Meithrin perthnasoedd ac ymddiriedaeth gyda grwpiau cymunedol ac oddi mewn iddynt er mwyn ysbrydoli pobl i fanteisio ar eich sesiwn/sesiynau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â sefydlu grwpiau newydd o gyfranogwyr ar gyfer rhaglenni dawns. Mae'n rhaid i arweinwyr dawns allu ennyn diddordeb, ysgogi unigolion i gymryd rhan yn eu rhaglenni dawns a bod yn eglur ynghylch yr hyn sydd ganddynt i’w gynnig. Pan fydd unigolion yn cytuno i gymryd rhan, mae angen iddynt deimlo eu bod yn cael gwrandawiad ac yn cael eu gwerthfawrogi a'u bod yn ddiogel yn yr amgylchedd a grëwyd gan yr arweinydd dawns, eu bod yn deall yr ymrwymiad y disgwylir iddynt ei wneud a'r hyn a gynigir iddynt yn gyfnewid am hynny.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi angen clir am eich rhaglen ddawns
- trafod a chytuno ar ddiben a sail unrhyw weithgaredd dawns a yrrir gan agendâu cymdeithasol i gydweddu â'ch sgiliau chi a gofynion y grwp a'r cyllidwr
- cyfathrebu ar lefel sy'n cyfateb i anghenion eich cleientiaid a rhanddeiliaid eraill
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae nodi ac ymchwilio i'r farchnad ar gyfer eich gweithdy neu eich rhaglen ddawns
- pwysigrwydd ac effaith cyfathrebu effeithiol - gwybod sut mae ymchwilio i'r sianeli cyfathrebu gorau ar gyfer y gymuned rydych chi’n awyddus i weithio gyda hi
- pennu cyflymder prosiectau a chynllunio amserlenni sy'n berthnasol i'r cymunedau y byddwch yn gweithio gyda nhw
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae agendâu cymdeithasol yn y safon hon yn cyfeirio at fentrau mae'r llywodraeth yn eu harwain a all olygu bod ffynhonnell gyllido’r sesiynau dawns yn cael ei gyrru, er enghraifft, gan flaenoriaethau a thargedau iechyd, addysg neu gyfiawnder troseddol