Gwarchod perchenogaeth eich gwaith a hybu eich incwm yn y diwydiant cerddoriaeth
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gwarchod perchenogaeth eich gwaith a hybu eich incwm yn y diwydiant cerddoriaeth. Mae hyn ar wahân i ffioedd llawrydd dyddiol ac yn ymwneud yn benodol gydag eiddo deallusol, hawlfraint, breindaliadau a gwarchod perchenogaeth eich gwaith ar gyfer y dyfodol ym Mhrydain.
Mae'r safon hon yn ymwneud â gofalu eich bod yn ymwybodol o'r datblygiadau diweddaraf o ran deddfwriaeth ac ymarfer, adnabod eich hawliau, trin a thrafod cytundebau sy'n cydnabod eich hawliau, gofalu bod trefniadau ar gyfer taliadau mewn lle a pharchu hawliau pobl eraill.
Mae'r safon hon ar gyfer peirianwyr recordio llawrydd, peirianwyr golygu, peirianwyr meistroli, peirianwyr cymysgu a rhaglenwyr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gofalu eich bod yn ymwybodol o'r datblygiadau diweddaraf o ran deddfwriaeth ac ymarfer yn ymwneud ag eiddo deallusol (IP), hawlfraint a breindaliadau yn y diwydiannau cerddoriaeth a sain
- adnabod yr holl gyfleoedd ynghlwm â'ch gwaith yn ymwneud â pherchenogaeth eiddo deallusol, hawlfraint a breindaliadau
- gofalu bod eich cytundebau yn cydnabod unrhyw berchenogaeth eiddo deallusol a hawliau hawlfraint posib sydd gennych chi
- cofrestru eich gwaith trwy'r adnoddau cywir ar adegau priodol
- gofalu bod yr holl systemau ichi dderbyn unrhyw incwm parhaus am eich gwaith mewn lle
- gofalu eich bod yn cydymffurfio gyda gofynion cyfreithiol yn ymwneud ag eiddo deallusol a hawliau hawlfraint pobl eraill
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- dulliau perchenogaeth eiddo deallusol ym Mhrydain, trosglwyddo hawliau, hawliau cydamseru a therfynu Hawlfraint
- fframweithiau cyfreithiol, deddfwriaeth a chytundebau ar gyfer y diwydiant cerddoriaeth gan gynnwys cytundebau Hawlfraint
- sut i ennill incwm yn y diwydiannau sain a cherddoriaeth drwy freindaliadau
- rôl cynhyrchwyr a pheirianwyr yn y byd cerddoriaeth ym Mhrydain
- ffrydio, dosbarthu digidol a chredydau, problemau a gwybodaeth metadata
- asiantaethau casglu a'u rôl ym Mhrydain
- mudiadau incwm cerddoriaeth i aelodau a'u rôl
- rheolwyr gynhyrchwyr ym Mhrydain a'u rôl
- y mudiadau ym Mhrydain sy'n benodol i gynhyrchwyr a pheirianwyr
- sut i reoli deunydd sain pobl eraill ynghyd â beth ddylid ei wneud a beth na ddylid ei wneud gyda deunydd sain pobl eraill (caniatâd/hawliau)
- hawlfreintiau ac enillion incwm ar gyfer cyd-ysgrifenwyr ac ysgrifenwyr caneuon
- y defnydd o gyfrannau ysgrifenwyr ar ffurflenni PRS for Music ar gyfer
“gweithiau newydd” a phryd maen nhw’n briodol - effaith lladrata Eiddo Deallusol cerddoriaeth ar yr economi ac effaith lawr lwytho anghyfreithlon ar yr artist a’r cwmnïau record
- cytundebau i gynhyrchwyr, ail-gymysgwyr a pheirianwyr recordio rhwng y cwmni record a'r artist
- trefniadau a hawliau sylfaenol gyda gwaith datblygu megis Cynhyrchydd ac Artist(iaid)
- ystyr tebygol system 'pwynt canran' cynhyrchwyr