Gosod, cyflunio a chynnal a chadw cyfarpar, meddalwedd, caledwedd ac offerynnau’r stiwdio
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gosod, cyflunio a chynnal a chadw cyfarpar, meddalwedd, caledwedd ac offerynnau'r stiwdio. Mae'n bosib mai diben y cyfarpar, meddalwedd a chaledwedd ydy recordio, meistroli, golygu neu gymysgu ac fe all ymdrîn â meicroffonau, clustffonau, seinyddion ac offerynnau. Mae'n ymwneud â dewis cyfarpar, gosod, cysylltu a llwybro cyfarpar, gwirio a datrys problemau gyda llwybrau signal ac ymarferoldeb, cloi a chysoni cyfarpar a chynnal gwiriadau cynnal a chadw arferol a mân drwsiadau.
Mae'r safon hon ar gyfer peirianwyr stiwdio, peirianwyr recordio, peirianwyr golygu, peirianwyr meistroli, peirianwyr cymysgu, rhaglenwyr, ymarferwyr technoleg cerddoriaeth ac aelodau timau cefnogaeth dechnegol sy'n gosod, cyflunio a chynnal a chadw cyfarpar stiwdio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis cyfarpar, caledwedd, meddalwedd ac offerynnau i fodloni'r gofynion creadigol
- cydymffurfio gyda chytundebau gwifro a llwybro'r stiwdio
gosod y cyfarpar yn y mannau cywir
- defnyddio cysylltwyr sy'n briodol i'r cyfarpar a'r llwybr signal
- defnyddio systemau paru gwifrau (patchbay) i lwybro signalau sain rhwng darnau o gyfarpar pan allan nhw gynnig rhesymoliad i systemau stiwdios
- mesur presenoldeb signalau ger mannau allweddol i sicrhau bod llif signal amlwg ar hyd cadwyni sain analog a digidol
- cloi a chysoni cyfarpar gyda'i gilydd i fodloni gofynion
- profi cyfarpar i sicrhau ei fod wedi'i gyflunio ac yn gweithio fel y disgwylir iddo wneud
- adnabod unrhyw gydrannau diffygiol neu broblemau gyda chysylltedd neu wifriad
- amnewid cydrannau a chysylltyddion ynghyd â chynnal gwaith trwsio sy'n berthnasol i'ch maes arbenigedd chi
- rhoi gwybod i'r bobl briodol am unrhyw ddiffygion nad oes modd ichi eu datrys
- llunio taflenni system paru gwifrau (patchbay) ac adalw ar y ffurf gywir
- cydymffurfio gyda gofynion iechyd a diogelwch bob amser
- gwirio cyflwr yr offerynnau a'r cyfarpar yn rheolaidd er mwyn sicrhau defnydd diogel ac effeithiol cyson
- adnabod diffygion gyda chyfarpar a ffynonellau trwsio a chynnal a chadw priodol
gwneud defnydd effeithiol o’r systemau a'r cyfarpar cefnogaeth dechnegol sydd ar gael
- cofnodi manylion am unrhyw offeryn neu gyfarpar rydych yn amau sydd mewn cyflwr anniogel neu gafodd ei niweidio tra'r oeddech yn ei ddefnyddio, ar unwaith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion iechyd a diogelwch gan gynnwys y rheiny sy'n ymwneud â gwrando'n ddiogel, trefniadau diogelu i atal colli clyw a gweithio gyda chyfarpar trydan
- ystod, dewis a safle cyfarpar, meddalwedd a chaledwedd i fodloni gofynion creadigol gan gynnwys meicroffonau, clustffonau, seinyddion, offerynnau a'r cyfarpar ar gyfer recordio, meistroli, golygu a chymysgu
- opsiynau gwifriad rheoli a llwybro sain nodweddiadol
- monitro signalau a pherthnasau sain-gyfeirio
- y gwahaniaeth o ran lefel rhwng signalau'r meicroffon, llinell far, clustffonau a seinyddion
- sut i gyfrifo a mesur signalau sain a pharamedrau cyfarpar sain
- ffynonellau ynni a phŵer sylfaenol a'r peryglon ynghlwm â folteddau a cherrynt
- nodweddion trydanol ar gyfer ffurfiau mono, stereo a ffurfiau aml-sianel eraill
- protocolau cyfathrebu digidol gan gynnwys MIDI, FIREWIRE, LAN, S/PDIF a'r gofynion ar gyfer dargludyddion ar wahân llwybrau signal digidol ac analog
- mathau o brotocolau cydgysylltiad angenrheidiol i gynnal llwybrau signal digidol ac analog clir
- gofynion ar gyfer cryfder a gwydnwch cysylltyddion, mathau cyffredin o gysylltyddion analog a digidol, y gwahanol fathau o gyfarpar a sut i'w hadnabod
- mathau o addasyddion
- mathau o gyfansoddion electronig, eu gwerthoedd, sut i wirio am a chanfod cydrannau diffygiol, ac adnabod cydrannau newydd o werthoedd priodol
- pwy ddylech chi eu hysbysu am ddiffygion a phryd y mae'n briodol ichi wneud hynny
- mathau o wifrau 'patchbay', defnyddiau cywir o gyfluniadau 'patchbay' a'r manteision ac anfanteision ynghlwm â defnyddio gwifriad 'patchbay
- gwirio didoriant signal rhwng dau bwynt a sut i gynnal gwiriadau didoriant rhwng dargludwyr trydanol gan gynnwys defnyddio amlfesurydd
dulliau cyffredin gaiff eu defnyddio i wirio bod signal wedi cyrraedd pen ei daith ar y gadwyn signal sain
sut i baratoi, plicio a sodro ceblau a gwifrau
- sut i adnabod ac ynysu problemau trydanol cyffredin
- sut i wirio gwifrau a cheblau ac achosion diffygion nodweddiadol gan gynnwys difrod yn sgil symud y cyfarpar a chymalau sych
- egwyddorion sylfaenol trawsyrru, cyfyngiadau, oedi (amser prosesu) a pherfformiad nodweddiadol rhwydweithiau, Technoleg Gwybodaeth a dyfeisiau
- terminoleg a diffiniadau perthnasol ar gyfer systemau digidol a rheoli rhwydweithiau ynghyd ag egwyddorion ffurfiau analog o reoli a throsi o gymharu â rheoli a rhwydweithiau digidol
- cyfathrebiadau data, cywiro gwallau, rhyngwynebu data, a sut i ryngwynebu dyfeisiau sain gyda systemau gweithredu cyfrifiaduron
- cyfyngiadau gweithredol a thechnegol recordio a'r signal
- ffurfiau recordio a safonau technegol cysylltiedig