Golygu deunydd sain i fodloni gofynion creadigol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â golygu deunydd ffynhonnell wedi'i recordio i fodloni'r gofynion creadigol. Mae'n debyg y bydd hyn yn ymwneud â cherddoriaeth ond fe allai fod yn berthnasol i ffynonellau sain eraill. Bydd mae'n debyg yn ymdrin â deunydd sydd wedi'i recordio yn ystod sawl cynnig.
Mae'r safon hon yn ymwneud ag adnabod gofynion a disgwyliadau golygu, dewis rhannau o sain sydd angen eu golygu, defnyddio technegau golygu cywir, cynnal gweithdrefnau i osgoi dirywiad a dogfennu, labelu, cadw ac archifo ffeiliau.
Mae'r safon hon ar gyfer peirianwyr recordio, peirianwyr golygu, peirianwyr meistroli, peirianwyr cymysgu a rhaglenwyr sy'n golygu deunydd sain i fodloni'r cyfarwyddyd creadigol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- casglu gwybodaeth gan ffynonellau perthnasol ynghylch gofynion a disgwyliadau golygu
- mesur yr amser cyffredinol ac asesu cynnwys y cynigion sain gan ystyried y gofynion a'r disgwyliadau
- dewis rhannau o'r ystod o gynigion sydd ar gael a fydd yn cyflawni'r canlyniadau gofynnol pan gân nhw eu golygu
- adnabod rhannau o'r sain sydd angen eu golygu neu eu mireinio
- defnyddio atebiadau golygu sy'n datrys problemau a gwella'r sain
- dileu sŵn di-angen ac addasu gwallau amseru, cyflymder a thempo gan ddefnyddio technegau golygu manwl gywir
- defnyddio systemau golygu digidol ar y cyfrifiadur, dewislenni a pharamedrau yn unol â chyfarwyddiadau'r datblygwyr meddalwedd
creu a chynhyrchu cywiriadau a gwelliannau i ffeiliau sain heb unrhyw ddirywiad amlwg yn y deunyddiau
- gofalu nad ydy'r sain yn dirywio neu'n diraddio wrth ichi ei golygu, trawsyrru a'i mewnforio
- gosod y fersiwn derfynol gyda'i gilydd gan ddefnyddio gwahanol gynigion sy'n bodloni'r fanyleb ofynnol o ran ansawdd ac amseru
- datrys problemau gyda'r cyfarpar a'r allbynnau rydych yn gyfrifol amdanyn nhw pan maen nhw'n digwydd
- cyfeirio unrhyw broblemau na allwch chi eu datrys i'r bobl briodol heb oedi
- cyfathrebu gyda'r bobl berthnasol ynghylch y cynnydd
- dogfennu a labelu ffeiliau gan ddefnyddio systemau sydd wedi'u cymeradwyo gan y diwydiant
- cadw ac archifo golygiadau fel ffeiliau sain newydd ar y cyd â'r copi sain gwreiddiol
- gofalu eich bod yn cydymffurfio gyda'r ymarfer cymeradwy fel bod modd i eraill ddefnyddio'ch recordiad heb orfod cyflawni unrhyw waith neu baratoadau pellach arno
- gofalu eich bod yn adalw ac archifo golygiadau'n ddiogel
ail-osod a thacluso’r cyfarpar pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
ffynonellau gwybodaeth ar ofynion golygu gan gynnwys y cyfarwyddyd creadigol
sut i weithredu a defnyddio nodweddion golygu ar raglen golygu digidol ar gyfrifiadur
ffyrdd y caiff paramedrau golygu digidol eu defnyddio
sut i baratoi a rheoli dewislenni a pharamedrau golygu digidol
ffurfiau mono, stereo ac aml-sianel eraill
pwysigrwydd cadw cynnwys sain gwreiddiol
sut i ddefnyddio sgiliau gwrando beirniadol i adnabod golygiadau gofynnol
sut i ddefnyddio elfennau priodol o drefniant cerddorol yn eich gwaith eich hun
sut i asesu ansawdd, amseru, cyflymder a thempo
sut i adnabod cyfyngau, cordiau, graddfeydd a dilyniannau cord gaiff eu defnyddio'n gyffredin wrth ymwneud ag arddulliau penodol
problemau golygu cyffredin cysylltiedig gyda sawl senario golygu
datrysiadau golygu sylfaenol i wella a thrwsio deunydd sain a dileu problemau gan gynnwys pesychu a thisian
gweithdrefnau ar gyfer gofalu nad ydy deunydd sain yn dirywio neu'n diraddio
y berthynas rhwng cadw amser a thempo
pwy i gyfathrebu gyda nhw a sut a phryd i wneud hynny gan gynnwys perfformwyr, cydweithwyr a goruchwylwyr
y gwahaniaethau rhwng golygu cynnwys byw a phan mae yna sawl cynnig
diben, a sut i gydosod, mân olygiadau drwm ac offerynnau taro i gyflwyno amseru perffaith o'r recordiad gwreiddiol
sut i gadw cynnwys wedi'i olygu a ffeiliau DAW yn eu cyflwr gwreiddiol, gan gynnwys defnyddio BWAV, WAV, AIFF, (ffurfiau ffeiliau) DVD, DVD RAM, CADI HD Digidol cludadwy, TAPE, DAT, CD, HD Allanol
sut i adfer a gwirio deunydd wedi'i olygu
sut i ddefnyddio dewislenni a pharamedrau i drosglwyddo a mewnforio sain
ymarfer cymeradwy yn gysylltiedig â thechnegau golygu, ansawdd allbynnau a dulliau archifo fel bod modd i eraill fanteisio ar eich recordiad heb unrhyw waith neu baratoadau pellach