Cydraddoli deunydd sain i fodloni gofynion creadigol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chydraddoli deunydd sain i fodloni gofynion creadigol. Mae'r safon hon yn berthnasol gan fwyaf i waith mewn stiwdios. Mae'n ymwneud yn bennaf gyda chydraddoli cerddoriaeth ond fe all fod yn berthnasol i ffynonellau sain a sŵn eraill.
Mae'r safon hon yn ymwneud ag ymgynghori ar y gofynion ynghylch cydraddoli, penderfynu a ddylid cydraddoli deunydd, cydbwyso lefelau, addasu gosodiadau cydraddoli, recordio a rhoi adroddiad am rannau wedi'u cydraddoli a chadw ac archifo ffeiliau.
Mae'r safon hon ar gyfer peirianwyr recordio a rhaglenwyr sy'n cydraddoli deunydd sain i fodloni gofynion creadigol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
casglu gwybodaeth o ffynonellau perthnasol am y gofynion ar gyfer cydraddoli
mewnforio deunydd gofynnol i'w gydraddoli heb ei ddiraddio
- gwirio bod y cyfarpar a meddalwedd wedi'i osod ac yn gweithio fel y disgwylir iddo wneud
- penderfynu pryd i gydraddoli a phryd i adael signalau heb eu prosesu ar sail eich dadansoddiad personol chi o strwythur a thôn y deunydd ac yn dilyn ymgynghori gydag eraill
- gosod a gwirio bod cydbwysedd lefelau, cydraddoli a dynameg yn bodloni'r gofynion creadigol
- ychwanegu effeithiau penodol mewn mannau priodol
- cydbwyso traciau fel bod y sain yn gydlynol
- gwneud addasiadau a newidiadau gan ddefnyddio'r adrannau cydraddoli ar yr holl sianelau
- gwneud gwelliannau i ddeunyddiau sain yn unol â'r gofynion creadigol
gwneud recordiadau stereo o bob adran sydd wedi’i chydraddoli cyn ac ar ôl y gwaith cydraddoli
- cwblhau cofnodion ysgrifenedig o newidiadau i ddeunydd sain yn unol â gweithdrefnau wedi'u cydnabod gan y diwydiant
- cofnodi manylion unrhyw offeryn neu gyfarpar rydych yn amau ei fod mewn cyflwr anniogel, neu gaiff eu difrodi wrth ichi eu defnyddio, ar unwaith
- cadarnhau bod y gwaith wedi'i gwblhau yn bodloni'r gofynion ar gyfer ei gymeradwyo
- dogfennu a labelu ffeiliau gan ddefnyddio systemau labelu wedi'u cymeradwyo gan y diwydiant
cadw ac archifo ffeiliau mewn systemau rheoli ffeiliau sefydliadol
- tacluso, ail-osod a datgysylltu'r holl gyfarpar pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y mathau o systemau cydraddoli ynghyd â'u nodweddion, elfennau, defnyddiau tynnol ac adiol a gwahaniaethau gweithredol yn cynnwys systemau parametrig, lled-barametrig, falf a digidol (para-graffig)
sut i gysylltu systemau cydraddoli
sut i ddefnyddio adrannau cydraddoli ar drawfyrddau cymysgu, unedau caledwedd ac ategolion meddalwedd gweithfannau sain digidol
sut i ddefnyddio mewnosodiad cydraddoli a chysylltedd gyda gwahanol signalau sain
terminoleg systemau cydraddoli sydd wedi'u cymeradwyo gan y diwydiant
diben siartiau cydraddoli canllaw amledd
graddfeydd amledd cyffredin sy'n gysylltiedig ag offerynnau a lleisiau
sut i ddefnyddio cydraddoli i ddatrys neu wella deunydd sain aml-drac
sut i asesu a chofnodi defnyddiau cydraddoli
sut i archwilio effeithiau cydraddoli ar ddeunydd sain
pwy ddylech chi ymgynghori gyda nhw ynghylch gofynion creadigol gan gynnwys perfformwyr, cyfansoddwyr, rheolwyr a chydweithwyr a sut i gysylltu gyda nhw
buddion traciau cyfeirnod pan fyddwch yn cytuno ar ofynion creadigol
sut i ddadansoddi strwythurau coesau a rhannau o ddeunydd sain sydd wedi'u cyfansoddi
mathau o effeithiau a sut maen nhw'n effeithio ar ddeunydd sain gan gynnwys datseinedd, corws, oedi ar gyflymder gwahanol, graddoli a sbectrol
sut i fanteisio i'r eithaf ar drefniadau drwy gydbwyso lefelau
beth sydd ei angen ar gyfer derbyn cymeradwyaeth a'r goblygiadau ynghlwm â pheidio â derbyn cymeradwyaeth
protocolau safon diwydiant at gyfer labelu a ffeilio