Datblygu’r cyfarwyddyd dylunio ar gyfer ystafell reoli mewn stiwdio recordio, man chwarae’n fyw ac ystafell raglennu

URN: CCSMT1
Sectorau Busnes (Suites): Recordio Sain a Thechnoleg Cerddoriaeth
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu'r cyfarwyddyd ar gyfer dylunio ystafell reoli mewn stiwdio recordio arfaethedig, man chwarae'n fyw neu ystafell raglennu. Mae'n debyg y bydd y cyfarwyddyd hwn ar gyfer acwstegwyr, dylunydd stiwdio neu bensaer.

Mae'n ymwneud â phennu gofynion creadigol a ffisegol ynghyd â chyfyngiadau o ran cyllideb ac amser, ymchwilio mannau addas, asesu dyluniadau yn unol â'r gofynion a chydymffurfiaeth gyfreithiol, ynghyd â chytuno ar newidiadau i'r cyfarwyddyd neu'r dyluniadau.

Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n dymuno comisiynu dyluniad ar gyfer ystafell reoli arfaethedig mewn stiwdio recordio, man chwarae'n fyw cysylltiedig neu ystafell raglennu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​derbyn gwybodaeth gywir am y cyllidebau sydd ar gael a'r terfynau amser gofynnol
  2. cytuno ar y gofynion ynghylch gofod ac unrhyw ofynion materol eraill gyda rhanddeiliaid
  3. ymchwilio a chytuno ar ofynion creadigol ac acwstig dymunol gyda rhanddeiliaid
  4. llunio cyfarwyddyd sy'n pennu manylion llawn yr holl ofynion a'r cyfyngiadau
  5. llunio cyfarwyddyd mewn iaith eglur a diamwys
  6. archwilio mannau addas i'w trawsnewid
  7. adnabod pobl a mudiadau gydag arbenigedd perthnasol ddigonol yn ymwneud â dylunio stiwdio recordio
  8. cynnig cyfleoedd priodol i'r bobl neu'r mudiadau sy'n derbyn y cyfarwyddyd i egluro eich gofynion
  9. dadansoddi astudiaethau dichonoldeb a dyluniadau ar gyfer y gofod gaiff ei ddylunio gan ystyried y gofynion  
  10. gwirio bod ymateb cytbwys o gynlluniau drafft yn bodloni'r gofynion  
  11. gwirio bod y cynlluniau i drawsnewid dyluniad y stiwdio yn cydymffurfio gyda'r gofynion cyfreithiol

asesu'r amcan gostau adeiladu a gosod yn erbyn y gyllideb

  1. rheoli gwrthdaro rhwng gofynion dymunol a beth ellir ei gyflawni ar amseroedd priodol
  2. cytuno ar newidiadau i ddyluniadau a gofynion gyda'r bobl briodol

  3. asesu'r graddfeydd amser arfaethedig gan ystyried y gofynion


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. diben ystafelloedd rheoli mewn stiwdios recordio, mannau chwarae'n fyw cysylltiedig ac ystafelloedd rhaglennu

  2. sut i adnabod dichonolrwydd y mannau i'w trawsnewid i fod yn stiwdios recordio

  3. y rhanddeiliaid ynghlwm a sut i ymgynghori gyda nhw ynghylch gofynion materol, creadigol ac acwstig

  4. dulliau cyfathrebu ar gyfer cysylltu gydag arbenigwyr technegol a dylunwyr

  5. sut i ddatblygu a llunio cyfarwyddyd

  6. sut i asesu gofynion creadigol ac acwstig

  7. egwyddorion sain

  8. effeithiau'r gofynion ffisegol ar ddefnyddio'r stiwdio recordio

  9. sut i adnabod pobl gyda phrofiad posib mewn dylunio stiwdios recordio gan gynnwys acwstegwyr, dylunwyr stiwdios a phenseiri

  10. nodweddion arolwg dichonolrwydd gan gynnwys mesuriadau ac archwiliadau ynghylch cyflenwad y prif wifrau, awyru/gwresogi, gwyntyllu ac aerdymheru a nodweddion gofynnol eraill

  11. y deunydd, cyfarpar, unedau rhestlau a dodrefn angenrheidiol a'r rhesymau dros eu defnyddio

  12. pwysigrwydd ymchwil strwythurol ac acwstig

ble i ganfod gwybodaeth am y gyllideb a'r costau

  1. pwysigrwydd cadw cofnodion

  2. dulliau adeiladu'r stiwdio

  3. safonau adeiladu perthnasol i'r stiwdios recordio

  4. ffactorau iechyd a diogelwch perthnasol i'w hystyried gan gynnwys rheoli sŵn


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative and Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSMT36

Galwedigaethau Perthnasol

Peiriannydd Stiwdio , Gweithredwr Craen (Ffilm a theledu), Rheolwyr Stiwdio, Peirianwyr Recordio, Cynhyrchwyr Recordio, Peirianwyr Cymysgu, Peirianwyr Cynorthwyol, Peirianwyr Darllediadau tu allan / ôl gynhyrchu, Gweithredwyr Tapiau, Ysgrifenwyr , Cyd- ysgrifenwyr, Artistiaid, Peirianwyr Cynnal a Chadw, Rolau cefnogaeth dechnegol ar gyfer Recordio Sain a Thechnoleg Cerddoriaeth, Peirianwyr Sain Fyw , Dylunwyr Acwstig, Dylunwyr adeiladau acwsteg , Peirianwyr Golygu, Acwstegwyr, Peiriannydd Cynnal a Chadw Darlledu, Gweinyddwr Digwyddiadau Byw, Gweinyddwr Tai Cynorthwyol, Person cymwys priodol

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Cyfarwyddyd dylunio; Dylunio; Stiwdio recordio; Ystafell raglennu; Man cerddoriaeth fyw; Perfformiad; Sain; Cerddoriaeth ; Technoleg Cerddoriaeth; Recordio Sain