Paratoi a gweithredu sain byw a thechnoleg perfformio

URN: CCSMT34
Sectorau Busnes (Suites): Digwyddiadau Byw,Technoleg Cerddoriaeth
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 01 Ebr 2012

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â’r gweithdrefnau a’r protocolau a ddefnyddir i gynhyrchu sain byw o safon, ni waeth faint o offer a ddefnyddir.
Bydd canlyniadau proffesiynol yn ddibynnol ar ddefnydd cywir ac adnabyddiaeth o offer sain safonol y diwydiant. Hyn i gyd tra bod ystyriaethau megis y safle gorau posibl ar gyfer yr uwch-seinydd a’r llinellau gweld yn hollbwysig. Mae ymwybyddiaeth o’r cynnyrch cyffredinol yn ogystal â dealltwriaeth eglur o rôl gefnogol y technegydd sain yn agweddau hanfodol.

Mae deall ac asesu anghenion perfformiad ynghyd â’r gofynion technegol angenrheidiol yn hanfodol ar gyfer technegwyr sain. Gallai hyn amrywio o eiriau llafar megis araith wleidyddol mewn cynhadledd, i ofynion sain, acwstig a thechnegol cyngerdd metel trwm. Bydd y safon hon yn fodd ichi ddangos sut i osod a defnyddio offer atgyfnerthu sain byw. Mae gweithio mewn amgylchedd byw yn gofyn am lefelau uchel o wyliadwriaeth a dealltwriaeth o iechyd a diogelwch yn sgil yr amgylchedd sy’n newid yn gyson ac yn aml ardaloedd gwaith sydd wedi’u goleuo’n wael mewn lleoliadau. Mae’r safon hon yn ymwneud â’r wybodaeth a’r rheolaeth a ddisgwylir gan beirianwyr sain Byw a pheirianwyr cymysgu a recordio Darlledu Allanol heddiw, gan ganolbwyntio’n benodol ar dimau cymorth a chynnal a chadw technegol sy’n rhan o gwmnïau Systemau Sain teithiol mwy.

Mae gofyn ichi gydymffurfio â’r gweithdrefnau iechyd a diogelwch, cyfathrebu gyda’ch tîm a dilyn yr amserlenni cynhyrchu sydd ar waith.
Bydd angen ichi wybod am y gweithdrefnau a’r mannau cyfarfod brys/gwacáu, y codau a’r gweithdrefnau sy’n benodol ar gyfer y lleoliad, y mannau cymorth cyntaf, ynghyd â’r offer a’r goleuadau amgylchedd-benodol.

Fe ddylech chi hefyd fod yn ymwybodol o’r gofynion cyfreithiol: rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH), rheoliadau Gweithrediadau Codi ac Offer Codi (LOLER), rheoliadau Darparu a Defnyddio Offer Gwaith  (PUWER), asesiadau risg, sŵn peryglus, iechyd amgylcheddol (h.y. glanweithdra, llygredd sŵn), codi, trydan, diogelwch torfeydd, cymorth cyntaf, diogelwch.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dadansoddi a gwerthuso nodweddion ac acwsteg lleoliadau byw
  2. rhannu gwybodaeth iechyd a diogelwch
  3. llunio asesiad risg ar gyfer ardaloedd perfformio
  4. dewis offer Systemau Sain priodol ar gyfer digwyddiadau
  5. cynllunio llif signal a safleoedd y Systemau Sain
  6. cynllunio amserlenni cynhyrchu gan roi mesurau iechyd a diogelwch priodol ar waith
  7. gweithio’n ddiogel ac yn gynhyrchiol fel rhan o dîm gan gydymffurfio gydag amserlen cynhyrchu sydd wedi’i gosod
  8. rigio a defnyddio offer ynghyd â chymysgu sain byw
  9. tynnu fideo o’r perfformiad
  10. dad-rigio a thacluso pob ardal
  11. cyflawni gwerthusiad ar ôl y cynhyrchiad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion o ran y System Sain a’r perfformiad ar gyfer digwyddiadau
  2. y gweithdrefnau a’r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol ar gyfer y digwyddiad
  3. y broses rigio a gweithredu o ran yr offer System Sain ar gyfer digwyddiadau byw
  4. rolau a chyfrifoldebau’r tîm cynhyrchu
  5. nodweddion acwstig y lleoliadau
  6. y detholiad o offer System Sain ar gyfer y digwyddiad
  7. pwysigrwydd gwybodaeth sy’n benodol i’r lleoliad
  8. y sefydliadau iechyd a diogelwch perthnasol a’u rôl
  9. y gofynion o ran y prif gyflenwad pŵer ar gyfer y System Sain
  10. y broses cynhyrchu sain byw
  11. sut i adolygu’r fideo o’r perfformiad

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ebr 2016

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative and Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSMT34

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianwyr Recordio, Peirianwyr Darllediadau tu allan / ôl gynhyrchu, Peirianwyr sain byw, Cymysgu Darlledu Allanol Byw, peirianwyr Blaen y Tŷ, Perfformwyr

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Nodweddion lleoliadau byw; gwelliannau adferol i acwsteg; cynllun yr ystafell; cefn y llwyfan; blaen y llwyfan; Llinellau oedi; clwstwr canolog; seinyddion ochr y llwyfan (side fills); synhwyrydd clust (IEM); mono; stereo; rhwydweithiau croesi gweithredol; cyfyngwyr; Cyfarwyddwr; Hyrwyddwr; Cynhyrchydd; Rheolwr Llwyfan; Rheolwr Taith; Rheolwr Cynhyrchu; Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol (ASM); Dirprwy Reolwr Llwyfan (DSM); Gweithredwyr; Dylunwyr; Criw goleuo; Peiriannydd Blaen y Tŷ; Peiriannydd Sain-gyfeirio; Technegydd Llwyfan; ymarfer technegol; anghenion perfformwyr; sgriptiau plot / rhybuddnod; coreograffi; cyfarfodydd cynhyrchu; amser atsain (RT60); nodweddion cyson yr ystafell; lledaeniad; deddf sgwâr gwrthdro; tonnau sefydlog; dadansoddiad sbectrwm; trosglwyddo sioe; systemau cyfathrebu; rheoli sioe; offer sylfaenol; gwiriadau sain; ymarferion technegol; Blwch Chwistrellu Uniongyrchol (DI); microffonau radio; atseinio glân; yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE); awdurdod lleol; Cymdeithas Technegwyr Theatr Prydain (ABTT); Cymdeithas Goleuo a Sain Proffesiynol (PLASA); Cydraddolwr (EQ); sain; cerddoriaeth; technoleg cerddoriaeth; Digwyddiadau Byw; Arddangosfeydd;