffygion
- labelu eitemau diffygiol yn eglur
- gweithdrefnau ar gyfer archebu nwyddau ychwanegol
- yr wybodaeth angenrheidiol i adalw sesiynau recordio aml-drac
- sut i asesu gwybodaeth cydamseru er mwyn adalw sesiynau recordio aml-drac yn gyfan gwbl
- sut i greu gwahanol ffurfiau o gymysgeddau stereo gan ddefnyddio deunydd wedi'i archifo
- pwysigrwydd cofnodi a labelu cymysgeddau stereo, wedi'u cynhyrchu gyda deunydd wedi'i archifo, yn gywir
- dulliau ar gyfer cofnodi cynllun a gosodiad cyfarpar ac offerynnau gan gynnwys lluniau a diagramau
y rhesymau dros gofnodi cynllun a gosodiad cyfarpar ac offerynnau ac amgylchiadau a phryd mae’n briodol ichi wneud hynny
- sut i ddefnyddio systemau labelu AES/SPARS
- sut i gwblhau taflen draciau ar gyfer recordio sain aml-drac
- lleoliadau addas i archifo data adalw electronig a chyfeirnod o'r daflen draciau.
- gwybodaeth ofynnol i gyflwyno asedau a chyflawniadau i beirianwyr stiwdio eraill neu eu derbyn gan beirianwyr stiwdio eraill