Cytuno ar a goruchwylio trefniadau ar gyfer sesiynau recordio
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gwneud trefniadau ar gyfer sesiynau recordio a gofalu eu bod yn rhedeg fel y disgwylir iddyn nhw wneud. Mae'n bwysig gofalu y caiff slotiau amser priodol eu cadw a bod popeth ar gael er mwyn cynnal y sesiynau recordio cychwynnol a dilynol.
Mae hyn yn cynnwys ymateb i gyfarwyddiadau, cytuno ar hyd y sesiynau, y taliadau a'r cyfrifoldebau gan ofalu y cân nhw eu cyflawni, llunio cytundebau a chofnodion o ran trefnu cerddorion, taflenni traciau y sesiynau a'r cyfarpar. Hefyd mynd i'r afael â phroblemau a gwneud trefniadau ar gyfer sesiynau yn y dyfodol.
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gyfrifol am gytuno ar a goruchwylio trefniadau ar gyfer sesiynau recordio ond goruchwylwyr sain mwy na thebyg.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- darparu gwybodaeth briodol fel ymateb i gyfarwyddiadau ac ymholiadau ynghylch sesiynau recordio
- cytuno ar hyd y sesiynau recordio yn ogystal â'r taliadau amdanyn nhw gyda'r bobl berthnasol
- cadarnhau bod y lleoliad dan sylw ar gael am y cyfnod o amser rydych wedi cytuno arno
- cadarnhau bod y cyfarpar priodol ar gael er mwyn bodloni gofynion y sesiwn recordio
- gofalu eich bod yn trefnu unrhyw berfformwyr ychwanegol gofynnol ar gyfer sesiynau recordio
- llogi unrhyw gyfarpar arbenigol gofynnol, gan ffynonellau priodol, ar gyfer sesiynau recordio
- trefnu'r bobl briodol i baratoi a chynnal sesiynau recordio
- gofalu bod yr holl gytundebau sy'n gysylltiedig â'r sesiynau recordio wedi'u cyflwyno a'u harwyddo cyn cychwyn ar y sesiynau recordio
gofalu fod pawb ynghlwm yn ymwybodol o’r hyn ddisgwylir ganddyn nhw
- cadw cofnod o sesiynau recordio wedi'u trefnu ynghyd â'r cyfarpar perthnasol a staff ar systemau cyfundrefnol
- gofalu bod y cyfarpar a'r offerynnau'n bodloni'r gofynion o ran y cynllun a'r gosodiad ar gyfer sesiynau recordio
- gofalu bod unrhyw ddeunydd archif perthnasol ar gael ac yn barod cyn cychwyn ar y sesiynau recordio
- monitro cynnydd y sesiynau recordio'n barhaus
- gofalu eich bod yn cadw cofnodion manwl o'r sesiynau recordio yn unol â'r safonau ansawdd
- mynd i'r afael ag unrhyw broblemau sy'n codi yn ystod y sesiynau recordio er mwyn gofalu eu bod yn parhau fel y cynlluniwyd
- cytuno ar fanylion unrhyw sesiynau ychwanegol neu ddilynol gofynnol yn unol â'r gweithdrefnau cyfundrefnol
gofalu y caiff cyfryngau a chynnwys eu harchifo a’u cadw mewn man ble byddan nhw’n yn rhwydd i’w canfod ar gyfer sesiynau yn y dyfodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- beth sydd angen ei gadarnhau a'i drefnu cyn cadw lle
- sut i ddewis lleoliad i sicrhau bod acwsteg ddymunol yno
- system cadw lle'r stiwdio neu leoliad a'r amserlen dalu
- sut i drefnu perfformwyr ychwanegol fel cantorion cefndirol a cherddorion sesiynau (session musicians)
- lle i ganfod cyfarpar arbenigol a phrosesau i wneud hynny
- cyfrifon llogi'r mudiad
- y rolau technegol ynghlwm â gwahanol agweddau sesiynau recordio
y sgiliau a’r prosesau technegol ynghlwm â chynnal sesiwn recordio
- gofynion cytundebau ar gyfer perfformwyr ychwanegol a staff technegol
- dulliau cyfathrebu er mwyn cysylltu gyda pherfformwyr, eu rheolwyr a staff technegol
y safonau sydd angen eu cynnal mewn perthynas â chadw cofnodion a rheoli sesiynau recordio
- problemau cyffredin a all godi yn ystod sesiynau recordio a sut i fynd i'r afael â nhw
cofnodion cyflawn, wedi’u dyddio, o'r holl gyfryngau a chynnwys sydd wedi'u defnyddio mewn sesiynau recordio
- pwysigrwydd cofnodi a labelu cymysgeddau stereo, wedi'u cynhyrchu gan ddefnyddio deunydd archif, yn gywir
- dulliau ar gyfer cofnodi cynllun a gosodiad cyfarpar ac offerynnau gan gynnwys lluniau a diagramau
- y rhesymau dros gofnodi cynllun a gosodiad cyfarpar ac offerynnau a phryd mae hi'n briodol ichi wneud hynny
- lleoliadau addas i archifo data adalw electronig a chyfeirnod o'r daflen traciau
- yr wybodaeth ofynnol i gynnal ansawdd a dilyniant y perfformiad rhwng y gwahanol sesiynau recordio