Meistroli allbynnau sain terfynol i fodloni gofynion creadigol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â meistroli allbynnau sain terfynol i fodloni gofynion creadigol. Mae hyn yn ymwneud â defnyddio sgiliau gwrando beirniadol i adnabod mân raddfeydd gwahanol mewn deunydd stereo wedi'u cymysgu'n wael, neu pan fyddwch yn cywasgu cymysgedd stereo i fod yn signal mono.
Mae'r safon hon yn ymwneud â gwerthuso deunydd sain yn feirniadol, adnabod problemau a thrwsio neu addasu deunydd sain i'w hadfer nhw, dewis ffurfiau priodol a meistroli allbynnau sain yn unol â'r gofynion ansawdd a diogelwch.
Mae'r safon hon ar gyfer peirianwyr recordio, peirianwyr golygu, peirianwyr meistroli, peirianwyr cymysgu a rhaglenwyr sy'n meistroli allbynnau sain terfynol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gosod man monitro priodol ar gyfer meistroli
cynnal dadansoddiad clywedol o allbynnau sain gan gydymffurfio gyda'r gofynion ansawdd a chreadigol y cytunwyd arnyn nhw
- defnyddio cyfarpar priodol i werthuso ansawdd y sain
- adnabod perfformiadau tiwnio neu draw sydd â phroblemau amlwg
adnabod mân raddfeydd o wahaniaeth yng nghyfansoddion cymysgeddau sy'n newid dros amser
adnabod union leoliadau allbynnau sain sydd â phroblemau amlwg
defnyddio datrysiadau wedi'u hawdurdodi i drwsio problemau a thrafferthion gyda'r sain
- cofnodi a rhoi gwybod am broblemau sain nad oes modd eu datrys a'u hachosion posib i'r bobl briodol
- dewis ffurfiau priodol ar gyfer allbynnau sain
- trawsyrru deunyddiau sain yn unol â'r gofynion ansawdd
gweithredu’r holl gyfarpar yn unol â'r gofynion diogelwch bob amser
ail-osod a thacluso’r holl gyfarpar pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i osod system monitro stereo sylfaenol A/B
- sgiliau gwrando beirniadol a sgiliau clywedol ynghyd â thechnegau dadansoddi sain
- y gwahaniaethau rhwng signalau mono a stereo a signalau graddoli mewn a graddoli allan yn y gadwyn signalau
- nodweddion darnau o gerddoriaeth o wahanol genres
- technegau recordio a chynhyrchu ynghyd ag offeryniaeth gaiff eu defnyddio mewn gwahanol genres
- agweddau o theori cerddoriaeth sylfaenol ac arddulliau gaiff eu creu
- cyfarpar i werthuso ansawdd a sut i'w ddefnyddio gan gynnwys seinyddion monitor cyfeirnod agos a phell a chlustffonau proffesiynol
- codecs digidol ac effeithiau defnyddio codecs graddfa crwcddarn uchel ac isel
- amryw o broblemau sain cyffredin
- datrysiadau a ganiateir ar gyfer trwsio problemau sain
- problemau stereo gallwch chi neu na allwch chi eu trwsio
- problemau sain nad oes modd eu trwsio
ansawdd chwarae amryw gyfryngau defnyddwyr
- sut i adnabod perfformiadau tiwnio neu draw gwael
- cyfansoddion cymysgeddau a all newid dros amser gan gynnwys cydbwysedd amledd, cydbwysedd uchder sain, defnydd o effeithiau, effeithiau dynameg (gwahardd a chywasgu)
- sut i adnabod rhifau traciau'r rhannau anghyflawn
- yr ystod o ffurfiau ar gyfer allbynnau sain
- gofynion ansawdd a chreadigol
- egwyddorion iechyd a diogelwch o ran gwrando'n ddiogel gan gynnwys trefniadau diogelu i atal colli clyw